Modiwl CXC-2034:
Iaith Gwaith
Iaith Gwaith 2024-25
CXC-2034
2024-25
School of Welsh
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Philip Davies
Overview
Prif nod y modiwl yw datblygu sgiliau iaith y myfyrwyr gan ganolbwyntio ar ystyried pwrpas, cyfrwng a chynulleidfa wrth wneud gwaith ysgrifenedig mewn cyd-destun proffesiynol. Datblygir ymwybyddiaeth y myfyrwyr o gyweiriau’r iaith a’u priodoldeb mewn amrywiol gyd-destunau ac ar gyfer gwahanol gyfryngau yn y gweithle Cymraeg a dwyieithog. Gwneir hyn yng nghyd-destun dilys sgiliau cyflogadwyedd mwy cyffredinol.
Bydd y themâu ieithyddol yn cael eu datblygu drwy edrych ar ddwy agwedd benodol:
gwahanol fathau o ysgrifennu, e.e. ysgrifennu esboniadol a disgrifiadol, ysgrifennu ar gyfer hyrwyddo a marchnata, ysgrifennu newyddiadurol;
gwahanol fathau o gyfryngau, e.e. cyfryngau print traddodiadol, cyfryngau electronig yn cynnwys cyfryngau cymdeithasol a gwefannau
Bydd pwyslais yn y modiwl ar ddefnyddio dulliau datblygu ymwybyddiaeth a sgiliau iaith yr unigolyn yn y cyd-destun hwn yn ogystal ag yng nghyd-destun anghenion personol penodol y myfyriwr ei hun.
Bydd wythnos o brofiad gwaith yn rhan greiddiol o’r modiwl lle bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i gymhwyso’r sgiliau a geir ar y modiwl (sgiliau iaith a sgiliau cyflogadwyedd) mewn ffordd ymarferol mewn gweithle go-iawn. Gydag arweiniad a chyngor gan Ganolfan Bedwyr, bydd gan y myfyrwyr ran flaenllaw wrth ddewis a threfnu’r lleoliad yn ôl eu diddordeb, eu dymuniadau a’u hanghenion eu hunain.
Mae’r cyflogwyr isod eisoes wedi mynegi ei cefnogaeth i’r cynllun ac wedi ymrwymo i gynnig lleoliadau i fyfyrwyr a fydd yn dilyn y modiwl:
Cyngor Gwynedd
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Grŵp Llandrillo Menai
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cyngor Ynys Môn
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Gwasanaeth y Llysoedd
Menter Môn
Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
BT
Heddlu Gogledd Cymru
Comisiynydd y Gymraeg
Llywodraeth Cymru
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy (-D - D+) Tasg Asesu 1: ysgrifennu Llythyr a CV 1. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb iaith ar lafar ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl yn y cyflwyniad. 2. Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth o gywirdeb iaith, egwyddorion sgiliau iaith cymhwysol a chywair iaith / Cymraeg Clir a’r gallu i’w defnyddio’n ysgrifenedig ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl. 3. Ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol yn ysgrifenedig ac ar lafar ond heb eu defnyddio’n gywir yn gyson yn y cyflwyniad / gwaith. 4. Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol elfennol. 5. Gwaith ysgrifenedig yn adlewyrchu defnydd sylfaenol o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.Tasg Asesu 2 : Casgliad o ddeunyddiau ysgrifennu yn deillio o’r profiad gwaith yn dangos ymwybyddiaeth o ysgrifennu i bwrpas(au) penodol ac ar gyfer cynulleidfa / cynulleidfaoedd penodol. 6. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb iaith wrth greu casgliad o adnoddau proffesiynol addas ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl. 7. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth elfennol o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir ond heb eu defnyddio’n gyson a thrwyadl. 8. Gwaith yn adlewyrchu ystyriaeth elfennol o bwrpas a chyfrwng y darnau ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl. 9. Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth o brif egwyddorion sgiliau iaith cymhwysol ond heb eu cymhwyso na’u defnyddio’n gyson a thrwyadl. 10. Ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol ond heb eu defnyddio’n gywir yn gyson. 11. Gwaith yn adlewyrchu defnydd sylfaenol o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.Tasg Asesu 3 : Tasg Sgiliau Iaith Cymhwysol (gwaith crynhoi; trawsieithu; cyfieithu neu olygu) 12. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb iaith wrth wneud gwaith trawsieithu ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl. 13. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth elfennol o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir ond heb eu defnyddio’n gyson a thrwyadl. 14. Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth o brif egwyddorion y sgìl iaith cymhwysol a ddewiswyd ond heb eu cymhwyso’n gyson a thrwyadl. 15. Ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol ond heb eu defnyddio’n gywir yn gyson. 16. Gwaith yn adlewyrchu defnydd sylfaenol o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.Tasg Asesu 4 : Cyflwyniad proffesiynol 17. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb iaith ar lafar ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl yn y cyflwyniad. 18. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth elfennol o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir ar lafar ond heb eu defnyddio’n gyson a thrwyadl yn y cyflwyniad. 19. Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol elfennol. 20. Gwaith yn dangos gallu elfennol i gynllunio a strwythuro cyflwyniad llafar proffesiynol. 21. Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth o gywirdeb iaith, egwyddorion sgiliau iaith cymhwysol a chywair iaith / Cymraeg Clir a’r gallu i’w defnyddio’n ysgrifenedig ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl. 22. Ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol yn ysgrifenedig ac ar lafar ond heb eu defnyddio’n gywir yn gyson yn y cyflwyniad / gwaith. 23. Gwaith ysgrifenedig yn adlewyrchu defnydd sylfaenol o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.
-good -Da (-B - B+) Tasg Asesu 1: Ysgrifennu llythyr a CV 1. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth o gywirdeb iaith ar lafar gan wneud hynny’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r cyflwyniad. 2. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth o gywirdeb iaith, egwyddorion y sgiliau iaith cymhwysol a chywair iaith / Cymraeg Clir gan eu defnyddio’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r gwaith ysgrifenedig. 3. Ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y rhan fwyaf o’r gwaith. 4. Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol cadarn yn y rhan fwyaf o’r gwaith. 5. Gwaith ysgrifenedig yn adlewyrchu defnydd cywir a chyson o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.Tasg Asesu 2 : Casgliad o ddeunyddiau ysgrifennu yn deillio o’r profiad gwaith yn dangos ymwybyddiaeth o ysgrifennu i bwrpas(au) penodol ac ar gyfer cynulleidfa / cynulleidfaoedd penodol. 6. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth o gywirdeb iaith wrth greu casgliad o ddeunyddiau proffesiynol addas gan wneud hynny’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r gwaith. 7. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir gan eu defnyddio’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r gwaith. 8. Gwaith yn adlewyrchu ystyriaeth deg o bwrpas a chyfrwng y darnau, gan wneud hynny’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r gwaith. 9. Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth o brif egwyddorion y sgiliau iaith cymhwysol gan eu cymhwyso a’u defnyddio yn y rhan fwyaf o’r gwaith. 10. Ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir yn y rhan fwyaf o’r gwaith. 11. Gwaith yn adlewyrchu defnydd cywir a chyson o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.Tasg Asesu 3 : Tasg Sgiliau Iaith Cymhwysol (gwaith crynhoi; trawsieithu; cyfieithu neu olygu) 12. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth o gywirdeb iaith wrth wneud gwaith trawsieithu gan wneud hynny’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r gwaith. 13. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir gan eu defnyddio’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r gwaith. 14. Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth o brif egwyddorion y sgìl iaith cymhwysol a ddewiswyd gan eu cymhwyso yn y rhan fwyaf o’r gwaith. 15. Ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir yn y rhan fwyaf o’r gwaith. 16. Gwaith yn adlewyrchu defnydd cywir a chyson o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol yn y rhan fwyaf o’r gwaith.Tasg Asesu 4 : Cyflwyniad proffesiynol 17. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth o gywirdeb iaith ar lafar gan wneud hynny’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r cyflwyniad. 18. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir ar lafar gan eu defnyddio yn y rhan fwyaf o’r cyflwyniad. 19. Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol cadarn yn y rhan fwyaf o’r gwaith. 20. Gwaith yn dangos gallu i gynllunio a strwythuro cyflwyniad llafar proffesiynol yn effeithiol at ei gilydd. 21. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth o gywirdeb iaith, egwyddorion y sgiliau iaith cymhwysol a chywair iaith / Cymraeg Clir gan eu defnyddio’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r gwaith ysgrifenedig. 22. Ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y rhan fwyaf o’r gwaith. 23. Gwaith ysgrifenedig yn adlewyrchu defnydd cywir a chyson o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.
-excellent -Rhagorol (-A - A)Tasg Asesu 1: Ysgrifennu llythyr a CV* 1. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gref o gywirdeb iaith ar lafar yn gyson a thrwyadl drwy’r cyflwyniad. 2. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth o gywirdeb iaith, egwyddorion y sgiliau iaith cymhwysol a chywair iaith / Cymraeg Clir gan eu defnyddio’n gyson a thrwyadl yn y gwaith ysgrifenedig. 3. Ymwybyddiaeth gref o dermau a geirfa’r maes gan eu defnyddio’n gywir yn gyson a thrwyadl ar lafar ac yn ysgrifenedig. 4. Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol cadarn ac effeithiol iawn a rei hyd. 5. Gwaith ysgrifenedig yn adlewyrchu defnydd cyson ac effeithiol iawn o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.Tasg Asesu 2 : Casgliad o ddeunyddiau ysgrifennu yn deillio o’r profiad gwaith yn dangos ymwybyddiaeth o ysgrifennu i bwrpas(au) penodol ac ar gyfer cynulleidfa / cynulleidfaoedd penodol. 6. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gref o gywirdeb iaith wrth greu casgliad o ddeunyddiau proffesiynol addas gan wneud hynny’n gyson a thrwyadl. 7. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth gref o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir gan eu defnyddio’n gyson a thrwyadl. 8. Gwaith yn adlewyrchu ystyriaeth fwriadus ac effeithiol o bwrpas a chyfrwng y darnau, gan wneud hynny’n gyson a thrwyadl. 9. Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth gref o brif egwyddorion y sgiliau iaith cymhwysol gan eu cymhwyso a’u defnyddio’n gyson a thrwyadl. 10. Ymwybyddiaeth gref o dermau a geirfa’r maes gan eu defnyddio’n gywir yn gyson a thrwyadl. 11. Gwaith yn adlewyrchu defnydd cyson ac effeithiol iawn o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.Tasg Asesu 3 : Tasg Sgiliau Iaith Cymhwysol (gwaith crynhoi; trawsieithu; cyfieithu neu olygu ) 12. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gref o gywirdeb iaith wrth wneud gwaith trawsieithu gan wneud hynny’n gyson a thrwyadl. 13. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth gref o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir gan eu defnyddio’n gyson a thrwyadl. 14. Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth gref o brif egwyddorion y sgìl iaith cymhwysol a ddewiswyd gan eu cymhwyso’n gyson a thrwyadl. 15. Ymwybyddiaeth gref o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir yn gyson a thrwyadl. 16. Gwaith yn adlewyrchu defnydd cyson ac effeithiol iawn o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.Tasg Asesu 4 : Cyflwyniad proffesiynol** 17. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gref o gywirdeb iaith ar lafar yn gyson a thrwyadl drwy’r cyflwyniad. 18. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth gref o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir ar lafar gan eu defnyddio’n gyson a thrwyadl yn y cyflwyniad. 19. Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol cadarn ac effeithiol iawn ar ei hyd. 20. Gwaith yn dangos gallu i gynllunio a strwythuro cyflwyniad llafar meistrolgar ac effeithiol. 21. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth o gywirdeb iaith, egwyddorion y sgiliau iaith cymhwysol a chywair iaith / Cymraeg Clir gan eu defnyddio’n gyson a thrwyadl yn y gwaith ysgrifenedig. 22. Ymwybyddiaeth gref o dermau a geirfa’r maes gan eu defnyddio’n gywir yn gyson a thrwyadl ar lafar ac yn ysgrifenedig. 23. Gwaith ysgrifenedig yn adlewyrchu defnydd cyson ac effeithiol iawn o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.
Learning Outcomes
- Cymryd cyfrifoldeb cynyddol am sicrhau cywirdeb eu hiaith eu hunain gan ddatblygu eu hymwybyddiaeth ieithyddol ymhellach;
- Defnyddio adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol i’w cynorthwyo i gywiro eu gwaith eu hunain a chynyddu eu hymwybyddiaeth ieithyddol ymhellach;
- Defnyddio’r iaith Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y gweithle Cymraeg neu ddwyieithog;
- Defnyddio’r sgiliau iaith cymhwysol lle bo hynny’n addas yn ôl y sefyllfa, y gynulleidfa, pwrpas a chyfrwng y gwaith;
- Dod o hyd i derminoleg pynciau / meysydd amrywiol yn effeithiol a’i defnyddio’n hyderus;
- Drwy ystyried y cyd-destun a’r cyfrwng dan sylw, ystyried addasrwydd gwahanol gyweiriau iaith (ar lafar ac yn ysgrifenedig) ac egwyddorion sylfaenol Cymraeg Clir a’u defnyddio’n bwrpasol ac effeithiol yn ôl sefyllfa, pwrpas a chynulleidfa;
- Gallu cywiro a golygu gwaith rhywun arall
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Cofnodion cyfarfod
Weighting
10%
Due date
21/03/2025
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Llunio datganiad i'r wasg
Weighting
10%
Due date
14/02/2025
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Crynhoi adroddiad newyddion
Weighting
10%
Due date
21/02/2025
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Cyfres o drydariadau
Weighting
10%
Due date
28/02/2025
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Ysgrifennu mewn cywair / cyweiriau pwrpasol
Weighting
10%
Due date
07/03/2025
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Prawfddarllen darn
Weighting
10%
Due date
02/05/2025
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Cwblhau tasg estynedig yn un o'r tri maes astudiaeth
Weighting
30%
Due date
16/05/2025
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Golygu darn
Weighting
10%
Due date
28/03/2025