Modiwl CCB-1101:
Sgiliau Defnyddio'r Gymraeg 1
Sgiliau Defnyddio'r Gymraeg 1 2024-25
CCB-1101
2024-25
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Sian Esmor Rees
Overview
Bydd y modiwl yn gymorth i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau a'u hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu pynciau academaidd. Drwy gyfuniad o ddarlithoedd a gweithdai ymarferol yn y dosbarth, a gwaith annibynnol, bydd y modiwl yn rhoi sylw i sgiliau iaith, cyweiriau gwahanol, ac elfennau iaith fel y treigladau, gwallau cyffredin, ffurfiau'r berfau, a Saesneg yn Gymraeg. Bydd hyn yn gosod sail gadarn i fyfyrwyr ddefnyddio'r Gymraeg yn fwy cywir a hyderus yn eu hastudiaethau.
Byddwn yn cyflwyno adnoddau iaith cyfrifiadurol sydd ar gael i'n helpu i ddefnyddio'r Gymraeg, e.e. Cysgliad, geiriaduron electronig a gwefannau termau. Bydd cyfle i ddatblygu sgiliau gwrando, llafar, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg drwy wahanol weithgareddau e.e. tasgau gwrando, darllen, trafod ac ysgrifennu, a chyflwyniad llafar unigol. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyson ar eu gwaith, a bydd hyn yn eu helpu i gywiro a datblygu eu hiaith dros gyfnod y cwrs.
Bydd myfyrwyr yn dechrau datblygu dwy sgil benodol, sef crynhoi a thrawsieithu. Bydd y rhain yn eu helpu i drafod eu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn eu paratoi at weithle Cymraeg neu ddwyieithog. Byddant hefyd yn dysgu am rai o'r prif wahaniaethau rhwng iaith lafar ac iaith ysgrifenedig, ac yn cael cyfle i ddefnyddio gwahanol gyweiriau.
Bydd y modiwl yn gymorth i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau a'u hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu pynciau academaidd. Drwy gyfuniad o gyflwyniadau a gwaith ymarferol yn y dosbarth, a gwaith annibynnol, bydd y modiwl yn rhoi sylw i sgiliau iaith, cyweiriau gwahanol, ac elfennau iaith fel y treigladau, gwallau cyffredin, ffurfiau'r berfau, a Saesneg yn Gymraeg. Bydd hyn yn gosod sail gadarn i fyfyrwyr ddefnyddio'r Gymraeg yn fwy cywir a hyderus yn eu hastudiaethau.
Byddwn yn cyflwyno adnoddau iaith cyfrifiadurol sydd ar gael i'n helpu i ddefnyddio'r Gymraeg, e.e. Cysgliad, geiriaduron electronig a gwefannau termau. Bydd cyfle i ddatblygu sgiliau gwrando, llafar, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg drwy wahanol weithgareddau e.e. tasgau gwrando, darllen, trafod ac ysgrifennu, a chyflwyniad llafar unigol. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyson ar eu gwaith, a bydd hyn yn eu helpu i gywiro a datblygu eu hiaith dros gyfnod y cwrs.
Bydd myfyrwyr yn dechrau datblygu dwy sgil benodol, sef crynhoi a thrawsieithu. Bydd y rhain yn eu helpu i drafod eu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn eu paratoi at weithle Cymraeg neu ddwyieithog. Byddant hefyd yn dysgu am rai o'r prif wahaniaethau rhwng iaith lafar ac iaith ysgrifenedig, ac yn cael cyfle i ddefnyddio gwahanol gyweiriau.
Assessment Strategy
-threshold --D (40%)Peth meistrolaeth ar gywirdeb wrth siarad y Gymraeg •Peth meistrolaeth ar gywirdeb wrth ysgrifennu'r Gymraeg •Peth meistrolaeth ar gyweiriau llafar y Gymraeg •Peth meistrolaeth ar gyweiriau ysgrifenedig y Gymraeg •Peth dealltwriaeth o rai dulliau o loywi iaith •Peth meistrolaeth ar ddulliau cyfrifiadurol o loywi iaith •Peth meistrolaeth ar sgiliau crynhoi a thrawsieithu
-good --B (50%) • Meistrolaeth dda ar gywirdeb wrth siarad y Gymraeg •Meistrolaeth dda ar gywirdeb wrth ysgrifennu'r Gymraeg •Meistrolaeth dda ar gyweiriau llafar y Gymraeg •Meistrolaeth dda ar gyweiriau ysgrifenedig y Gymraeg •Dealltwriaeth dda o rai dulliau o loywi iaith •Meistrolaeth dda ar ddulliau cyfrifiadurol o loywi iaith •Meistrolaeth dda ar sgiliau crynhoi a thrawsieithu
-excellent --A (70%) •Meistrolaeth ardderchog ar gywirdeb wrth siarad y Gymraeg •Meistrolaeth ardderchog ar gywirdeb wrth ysgrifennu'r Gymraeg •Meistrolaeth ardderchog ar gyweiriau llafar y Gymraeg •Meistrolaeth ardderchog ar gyweiriau ysgrifenedig y Gymraeg •Dealltwriaeth ardderchog o rai dulliau o loywi iaith •Meistrolaeth ardderchog ar ddulliau cyfrifiadurol o loywi iaith •Meistrolaeth ardderchog ar sgiliau crynhoi a thrawsieithu
Learning Outcomes
- crynhoi a thrawsieithu deunydd cyffredinol / pynciol yn lled effeithiol
- dechrau cymryd cyfrifoldeb am loywi eu sgiliau ieithyddol eu hunain
- defnyddio offer cyfrifiadurol (e.e. Cysgliad, gwefannau termau) i ddatblygu eu hiaith
- siarad Cymraeg yn gywir ac yn y cywair priodol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd
- ysgrifennu Cymraeg yn gywir ac yn y cywair priodol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Ysgrifennu darn ffeithiol byr a'i gywiro
Weighting
10%
Due date
19/10/2022
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Ysgrifennu dau ddarn mewn dau gywair gwahanol
Weighting
20%
Due date
02/11/2022
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Crynhoi a Thrawsieithu
Weighting
20%
Due date
14/12/2022
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad llafar
Weighting
30%
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Tasg Gwrando a Deall
Weighting
10%
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Tasg Darllen a Deall
Weighting
10%