Modiwl JXC-2062:
Hyfforddi ac Arwain Chwaraeon
Hyfforddi ac Arwain Chwaraeon Padl 2024-25
JXC-2062
2024-25
School of Psychology & Sport Science
Module - Semester 1 & 2
10 credits
Module Organiser:
David Kohn-Hollins
Overview
Yn ystod y modiwl byddwch yn profi ac yn darganfod ffyrdd y mae arweinwyr awyr agored yn newid eu harddulliau arwain i gymhwyso anghenion eu grŵp, mewn ystod amrywiol o amgylcheddau dŵr a gweithgareddau heriol fel nofio gwyllt yn Afon Menai a coastering oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Byddwch hefyd yn dysgu technegau a strategaethau hyfforddi amrywiol, er enghraifft, offer i broffilio perfformiad cleient a chreu cynllun datblygu diogel a phriodol ar eu cyfer. Fel myfyriwr Blwyddyn 2, cewch gyfle i gael eich asesu gan Aseswyr Canŵio Prydain ar gyfer Gwobrau Arweinyddiaeth Chwaraeon Padlo ac Hyfforddwr Chwaraeon Padl. Os oes gennych eisoes y cymwysterau hyn, byddwn yn trefnu i chi weithio tuag at lefelau cymhwyster amgen neu uwch.
Mae'r modiwl hwn yn cynnwys 3 bloc o weithgaredd ar ddŵr yn hytrach na sesiwn bob pythefnos fel y gwelir ym Mlwyddyn 1. Mae hyn yn ein galluogi i fanteisio i'r eithaf ar ein defnydd o dywydd ac amodau ffafriol ac yn eich galluogi i atgyfnerthu eich datblygiad sgiliau yn ystod cyfnod trylwyr. Mae'n rhoi amser ychwanegol i chi gasglu oriau llyfr log sy'n ofynnol ar gyfer asesiadau'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol. Sylwch fod y bloc 3 diwrnod cyntaf ym mis Medi yr wythnos cyn yr Wythnos Groeso a rhaid i chi sicrhau eich bod ar gael ar ei gyfer. Mae'r ail floc 3 diwrnod ym mis Mawrth ac mae'n cynnwys datblygu sgiliau padlo personol mewn dŵr gwyn; Bydd y trydydd bloc 4 diwrnod yn ystod y cyfnod arholiadau ym mis Mai ac mae'n cynnwys eich asesiadau hyfforddwr padlo chwaraeon ac arweinyddiaeth.

Assessment Strategy
Aseiniad 1: Aseiniad Amlgyfrwng - Fideo Perfformiad Mae’r aseiniad hwn yn asesu’r deilliant dysgu canlynol: Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol: Deilliant Dysgu 3 Mynd ati’n gywir i asesu a datblygu eich anghenion perfformiad eich hun (neu berfformiad rhywun arall) o ran gweithgareddau chwaraeon padlo.
Meini Prawf Marcio Penodol Lefel Gradd Israddedig: Dosbarth Cyntaf Ail Ddosbarth Uwch Ail Ddosbarth Is Trydydd Ddosbarth Methu Testun disgrifiadol: Eithriadol/Ardderchog Da Iawn Da Digonol Gwael. Marc Categorïaidd: A* A A+ A A- B+ B B- C+ C C- D+ D D- E F F1 F2.
Cynnwys gofynnol gyda phwysoliadau: 1.Bwrdd Stori Mae'r cyflwyniad a'r fideo’n dangos trefn wedi'i chynllunio a’i strwythuro’n dda (5%). 2.Iaith Mae’r cyflwyniad a’r fideo’n cynnwys mynegiant clir yn Gymraeg neu’n Saesneg, neu’r ddwy iaith (10%) 3.Cyfiawnhad Mae'r cyflwyniad yn cynnwys cyfiawnhad o bwysigrwydd y sgil yn natblygiad y myfyriwr (20%). 4.Arddangosiad Mae'r arddangosiadau a ddarperir yn glir ac yn dechnegol gywir (30%). 5.Hanfodion Mae'r esboniadau'n dangos lefel uchel o ddealltwriaeth dechnegol o hanfodion chwaraeon padlo (20%). 6. Cymhwyso Mae'r esboniadau'n dangos lefel uchel o ddealltwriaeth o ran cymhwyso a defnyddio’r sgil (10%). 7. Cyfeiriadau Mae dolenni at waith academaidd, fideos, a/neu gyhoeddiadau eraill a ddefnyddiwyd wedi'u cynnwys, a chyfeirir atynt yn gywir gan ddilyn canllawiau Ysgol y Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol (5%).
Aseiniad 2: Arweinyddiaeth a Pherfformiad Mae'r aseiniad hwn yn asesu'r Deilliannau Dysgu canlynol: Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:
Deilliant Dysgu 1 Cymryd rhan yn fedrus ac yn effeithiol a chyfrannu'n gadarnhaol at y grŵp yn ystod amrywiaeth o weithgareddau dŵr mewn amgylcheddau mewndirol ac arfordirol. Deilliant Dysgu 2 Nodi a deall dulliau hyfforddi ac arwain, ac addasu’r dulliau hynny at y peryglon amgylcheddol newidiol sy'n gysylltiedig â gweithgareddau dŵr ac anghenion unigolion sy'n cymryd rhan yn y gweithgareddau.
Meini Prawf Marcio Penodol: Lefel Gradd Israddedig: Dosbarth Cyntaf Ail Ddosbarth Uwch Ail Ddosbarth Is Trydydd Ddosbarth Methu Testun disgrifiadol: Eithriadol/Ardderchog Da Iawn Da Digonol Gwael. Marc Categorïaidd: A* A A+ A A- B+ B B- C+ C C- D+ D D- E F F1 F2.
Cynnwys gofynnol gyda phwysoliadau: 1.Bwrdd Stori Mae'r cyflwyniad a'r fideo’n dangos trefn wedi'i chynllunio a’i strwythuro’n dda (5%). 2.Iaith Mae’r cyflwyniad a’r fideo’n cynnwys mynegiant clir yn Gymraeg neu’n Saesneg, neu’r ddwy iaith (10%) 3.Cyfiawnhad Mae'r cyflwyniad yn cynnwys cyfiawnhad o bwysigrwydd y sgil yn natblygiad y myfyriwr (20%). 4.Arddangosiad Mae'r arddangosiadau a ddarperir yn glir ac yn dechnegol gywir (30%). 5.Hanfodion Mae'r esboniadau'n dangos lefel uchel o ddealltwriaeth dechnegol o hanfodion chwaraeon padlo (20%). 6. Cymhwyso Mae'r esboniadau'n dangos lefel uchel o ddealltwriaeth o ran cymhwyso a defnyddio’r sgil (10%). 7. Cyfeiriadau Mae dolenni at waith academaidd, fideos, a/neu gyhoeddiadau eraill a ddefnyddiwyd wedi'u cynnwys, a chyfeirir atynt yn gywir gan ddilyn canllawiau’r Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon (5%).
Learning Outcomes
-
Cymryd rhan yn alluog ac yn effeithiol a chyfrannu'n gadarnhaol at y grŵp yn ystod amrywiaeth o weithgareddau dŵr mewn amgylcheddau mewndirol ac arfordirol.
- Asesu a datblygu eich anghenion perfformiad eich hun (neu anghenion rhywun arall) yn gywir ynghylch gweithgareddau chwaraeon padlo.
- Nodi, deall, ac addasu dulliau hyfforddi ac arweinyddiaeth i'r peryglon amgylcheddol newidiol sy'n gysylltiedig â gweithgareddau dŵr ac anghenion unigolion sy'n cymryd rhan yn y gweithgareddau.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
TRAETHAWD Traethawd - Arweinyddiaeth a Pherfformiad
Weighting
50%
Due date
31/03/2025
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Summative
Description
ARDDANGOSIAD/YMARFER Fideo Datblygu Sgiliau
Weighting
50%
Due date
11/11/2024