Modiwl CCB-3003:
Cymraeg Gwaith
Cymraeg Gwaith 2024-25
CCB-3003
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Sian Esmor Rees
Overview
Nod y modiwl yw datblygu sgiliau iaith y myfyrwyr gan ystyried pwrpas, cyfrwng a chynulleidfa wrth wneud gwaith llafar neu ysgrifenedig mewn cyd-destun proffesiynol. Bydd yn datblygu ymwybyddiaeth y myfyrwyr o gywirdeb yr iaith Gymraeg ac o wahanol gyweiriau iaith. Byddwn yn ystyried pa fath o gywair sy’n addas ar gyfer gwahanol gyd-destunau a gwahanol gyfryngau yn y gweithle Cymraeg a dwyieithog. Byddwn yn gwneud hyn yng nghyd-destun sgiliau cyflogadwyedd mwy cyffredinol.
Bydd y themâu ieithyddol yn cael eu datblygu drwy edrych ar ddwy agwedd benodol:
- gwahanol fathau o ysgrifennu, e.e. ysgrifennu esboniadol a disgrifiadol, ysgrifennu ar gyfer hyrwyddo a marchnata, ysgrifennu newyddiadurol ac ysgrifennu ar gyfer dehongli;
- gwahanol fathau o gyfryngau, e.e. cyfryngau print traddodiadol, cyfryngau electronig yn cynnwys cyfryngau cymdeithasol a gwefannau, a chyfryngau llafar amrywiol yn cynnwys cyflwyniadau llafar proffesiynol. Bydd y modiwl yn rhoi pwyslais ar ddatblygu ymwybyddiaeth a sgiliau iaith yr unigolyn yn y cyd-destun hwn yn ogystal ag yng nghyd-destun anghenion personol penodol y myfyriwr ei hun. Dyma fydd pwyslais y Cynllun Datblygu Personol.
Bydd wythnos o brofiad gwaith yn rhan greiddiol o’r modiwl lle bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i gymhwyso’r sgiliau y byddant wedi eu cael ar y modiwl (sgiliau iaith a sgiliau cyflogadwyedd) mewn ffordd ymarferol gyda gweithle go-iawn. Gallai hwn fod yn lleoliad o bell. Gydag arweiniad a chyngor gan Ganolfan Bedwyr, bydd gan y myfyrwyr ran flaenllaw wrth ddewis a threfnu’r lleoliad yn ôl eu diddordeb, eu dymuniadau a’u hanghenion eu hunain.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy (D- i D+)Tasg Asesu 1: Cyflwyno eich hunan i gyflogwr: Creu a chyfathrebu proffil personol i gyflogwr Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb iaith ar lafar ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl yn y cyflwyniad.Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth o gywirdeb iaith, egwyddorion sgiliau iaith cymhwysol a chywair iaith / Cymraeg Clir a’r gallu i’w defnyddio’nysgrifenedig ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.Ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol yn ysgrifenedig ac ar lafar ond heb eu defnyddio’n gywir yn gyson yn y cyflwyniad / gwaith.Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol elfennol.Gwaith ysgrifenedig yn adlewyrchu defnydd sylfaenol o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.Tasg Asesu 2 : Casgliad o ddeunyddiau ysgrifennu yn deillio o’r profiad gwaith yn dangos ymwybyddiaeth o ysgrifennu i bwrpas(au) penodolac ar gyfer cynulleidfa / cynulleidfaoedd penodol.Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb iaith wrth greu casgliad o adnoddau proffesiynol addas ond heb wneud hynny’n gyson athrwyadl.Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth elfennol o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir ond heb eu defnyddio’n gyson a thrwyadl.Gwaith yn adlewyrchu ystyriaeth elfennol o bwrpas a chyfrwng y darnau ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth o brif egwyddorion sgiliau iaith cymhwysol ond heb eu cymhwyso na’u defnyddio’n gyson a thrwyadl.Ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol ond heb eu defnyddio’n gywir yn gyson.Gwaith yn adlewyrchu defnydd sylfaenol o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.Tasg Asesu 3 : Tasg Sgiliau Iaith Cymhwysol (gwaith crynhoi; trawsieithu; cyfieithu neu olygu)Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb iaith ac o’r angen i ddefnyddio patrymau naturiol y Gymraeg ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth elfennol o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir ond heb eu defnyddio’n gyson a thrwyadl.Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth o brif egwyddorion y sgìl iaith cymhwysol a ddewiswyd ond heb eu cymhwyso’n gyson a thrwyadl.Ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol ond heb eu defnyddio’n gywir yn gyson.Gwaith yn adlewyrchu defnydd sylfaenol o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.Tasg Asesu 4 : Cyflwyniad proffesiynolGwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb iaith ar lafar ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl yn y cyflwyniad.Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth elfennol o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir ar lafar ond heb eu defnyddio’n gyson a thrwyadl yn ycyflwyniad.Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol elfennol.Gwaith yn dangos gallu elfennol i gynllunio a strwythuro cyflwyniad llafar proffesiynol.Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth o gywirdeb iaith, egwyddorion sgiliau iaith cymhwysol a chywair iaith / Cymraeg Clir a’r gallu i’w defnyddio’nysgrifenedig ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.Ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol yn ysgrifenedig ac ar lafar ond heb eu defnyddio’n gywir yn gyson yn y cyflwyniad / gwaith.Gwaith ysgrifenedig yn adlewyrchu defnydd sylfaenol o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.
-good -Da (C- i B+)Tasg Asesu 1: Cyflwyno eich hunan i gyflogwr: Creu a chyfathrebu proffil personol i gyflogwr Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth o gywirdeb iaith ar lafar gan wneud hynny’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r cyflwyniad.Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth o gywirdeb iaith, egwyddorion y sgiliau iaith cymhwysol a chywair iaith / Cymraeg Clir gan eu defnyddio’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r gwaith ysgrifenedig.Ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y rhan fwyaf o’r gwaith.Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol cadarn yn y rhan fwyaf o’r gwaith.Gwaith ysgrifenedig yn adlewyrchu defnydd cywir a chyson o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.Tasg Asesu 2 : Casgliad o ddeunyddiau ysgrifennu yn deillio o’r profiad gwaith yn dangos ymwybyddiaeth o ysgrifennu i bwrpas(au) penodol ac ar gyfer cynulleidfa / cynulleidfaoedd penodol.Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth o gywirdeb iaith wrth greu casgliad o ddeunyddiau proffesiynol addas gan wneud hynny’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r gwaith.Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir gan eu defnyddio’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r gwaith.Gwaith yn adlewyrchu ystyriaeth deg o bwrpas a chyfrwng y darnau, gan wneud hynny’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r gwaith.Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth o brif egwyddorion y sgiliau iaith cymhwysol gan eu cymhwyso a’u defnyddio yn y rhan fwyaf o’r gwaith.Ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir yn y rhan fwyaf o’r gwaith.Gwaith yn adlewyrchu defnydd cywir a chyson o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.Tasg Asesu 3 : Tasg Sgiliau Iaith Cymhwysol (gwaith crynhoi; trawsieithu; cyfieithu neu olygu)Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth o gywirdeb iaith ac o’r angen i ddefnyddio patrymau naturiol y Gymraeg, gan wneud hynny’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r gwaith.Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir gan eu defnyddio’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r gwaith.Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth o brif egwyddorion y sgìl iaith cymhwysol a ddewiswyd gan eu cymhwyso yn y rhan fwyaf o’r gwaith.Ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir yn y rhan fwyaf o’r gwaith.Gwaith yn adlewyrchu defnydd cywir a chyson o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol yn y rhan fwyaf o’r gwaith.Tasg Asesu 4 : Cyflwyniad proffesiynolGwaith yn dangos ymwybyddiaeth o gywirdeb iaith ar lafar gan wneud hynny’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r cyflwyniad.Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir ar lafar gan eu defnyddio yn y rhan fwyaf o’r cyflwyniad.Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol cadarn yn y rhan fwyaf o’r gwaith.Gwaith yn dangos gallu i gynllunio a strwythuro cyflwyniad llafar proffesiynol yn effeithiol at ei gilydd.Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth o gywirdeb iaith, egwyddorion y sgiliau iaith cymhwysol a chywair iaith / Cymraeg Clir gan eu defnyddio’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r gwaith ysgrifenedig.Ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y rhan fwyaf o’r gwaith.Gwaith ysgrifenedig yn adlewyrchu defnydd cywir a chyson o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.
-excellent -Rhagorol (A- i A)Tasg Asesu 1: Cyflwyno eich hunan i gyflogwr: Creu a chyfathrebu proffil personol i gyflogwr Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gref o gywirdeb iaith ar lafar yn gyson a thrwyadl drwy’r cyflwyniad.Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth o gywirdeb iaith, egwyddorion y sgiliau iaith cymhwysol a chywair iaith / Cymraeg Clir gan eu defnyddio’n gyson a thrwyadl yn y gwaith ysgrifenedig.Ymwybyddiaeth gref o dermau a geirfa’r maes gan eu defnyddio’n gywir yn gyson a thrwyadl ar lafar ac yn ysgrifenedig.Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol cadarn ac effeithiol iawn ar ei hyd.Gwaith ysgrifenedig yn adlewyrchu defnydd cyson ac effeithiol iawn o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.Tasg Asesu 2 : Casgliad o ddeunyddiau ysgrifennu yn deillio o’r profiad gwaith yn dangos ymwybyddiaeth o ysgrifennu i bwrpas(au) penodol ac ar gyfer cynulleidfa / cynulleidfaoedd penodol.Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gref o gywirdeb iaith wrth greu casgliad o ddeunyddiau proffesiynol addas gan wneud hynny’n gyson a thrwyadl.Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth gref o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir gan eu defnyddio’n gyson a thrwyadl.Gwaith yn adlewyrchu ystyriaeth fwriadus ac effeithiol o bwrpas a chyfrwng y darnau, gan wneud hynny’n gyson a thrwyadl.Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth gref o brif egwyddorion y sgiliau iaith cymhwysol gan eu cymhwyso a’u defnyddio’n gyson a thrwyadl.Ymwybyddiaeth gref o dermau a geirfa’r maes gan eu defnyddio’n gywir yn gyson a thrwyadl.Gwaith yn adlewyrchu defnydd cyson ac effeithiol iawn o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.Tasg Asesu 3 : Tasg Sgiliau Iaith Cymhwysol (gwaith crynhoi; trawsieithu; cyfieithu neu olygu)Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gref o gywirdeb iaith ac o’r angen i ddefnyddio patrymau naturiol y Gymraeg, gan wneud hynny’n gyson a thrwyadl.Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth gref o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir gan eu defnyddio’n gyson a thrwyadl.Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth gref o brif egwyddorion y sgìl iaith cymhwysol a ddewiswyd gan eu cymhwyso’n gyson a thrwyadl.Ymwybyddiaeth gref o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir yn gyson a thrwyadl.Gwaith yn adlewyrchu defnydd cyson ac effeithiol iawn o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.Tasg Asesu 4 : Cyflwyniad proffesiynol*Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gref o gywirdeb iaith ar lafar yn gyson a thrwyadl drwy’r cyflwyniad.Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth gref o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir ar lafar gan eu defnyddio’n gyson a thrwyadl yn ycyflwyniad.Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol cadarn ac effeithiol iawn ar ei hyd.Gwaith yn dangos gallu i gynllunio a strwythuro cyflwyniad llafar meistrolgar ac effeithiol.Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth o gywirdeb iaith, egwyddorion y sgiliau iaith cymhwysol a chywair iaith / Cymraeg Clir gan eu defnyddio’n gyson athrwyadl yn y gwaith ysgrifenedig.Ymwybyddiaeth gref o dermau a geirfa’r maes gan eu defnyddio’n gywir yn gyson a thrwyadl ar lafar ac yn ysgrifenedig.Gwaith ysgrifenedig yn adlewyrchu defnydd cyson ac effeithiol iawn o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.
Learning Outcomes
- Cymryd cyfrifoldeb cynyddol am sicrhau cywirdeb eu hiaith eu hunain gan ddatblygu eu hymwybyddiaeth ieithyddol ymhellach
- Defnyddio adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol yn effeithiol i’w cynorthwyo i gywiro eu gwaith eu hunain a chynyddu eu hymwybyddiaeth ieithyddol
ymhellach
- Defnyddio sgiliau iaith cymhwysol crynhoi, trawsieithu, cyfieithu a/neu olygu lle bo hynny’n addas yn ôl y sefyllfa, y gynulleidfa, pwrpas a chyfrwng y gwaith
- Defnyddio’r iaith Gymraeg yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y gweithle Cymraeg neu ddwyieithog
- Dod o hyd i derminoleg pynciau / meysydd amrywiol yn effeithiol a’i defnyddio’n hyderus iawn
- Drwy ystyried y cyd-destun a’r cyfrwng dan sylw, ystyried addasrwydd gwahanol gyweiriau iaith (ar lafar ac yn ysgrifenedig) ac egwyddorion
sylfaenol Cymraeg Clir a’u cymhwyso’n bwrpasol ac effeithiol iawn yn ôl sefyllfa, pwrpas a chynulleidfa
- Gallu cywiro a golygu gwallau elfennol a mwy cymhleth yng ngwaith rhywun arall
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad Proffesiynol
Weighting
30%
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Crynodol
Description
Cynllun Datblygu Personol a Chasgliad o Ddeunyddiau
Weighting
40%
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Sgiliau Iaith Cymhwysol: Crynhoi, trawsieithu, cyfieithu a golygu
Weighting
20%
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyno eich hunan i gyflogwr: Creu a chyfathrebu proffil personol i gyflogwr
Weighting
10%