Modiwl CXC-4005:
Y Celt: Sefydliadau Celtaidd
Y Celt: Sefydliadau Celtaidd 2024-25
CXC-4005
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
40 credits
Module Organiser:
Aled Llion Jones
Overview
Edrychir ar ddeunydd o bum prif faes y bydd myfyrwyr yn medru dewis ysgrifennu traethawd yn ymwneud â nhw (mae'r meysydd hyn yn aml yn gorgyffwrdd, ac ni chânt eu dysgu yn llwyr ar wahân):
i) ‘Mytholeg(au)’: archwilio’r dystiolaeth a geir am dduwiau a chrefydd
ii) Llawysgrifau a llythrennedd: ystyried prif lawysgrifau’r traddodiadau Cymreig a Gwyddelig
iii) Eglwys a Seintiau: ‘sefydliad’ yr Eglwys Geltaidd a Christnogaeth Geltaidd
iv) Rhyddiaith: y 'Mabinogion' a’r Cylchoedd Gwyddeleg
v) Barddoniaeth: y Bardd a’r traddodiad barddol yng Nghymru ac Iwerddon; y traddodiadau mawl a dychan; barddoniaeth Gymraeg gyfoes a’r Eisteddfod.
Hefyd mae'r elfen ieithyddol.
Assessment Strategy
-threshold -Bydd myfyrwyr trothwyol (graddau C/50%) yn arddangos rhychwant o wybodaeth briodol – neu ddyfnder priodol – mewn o leiaf rannau o’r maes perthnasol, a byddant yn llwyddo’n rhannol o leiaf i greu dadl sy’n mynd i’r afael â’r pynciau a drafodir yn y traethawd. Byddant yn dangos ymwybyddiaeth o’r mathau o dystiolaeth graidd sydd ar gael, ac o’r ffordd y gellir defnyddio a dehongli’r dystiolaeth.
-good -Da Bydd myfyrwyr da (graddau B/60%) yn arddangos galluoedd sicr yn yr holl agweddau a nodwyd yn y paragraff uchod, ac yn dangos o leiaf ychydig o wreiddioldeb yn eu darlleniadau o’r testunau.
-excellent -Rhagorol Bydd myfyrwyr ardderchog (graddau A/70%) yn arddangos y galluoedd sicr hyn ar draws y meini prawf, yn ogystal â dyfnder arbennig yn eu gwybodaeth a/neu gywreinrwydd eu dadansoddi. Dangosant hefyd wreiddioldeb yn eu gwaith darllen a dehongli, a hynny’n gyson.
Learning Outcomes
- Bydd y myfyrwyr yn deall yn fanwl y gwahanol ffynonellau ar gyfer, ac agweddau ar, y traddodiadau llenyddol ‘Celtaidd’, a’r sefydliadau cymdeithasol a’u cynhaliodd.
- Byddant yn cynllunio, strwythuro a chwblhau traethawd academaidd fydd yn archwilio i agweddau penodol o’r maes.
- Byddant yn deall prif nodweddion Cymraeg Canol ac yn medru darllen ystod o destunau yn yr iaith honno.
- Byddant yn gallu cyflwyno dadleuon clir a dealladwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth, am werth a phwrpas llythrennedd a diwylliannau’r gair ysgrifenedig yn y cymdeithasau Celtaidd canoloesol.
- Byddant yn medru cymhwyso medrau ymchwil at y maes penodol hwn, gan ddatblygu dealltwriaeth o wahanol agweddau ar y ffyrdd y meddyliodd siaradwyr yr ieithoedd Celteg am eu hunaniaeth eu hun.
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Prawf iaith
Weighting
50%
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd
Weighting
50%