Myfyrwyr yn gweithio mewn grŵp yn un o stafelloedd darllen traddodiadol y Brifysgol, yn y Prif Adeilad

Polisi Iaith Prifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi datblygu Polisi Iaith Gymraeg cynhwysfawr.

Mae'r polisi'n amlinellu deg egwyddor sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg.

  • darpariaeth academaidd,
  • gwasanaethau,
  • defnyddio'r Gymraeg gan staff,
  • datblygu polisïau a phrojectau a chadw cofnodion.

Polisi Iaith

Canllaw Cyflym

Mae Polisi Iaith Gymraeg Prifysgol Bangor yn ogystal â'r Cod Ymarfer ar Benodi Staff yn unol â'r Safonau Iaith Gymraeg yn galluogi'r brifysgol i gyflawni ei hamcan strategol o fod yn sefydliad dwyieithog sy'n cyfrannu'n flaengar i ddatblygu'r iaith Gymraeg ac agenda dwyieithog yn y brifysgol, yr ardal gyfagos, ac yn genedlaethol a rhyngwladol. Mae'r polisi'n galluogi'r brifysgol hefyd i weithredu Safonau’r Iaith Gymraeg sydd wedi'u gosod arnom gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg.

Mae Safonau'r Iaith Gymraeg a Pholisi Iaith Gymraeg y brifysgol yn disodli ein Cynllun Iaith Gymraeg.

Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda os oes gennych unrhyw Sylwadau neu Gwynion yn ymwneud â Pholisi Iaith Gymraeg y brifysgol neu'r ffordd rydym yn gweithredu Safonau'r Iaith Gymraeg.

I bwy y mae'r Polisi Iaith Gymraeg yn berthnasol?

Mae'r Polisi Iaith Gymraeg yn cyfeirio at waith y brifysgol gyda myfyrwyr, staff, unigolion a sefydliadau y tu allan i'r brifysgol sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae'r polisi'n berthnasol i holl ganolfannau adnoddau / cost ym Mhrifysgol Bangor, yn ogystal ag i unrhyw is-gwmni sy'n eiddo llwyr i'r brifysgol, ac unrhyw gwmni trydydd parti sy'n darparu gwasanaeth ar ran y brifysgol yng nghyd-destun y gwasanaeth hwnnw.

Safonau'r Iaith Gymraeg

Mae Safonau'r Iaith Gymraeg yn set o 182 o ddatganiadau sy'n nodi sut mae'n rhaid i'r brifysgol weithredu o ran yr iaith Gymraeg. Mae'r Safonau wedi cael eu rhestru yn yr Hysbysiad Cydymffurfio sydd wedi'i gyflwyno i'r Brifysgol gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Dyma'r Rheoliadau sy'n berthnasol i sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach.

Mae'r 182 o ddatganiadau'n disgrifio'r 'safonau' y mae'n rhaid i'r Brifysgol eu cyrraedd wrth ymdrin â'r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yn monitro sut rydym yn cydymffurfio â'r Safonau Iaith Gymraeg.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?