Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i ehangu mynediad i addysg uwch ac mae’n derbyn myfyrwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Er mwyn cefnogi myfyrwyr i fynd i addysg uwch, rydym yn defnyddio nifer o ddangosyddion i nodi myfyrwyr a allai fod dan anfantais o ran cael mynediad i addysg uwch, er mwyn darparu cefnogaeth ychwanegol iddynt.
Cynigion Cyd-destunol
Yn ystod y broses dderbyn i’r brifysgol yng nghylch derbyniadau 2024/25 o fis Medi 2025, bydd y brifysgol yn defnyddio data cyd-destunol sydd ar gael i asesu a yw pob ymgeisydd yn gymwys am gynnig cyd-destunol, o ganlyniad i’n polisi ehangu mynediad. Mae hyn yn golygu y byddai eich cynnig yn debygol o fod yn is nag y byddech wedi ei gael fel arall. Bydd y cynnig yn adlewyrchu'r ffaith ein bod yn awyddus i sicrhau eich bod yn dewis astudio yma.
Mae ein cynigion cyd-destunol hefyd yn ymgorffori Cenhadaeth partneriaeth Prifysgol Bangor ac AaGIC (Addysg a Gwella Iechyd Cymru) i gefnogi myfyrwyr ar ein rhaglenni hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol.
Data Cyd-destunol – POLAR4 a Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
Os yw eich cod post yn dangos eich bod yn byw mewn cymdogaeth cyfranogiad isel mewn addysg uwch (yn cynnwys ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru) efallai y cewch gynnig cyd-destunol o ganlyniad i'n polisi ehangu mynediad.
Mae codau post yn cael eu categoreiddio yn ôl system godio POLAR4, sy'n nodi 5 haen o gyfranogiad mewn addysg uwch. Mae’r gyfran isaf o breswylwyr sydd wedi mynd i addysg uwch yn haen 1, ac mae'r gyfran uchaf yn haen 5.
Gwneir pob cynnig cyd-destunol ar sail y potensial i lwyddo yn y brifysgol hon ac ni fydd unrhyw gynigion yn seiliedig ar ddata cyd-destunol yn unig.
Data Cyd-destunol UCAS
Yn ystod cylch ymgeisio 2024/25 ar gyfer mis Medi 2025, bydd UCAS yn rhoi gwybodaeth gyd-destunol i brifysgolion am ddangosyddion economaidd-gymdeithasol eraill, fel y darperir gan ymgeiswyr wrth lenwi eu ceisiadau UCAS.
Bydd Prifysgol Bangor yn adolygu'r wybodaeth ychwanegol hon fel sail i ystyriaeth o gymhwysedd ar gyfer cynnig cyd-destunol. Mae’r data hwn yn cynnwys:
- Derbyn cinio ysgol am ddim
- Wedi dieithrio oddi wrth rieni
- Rhiant neu ofalwr yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig
- Wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig
- Cyfrifoldebau gofalu
- Yn byw gyda chyflwr iechyd corfforol a/neu gyflwr iechyd meddwl, salwch tymor hir neu wahaniaeth dysgu
- Wedi treulio amser mewn gofal
- Y cyntaf yn y teulu i fynd i'r brifysgol
Mae UCAS hefyd yn darparu data cyd-destunol i brifysgolion ynglŷn â pherfformiad yn yr ysgol (e.e. canlyniadau arholiadau). Gellir defnyddio'r wybodaeth hon adeg cadarnhad (canlyniadau arholiadau'r haf) i helpu i wneud penderfyniadau os nad yw ymgeiswyr wedi llwyr fodloni telerau eu cynnig.
Bydd y brifysgol yn adolygu’r polisi uchod ar ddiwedd pob cylch derbyniadau.