Modiwl CXC-3033:
Datblygiad yr Iaith
Datblygiad yr Iaith 2024-25
CXC-3033
2024-25
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Peredur Lynch
Overview
Bydd tair rhan i'r cwrs:
Rhan I Yn y rhan gyntaf edrychir ar hanes cynnar y Gymraeg gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Celtiaid a'r Ieithoedd Celtaidd; 2. Y Frythoneg a'r Gymraeg; 3. Ffynonellau cynharaf yr iaith.
Rhan II Yn yr ail ran cynigir arolwg o'r berthynas rhwng cyweiriau llafar a llenyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Tafodieithoedd y Gymraeg; 2. Y broses o safoni iaith; 3. Dwylosia a'r Gymraeg.
Rhan III Yn y drydedd ran archwilir cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol yr iaith yn ystod y 19g., sef y ganrif fwyaf trawsnewidiol yn hanes y Cymry. Rhoddir sylw i'r materion a ganlyn: 1. Y Gymraeg, crefydd a'r wasg yn y 19g. 2. Y Gymraeg a'r Chwyldro Diwydiannol; 3. Addysg a seicoleg iaith.
Bydd y modiwl hwn yn olrhain amryfal agweddau ar hanes y Gymraeg o’i chyfnodau cynharaf hyd at y cyfnod diweddar. Cyflwynir y myfyrwyr i’r ymchwil ddiweddaraf sy’n ymwneud â datblygiad y Gymraeg yn y cyfnod ôl-Rufeinig a'i pherthynas â’r ieithoedd Celtaidd; trafodir hefyd y ffynonellau cynharaf sy’n tystio i fodolaeth yr iaith. Cynigir arolwg o’r berthynas rhwng tafodieithoedd y Gymraeg a’i chyweiriau ysgrifenedig, ac anelir hefyd at amlinellu’r grymoedd cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd a bennodd hynt y Gymraeg, yn enwedig yn ystod y 19g.
Assessment Strategy
-threshold -D- i D+Dangos cynefindra â rhai o'r prif agweddau ar hanes y Gymraeg a gyflwynir yn y modiwl hwn. Dangos gallu i gloriannu ffynonellau cynradd ac eilaidd perthnasol i'r maes. Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol. Dangos gallu i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill.
-good -B- i B+Dangos cynefindra â nifer dda o'r o'r prif agweddau ar hanes y Gymraeg a gyflwynir yn y modiwl hwn. Dangos gallu i gloriannu ffynonellau cynradd ac eilaidd perthnasol i'r maes yn ddeallus ac yn gytbwys a'u defnyddio'n bwrpasol. Dangos gallu i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol gytbwys, ac i gyflwyno a datblygu dadl, yn glir ac yn rhesymegol. Dangos gallu i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill yn deg ac yn gytbwys.
-excellent -A- i A*Dangos meistrolaeth ar rychwant eang o'r prif agweddau ar hanes y Gymraeg a gyflwynir yn y modiwl hwn. Dangos gallu datblygedig i gloriannu ffynonellau cynradd ac eilaidd perthnasol i'r maes yn dreiddgar ac yn gytbwys a'u defnyddio'n bwrpasol. Dangos gallu datblygedig i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol aeddfed ac annibynnol, ac i gyflwyno a datblygu dadl estynedig, yn glir, yn rhesymegol ac yn gydlynus. Dangos gallu datblygedig i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill yn deg ac yn gytbwys.
Learning Outcomes
- Arddangos gwybodaeth am dafodieithoedd y Gymraeg.
- Arddangos gwybodaeth o'r ffactorau sy'n dylanwadu ar y Gymraeg heddiw.
- Dadansoddi'n feirniadol gyd-destun cymdeithasol hanes y Gymraeg.
- Dadansoddi'r berthynas rhwng y llafar a'r llenyddol yn hanes y Gymraeg.
- Deall yn fanwl yr amrywiol ffactorau a ddylanwadodd ar ddatblygiad y Gymraeg.
- Lleoli'r Gymraeg oddi mewn i'r teulu ieithyddol Celtaidd.
- Meddu ar drawsolwg gynhwysfawr o hynt y Gymraeg ar hyd y canrifoedd.
- Trafod rhai o'r prif gyfnewidiadau a barodd i'r Frythoneg esgor ar y Gymraeg.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd ar yr iaith Gymraeg yn y 19g
Weighting
40%
Due date
23/01/2023
Assessment method
Class Test
Assessment type
Crynodol
Description
Prawf dosbarth
Weighting
30%
Due date
17/11/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Tasg ysgrifenedig cyfnod yr arholiadau
Weighting
30%
Due date
19/01/2024