Modiwl CXC-3018:
Gweithdy Barddoniaeth
Gweithdy Barddoniaeth 2024-25
CXC-3018
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Elis Dafydd
Overview
Dyma un o brif fodiwlau’r cynllun gradd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol. Bydd y pwyslais canolog ar feithrin, hybu a datblygu creadigrwydd, yn benodol ar ffurf barddoniaeth. I’r perwyl hwnnw, trafodir mewn seminarau ystod eang o gerddi, boed Ganu Cynnar arwrol Aneirin ar gychwyn cyntaf ein traddodiad barddol, cywyddau dyfalu llachar Dafydd ap Gwilym o’r Oesoedd Canol neu gerddi dychan comig Gwyn Thomas o’r cyfnod diweddar. Ond ni chyfyngir yr enghreifftiau niferus o arfer da i farddoniaeth Gymraeg yn unig: cyfeirir at y gwersi y gellir eu dysgu o draddodiadau barddol eraill yn ogystal. Bydd awgrymiadau cyson yn deillio o’r hyn a drafodir mewn seminarau ar gyfer gwaith creadigol y sawl sy'n dilyn y modiwl. Mewn tiwtorialau rhoddir sylw i’r gwaith creadigol hwnnw a thrafodir cynnydd y gwaith ffolio. Bydd tair prif thema i’r modiwl hwn: deunyddiau, e.e. delweddau a throsiadau; troadau ymadrodd; arddulliau, cyweiriau a chyfeiriadaeth; mesurau, e.e. yr haicw a phenillion telyn; vers libre neu'r wers rydd; y delyneg a’r filanél; y soned; canu naratif, dilyniannau a chyfresi; cynnwys, e.e. cerddi am leoedd a cherddi portread; cerddi dychan a phrotest; parodi a pastiche. Anelir at gynnig digon o gyngor ymarferol ac awgrymiadau dychmygus i gynorthwyo’r broses greadigol o gyfansoddi cerddi.
Gellir cofrestru i ddilyn y modiwl hwn wyneb yn wyneb a/neu ar-lein, e.e. drwy Microsoft Teams neu Blackboard Collaborate.
Assessment Strategy
-threshold -B- i B+Dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaithDangos gallu i adnabod amryw fathau o gerddi a nodweddion barddol Dangos gallu i ddefnyddio gwahanol dechnegau a chonfensiynau barddolDangos gallu i ysgrifennu'n greadigolDangos gallu i ysgrifennu'n feirniadolDangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
-good -D- i D+Dangos gallu da i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaithDangos gallu da i adnabod amryw fathau o gerddi a nodweddion barddol Dangos gallu da i ddefnyddio gwahanol dechnegau a chonfensiynau barddolDangos gallu da i ysgrifennu'n greadigolDangos gallu da i ysgrifennu'n feirniadolDangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
-excellent -A- i A*Dangos gallu sicr i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaithDangos gallu sicr i adnabod amryw fathau o gerddi a nodweddion barddol Dangos gallu sicr i ddefnyddio gwahanol dechnegau a chonfensiynau barddolDangos gallu sicr i ysgrifennu'n greadigolDangos gallu sicr i ysgrifennu'n feirniadolDangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
Learning Outcomes
- Bwrw trawsolwg eang ar yr hyn a drafodir gan ddwyn i mewn ystyriaethau cymharol lle y bo hynny'n briodol.
- Cyflwyno eu traethawd ac adolygiad mewn iaith raenus a chywir.
- Cymhwyso'r hyn a enghreifftiwyd mewn seminarau - e.e. technegau a themâu - at eu hysgrifennu creadigol eu hunain.
- Sylweddoli gwerth mynegiant gwreiddiol, bywiog a diddorol.
- Ymateb yn effro i amrywiaeth o gerddi gan ystod o feirdd.
- Ymwela'n greadigol ar y cerddi a ystyriwyd.
Assessment method
Report
Assessment type
Summative
Description
Adolygiad byr
Weighting
10%
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd
Weighting
25%
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Portffolio 10-15 o gerddi
Weighting
65%