Modiwl PCC-1008:
Sgiliau Academaidd Dwyieithog
Sgiliau Academaidd Dwyieithog I 2024-25
PCC-1008
2024-25
School of Psychology & Sport Science
Module - Semester 1
10 credits
Module Organiser:
Leah Hadden-Purnell
Overview
Bydd myfyrwyr yn datblygu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy ar y modiwl hwn. Bydd y cwrs yn cwmpasu pynciau fel y canlynol:
a) Sut i ysgrifennu adroddiadau gwyddonol ar lefel Prifysgol; b) Sut i gyfeirnodi yn gywir c) Defnyddio ffynonellau gwyddonol, credadwy ch) Sut i osgoi llên-ladrad d) Meddwl yn gritigol dd) Datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifennu ac ar lafar yn y Gymraeg e.e. trawsieithu, termau Cymraeg
Bydd y modiwl yn cynnwys darlithoedd a seminarau. Bydd y darlithoedd yn cynnwys cyflwyniadau ymchwil â fydd yn ffocws aseiniadau. Bydd y seminarau yn gyfle i fyfyrwyr gweithio mewn grŵpiau bach i ddatrys tasgau fel tîm ac ymarfer sgiliau ysgrifennu ac ymchwil.
Assessment Strategy
-threshold -D+ to D- Gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.Disgrifiad o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda rhai adrannau wedi eu disgrifio’n glir.Ychydig o wallau strwythuro, ac ychydig iawn o wybodaeth berthnasol o’r maes a drafodwyd.Tystiolaeth gyfyngedig iawn o astudio cefndirol, gyda chyflwyniad cyfyngedig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.Cyflwynwyd ychydig iawn o ddadleuon cywir a rhesymegol, a defnyddiwyd ffynonellau gwan i’w cefnogi.Ychydig iawn o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos ychydig iawn o sgiliau meddwl critigol.Cyflwyniad wan o’r gwaith, sy’n dilyn ychydig iawn o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyflwyno gwybodaeth wyddonol mewn ffordd aneglur.
-good -B+ to B- Gwybodaeth gref a dealltwriaeth dda o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.Disgrifiad gwyddonol o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg cynnil a chlir o’r mwyafrif o’r adrannau pwysig. Gwybodaeth eithaf perthnasol o’r maes wedi ei strwythuro’n dda.Astudio cefndirol yn amlwg ar adegau, gyda chyflwyniad o ychydig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.Dadleuon cywir wedi eu cyflwyno yn rhesymegol ar y cyfan, ac wedi eu cefnogi gan dystiolaeth wyddonol ddibynadwy yn aml.Ychydig o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol da.Cyflwyniad da o’r gwaith, sy’n dilyn y mwyafrif o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn dda.
-excellent -A** to A- Gwybodaeth gynhwysfawr a dealltwriaeth fanwl o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.Disgrifiad gwyddonol iawn o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg cynnil a chlir o bob adran bwysig. Gwybodaeth berthnasol iawn o’r maes wedi ei strwythuro’n wych.Astudio cefndirol amlwg iawn, gyda chyflwyniad clir o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.Dadleuon cywir wedi eu cyflwyno yn rhesymegol ac wedi eu cefnogi gan dystiolaeth wyddonol ddibynadwy.Dehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol rhagorol.Cyflwyniad ardderchog o’r gwaith, sy’n dilyn canllawiau fformatio’r APA/Harvard yn wych, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn hollol glir.
-another level-C+ to C Gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.Disgrifiad eithaf gwyddonol o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg o’r mwyafrif o’r prif adrannau, ond gydag ychydig o wendidau o ran eglurdeb a chynildeb. Gwybodaeth eithaf perthnasol o’r maes wedi ei strwythuro’n foddhaol.Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol, gyda chyflwyniad cyfyngedig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.Cyflwynir dadleuon, ond roedd ychydig o gamddealltwriaeth / anghywirdeb, a ni chyflwynwyd y dadleuon yn gydlynol. Defnyddiwyd tystiolaeth wyddonol ddibynadwy i gefnogi’r dadleuon ar adegau.Ychydig iawn o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol boddhaol.Cyflwyniad boddhaol o’r gwaith, sy’n dilyn rhai o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn foddhaol.
Learning Outcomes
- 1. Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno gwybodaeth ar ffurf ysgrifenedig am un neu fwy o'r prif feysydd gwyddorau dynol mewn modd rhesymegol a llawn gwybodaeth, trwy gyfrwng y Gymraeg
- 2. Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu adnabod a disgrifio rhai o'r materion tyngedfennol a dadleuol sydd ar hyn o bryd yn cael eu trafod ym maes gwyddorau dynol
- 3. Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd trawsieithu o'r iaith gwreiddiol testun academaidd i'r iaith Gymraeg
- 4. Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth a defnydd o reolau fformatio APA/Harvard, ac o iaith ac arddull sy'n briodol ar gyfer ymdriniaeth wyddonol.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Aseiniad 3: amlinelliad traethawd manwl. Yn yr aseiniad yma, byddwch yn ysgrifennu amlinelliad manwl o draethawd, gan gynnwys paragraff rhagarweiniad, datganiad traethawd, enghreifftiau o ddadlau i'w cynnwys sydd yn cefnogi dwy ochr y ddadl, casgliad a llyfryddiaeth. Bydd yr aseiniad yma yn datblygu eich sgiliau trefnu traethawd, sgiliau ymchwilio a cyfeirnodi.
Weighting
50%
Due date
16/12/2024
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Crynodeb: Yn yr aseiniad yma byddwch yn gwrando ar dri chyflwyniad ymchwil gan ymchwilwyr Prifysgol Bangor, ac yna ysgrifennu crynodeb ('abstract') yn seiliedig ar yr ymchwil. Mae'r aseiniad yma yn datblygu eich sgiliau meddwl critigol, ac ysgrifennu cryno.
Weighting
25%
Due date
11/11/2024
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
ASEINIAD 1 CYMHARU FFYNONELLAU. Yn yr aseiniad yma byddwch yn cymharu dwy ffynhonell gwahanol sydd yn ymwneud â'r un pwnc- un ffynhonell academaidd, fel erthygl o gyfnodolyn academaidd, ac un cyfnodolyn o'r cyfryngau, fel erthygl papur newydd. Bydd yr aseiniad yn datblygu eich sgiliau ysgrifennu, meddwl critigol a chyfeirnodi.
Weighting
25%
Due date
21/10/2024