Fy ngwlad:
""

Cyrsiau Byr a Hyfforddiant DPP

Ehangwch eich sgiliau, archwiliwch bynciau newydd, neu cymrwch y cam nesaf yn eich gyrfa gyda chyrsiau byr a DPP Prifysgol Bangor. P’un a ydych yn edrych am gyrsiau byrion, cymhwyster proffesiynol, neu’r cam gyntaf tuag at radd, rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd sydd wedi’u cynllunio i ffitio o amgylch eich ymrwymiadau chi.

Os ydych chi’n ddysgwr unigol neu’n fusnes sy’n awyddus i fuddsoddi mewn datblygiad staff, rydym yma i’ch helpu. Porwch ein cyrsiau heddiw neu gwnewch gais i gyfarfod aelod o’r tîm er mwyn trafod cyfleoedd hyfforddi pwrpasol.

Hyblyg a Hygyrch – Astudiwch ar-lein neu ar y campws, gyda rhai cyrsiau wedi’u teilwra i’ch amserlen chi.
Dysgwch gan Arbenigwyr – Dysgwch gan academyddion a gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
Cydnabyddedig ac Achrededig – Mae micro-gymwysterau a thystysgrifau DPP yn ffordd effeithiol o dystiolaethu eich dysgu.
Ffocws ar Ddysgu Gydol Oes – Mae dysgu gydol oes, hygyrch yn ganolog i’n darpariaeth - o uwchsgilio yn y gweithle i ddatblygiad personol.

Cyrsiau Byr a Micro-gymwysterau – Cymwysterau cydnabyddedig ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol sy’n deillio o’n rhaglenni gradd.
Hyfforddiant DPP – Ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n dymuno uwchsgilio, ailsgilio, neu ennill oriau a thystysgrifau DPP.
Dosbarthiadau Nos, Cyrsiau Ar-lein ac Ysgolion Haf – Opsiynau hyblyg ac amrywiol.
MOOCs – Cyrsiau ar-lein, am ddim i ehangu eich gwybodaeth.
Hyfforddiant pwrpasol i Fusnesau – Rhaglenni wedi’u teilwra i helpu sefydliadau i ddatblygu arweinyddiaeth, mynd i’r afael â heriau sector, ac uwchsgilio’r gweithlu.

Croeso i Brifysgol Bangor, lle rydym yn rhagori mewn cyfleoedd dysgu gydol oes hyblyg.

0:00

Ydych chi'n barod i ddatblygu eich sgiliau,

0:08

i roi hwb i’ch gyrfa,

0:09

neu’n syml iawn, ydych chi’n awyddus i ddysgu rhywbeth newydd?

0:10

Mae ein Cyrsiau Byr a’n rhaglenni Datblygiad Proffesiynol

0:13

wedi eu dylunio i ffitio o’ch amgylch chi.

0:17

Gallwch ddysgu wrth eich pwysau ac ar eich telerau eich hun.

0:22

Mae dewis eang o bynciau ar gael ar-lein

0:23

neu yma ar ein campws ym Mangor.

0:27

Ymunwch â chymuned o ddysgwyr brwd

0:29

a manteisiwch ar ein tiwtoriaid rhagorol.

0:30

Ewch draw i’r wefan heddiw,

0:33

a daliwch ati i ddysgu efo Prifysgol Bangor.
 

0:35

Ein cyrsiau byr

Addysg Weithredol:

Mae Addysg Weithredol Ysgol Busnes Bangor yn cynnig ystod o raglenni dysgu o bell arloesol. Mae'r holl fodiwlau ar y MBA Bancwr Siartredig a'r MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol ar gael i'w hastudio fel modiwl annibynnol.

Wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol canol gyrfa sy'n gweithio yn y diwydiant gwasanaethau ariannol neu reoleiddio. Rhoddir ystyriaeth i unigolion sydd ag ychydig iawn o brofiad neu gymwysterau.

Modiwlau ôl-raddedig sy'n cynnwys credydau 

 

Micro-gymwysterau:

Seicoleg Perfformiad Unigol  

Y Ddeuad Hyfforddi

PERFFORMIO DAN BWYSAU  

HYFFORDDIANT SGILIAU SEICOLEGOL

Deall Personoliaeth

Seicoleg Perfformiad Tîm

Micro-gymwysterau:

CYNLLUNIO IEITHYDDOL

 

 

Ieithoedd i Bawb:

Mae’r cyrsiau iaith 10 wythnos hyn wedi eu llunio i ddarparu ar gyfer amryw o lefelau, o ddechreuwyr hyd at ddysgwyr sydd eisiau gloywi medrau iaith a/neu barhau ar ôl astudiaethau TGAU/lefel A.

Mae Ieithoedd i Bawb yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau nos mewn pum iaith:

Ffrangeg

Almaeneg

Eidaleg

Sbaeneg

Tsieinëeg (Mandarin)


Ieithoedd i Bawb

Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin – Cyrsiau i Bob Lefel

P’un a ydych chi’n ddechreuwr neu’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach, mae Prifysgol Bangor yn cynnig rhaglen strwythuredig ac effeithiol i gefnogi oedolion sy’n dysgu Cymraeg.

  • Mynediad – Yn cyflwyno geirfa, patrymau iaith sylfaenol ac ymadroddion pob dydd, gyda phwyslais ar siarad yr iaith.
  • Lefelau Eraill – Mae cyrsiau lefelau eraill yn cynnwys cyrsiau Mynediad Lefel 2, Sylfaen, Canolradd, ac Lefel Uwch 1, 2 a 3. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau gloywi sydd wedi’u teilwra ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd sydd wedi cwblhau lefel Uwch. Nod cyffredinol y cyrsiau ydy datblygu sgiliau siaradwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus.

Cynhelir cyrsiau mewn cymunedau ar draws Gwynedd, Môn a Chonwy, yn ogystal ag ar-lein ar wahanol adegau i gyd-fynd â’ch anghenion.

I gofrestru ewch i dysgucymraeg.cymru a dilyn dolen 'dod o hyd i gwrs'.

Cysylltwch am wybodaeth bellach: 01248 383928 /  dysgucymraeg@bangor.ac.uk

Dilynwch ni ar Instagram