Modiwl PCC-1007:
Cyflwyniad i Ymchwil
Cyflwyniad i Ymchwil (10 credyd) 2024-25
PCC-1007
2024-25
School of Psychology & Sport Science
Module - Semester 1
10 credits
Module Organiser:
Awel Vaughan-Evans
Overview
Mi fydd y modiwl yn cyflwyno dulliau ymchwil gwahanol i fyfyrwyr, ac yn trafod y prif bethau y dylid eu hystyried wrth ddylunio ymchwil (e.e. moeseg, dibynadwyedd a dilysrwydd). Yn ogystal, mi fydd y modiwl yn cyflwyno ystadegau disgrifiadol a chasgliadol i fyfyrwyr, ac yn trafod y gwahaniaeth rhwng dulliau ansoddol a meintiol.
Bob wythnos, mi fydd myfyrwyr yn mynychu darlith (1 awr o hyd) a gweithdy (1 awr o hyd). Yn y ddarlith, byddech yn dysgu ffeithiau, theorïau, a rhesymeg dulliau ymchwil. Mi fydd y gweithdai wythnosol yn rhoi cyfle i chi drafod y wybodaeth yn fwy manwl, ac i ddatblygu eich sgiliau dadansoddi. Bydd rhai o'r gweithgareddau yn cynnwys ystyried materion moesegol, dyfeisio astudiaethau ymchwil, casglu a dadansoddi data gan ddefnyddio offer electronig, llaw gyfrifiadau, a dysgu sut i gyfathrebu canlyniadau'r ymchwil mewn adroddiadau ysgrifenedig. Dylai pob myfyriwr gwblhau 100 awr o waith ar gyfer y modiwl hwn ar draws y semester (gan gynnwys dosbarthiadau rheolaidd, ymchwil annibynnol, a chwblhau aseiniadau).
Assessment Strategy
-threshold -D- i D+Adolygiad gwael o’r llenyddiaeth, gyda llawer o wallau o ran cyflwyniad a chywirdeb. Defnyddiwyd ychydig o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd. Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n wael, gyda thipyn o wallau ffeithiol. Ychydig iawn o ganllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn. Dealltwriaeth wael o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir mewn meysydd gwahanol. Dealltwriaeth wael o’r cynlluniau arbrofol gwahanol. Ni ddengys unrhyw hyfedredd wrth ddefnyddio SPSS.
-good -B- i B+Adolygiad da o’r llenyddiaeth, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir. Defnydd da o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd. Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n dda, gydag ychydig iawn o wallau ffeithiol. Canllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn yn dda.Dealltwriaeth dda o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir mewn meysydd gwahanol. Dengys y gallu i wahaniaethu rhwng cynlluniau arbrofol gwahanol yn weddol glir. Hyfedr iawn wrth ddefnyddio SPSS.
-excellent -A- i A*Adolygiad gwych o’r llenyddiaeth, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir. Defnydd gwych o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd. Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n wych, heb unrhyw wallau ffeithiol. Canllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn yn wych.Dealltwriaeth gadarn o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir mewn meysydd gwahanol. Dengys y gallu i wahaniaethu rhwng cynlluniau arbrofol gwahanol yn glir. Hyfedredd gadarn wrth ddefnyddio SPSS.
-another level-C- i C+Adolygiad boddhaol o’r llenyddiaeth, gyda chyfathrebu eithaf clir. Defnydd boddhaol o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd. Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n foddhaol, ond gydag ambell i wall ffeithiol. Canllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn yn foddhaol.Dealltwriaeth foddhaol o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir mewn meysydd gwahanol. Dengys ychydig o allu i wahaniaethu rhwng cynlluniau arbrofol gwahanol. Dengys ychydig o hyfedredd wrth ddefnyddio SPSS.
Learning Outcomes
- Cynnal adolygiad o lenyddiaeth perthnasol ac ysgrifennu cynnig ymchwil da sy'n dilyn canllawiau'r APA.
- Dangos dealltwriaeth sylfaenol o dechnegau methodolegol fel mesuriadau ac arsylwadau.
- Dangos dealltwriaeth sylfaenol o ystadegau a dulliau ymchwil gwahanol, a deall sut y cânt eu defnyddio o fewn meysydd gwahanol.
- Gallu defnyddio'r pecyn ystadegol SPSS yn hyderus: gallu mewnbynnu data yn gywir, rhedeg y dadansoddiad ystadegol priodol, a dehongli'r allbwn
Assessment method
Written Plan/Proposal
Assessment type
Crynodol
Description
Cynnig Ymchwil. Pwrpas yr aseiniad yma yw eich cael i feddwl am sut i gynnal ymchwil. Dylech ysgrifennu 1500 o eiriau, a dylech ddilyn y canllawiau a roddir ar Blackboard. Mi fydd y cynnig wedi ei rannu i’r ‘Rhagarweiniad’ (Introduction) a’r Dull (Methods). Yn y rhagarweiniad, dylech roi trosolwg o’r maes ymchwil, a dangos pam fod cynnal yr ymchwil yn bwysig. Yn y dull, dylech sôn am bethau mwy ymarferol (e.e. cynllun yr arbrawf; y cyfranogwyr) er mwyn dangos sut byddwch yn cynnal yr ymchwil.
Weighting
60%
Due date
23/12/2024
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Gwaith cartref. Yn ystod y tymor, byddwch yn cwblhau pum gwaith cartref ar Blackboard. Mi fydd y rhain yn cynnwys cwestiynau aml-ddewis (multiple choice questions) a chwestiynau agored, ac yn profi eich dealltwriaeth o gynnwys y modiwl. Cewch gwblhau’r prawf unwaith yn unig, a mi fydd eich gradd terfynol yn gymedr o’r pum gradd.
Weighting
40%
Due date
23/12/2024