Modiwl PCC-1009:
Sgiliau Academaidd Dwyieith II
Sgiliau Academaidd Dwyieithog II 2024-25
PCC-1009
2024-25
School of Psychology & Sport Science
Module - Semester 2
10 credits
Module Organiser:
Awel Vaughan-Evans
Overview
Bydd myfyrwyr yn datblygu amrywiaeth o sgiliau trosgwyddadwy ar y modiwl hwn. Bydd y cwrs yn cwmpasu pynciau fel y canlynol:
a) Sut i drefnu ac ysgrifennu traethodau ar lefel Prifysgol; b) Sut i adnabod a defnyddio ffynonellau gwyddonol, credadwy c) Sut i osgoi llên-ladrad ch) Ysgrifennu manwl, eglur d) Defnyddio adborth dd) Datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg e.e. cyflwyno gwaith gwyddonol ar lafar,
Bydd y modiwl yn cynnwys darlithoedd a seminarau. Bydd y darlithoedd yn cynnwys cyflwyniadau ymchwil a fydd yn ffocws aseiniadau. Bydd y seminarau yn gyfle i fyfyrwyr gweithio mewn grŵpiau bach ac ymarfer sgiliau ysgrifennu ac ymchwil ac ymarfer sgiliau ysgrifennu ac ymchwil. Bydd y sesiynau POPPS yn gyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu ar lafar
Assessment Strategy
-threshold -D+ to D- Gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.Disgrifiad o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda rhai adrannau wedi eu disgrifio’n glir.Ychydig o wallau strwythuro, ac ychydig iawn o wybodaeth berthnasol o’r maes a drafodwyd.Tystiolaeth gyfyngedig iawn o astudio cefndirol, gyda chyflwyniad cyfyngedig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.Cyflwynwyd ychydig iawn o ddadleuon cywir a rhesymegol, a defnyddiwyd ffynonellau gwan i’w cefnogi.Ychydig iawn o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos ychydig iawn o sgiliau meddwl critigol.Cyflwyniad wan o’r gwaith, sy’n dilyn ychydig iawn o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyflwyno gwybodaeth wyddonol mewn ffordd aneglur.
-good -B+ to B- Gwybodaeth gref a dealltwriaeth dda o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.Disgrifiad gwyddonol o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg cynnil a chlir o’r mwyafrif o’r adrannau pwysig. Gwybodaeth eithaf perthnasol o’r maes wedi ei strwythuro’n dda.Astudio cefndirol yn amlwg ar adegau, gyda chyflwyniad o ychydig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.Dadleuon cywir wedi eu cyflwyno yn rhesymegol ar y cyfan, ac wedi eu cefnogi gan dystiolaeth wyddonol ddibynadwy yn aml.Ychydig o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol da.Cyflwyniad da o’r gwaith, sy’n dilyn y mwyafrif o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn dda.
-excellent -A** to A- Gwybodaeth gynhwysfawr a dealltwriaeth fanwl o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.Disgrifiad gwyddonol iawn o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg cynnil a chlir o bob adran bwysig. Gwybodaeth berthnasol iawn o’r maes wedi ei strwythuro’n wych.Astudio cefndirol amlwg iawn, gyda chyflwyniad clir o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.Dadleuon cywir wedi eu cyflwyno yn rhesymegol ac wedi eu cefnogi gan dystiolaeth wyddonol ddibynadwy.Dehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol rhagorol.Cyflwyniad ardderchog o’r gwaith, sy’n dilyn canllawiau fformatio’r APA/Harvard yn wych, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn hollol glir.
-another level-C+ to C Gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.Disgrifiad eithaf gwyddonol o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg o’r mwyafrif o’r prif adrannau, ond gydag ychydig o wendidau o ran eglurdeb a chynildeb. Gwybodaeth eithaf perthnasol o’r maes wedi ei strwythuro’n foddhaol.Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol, gyda chyflwyniad cyfyngedig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.Cyflwynir dadleuon, ond roedd ychydig o gamddealltwriaeth / anghywirdeb, a ni chyflwynwyd y dadleuon yn gydlynol. Defnyddiwyd tystiolaeth wyddonol ddibynadwy i gefnogi’r dadleuon ar adegau.Ychydig iawn o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol boddhaol.Cyflwyniad boddhaol o’r gwaith, sy’n dilyn rhai o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn foddhaol.
Learning Outcomes
- 1. Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos sgiliau cymwys wrth ysgrifennu gwaith gwyddonol, gan ddefnyddio rheolau fformatio APA/Harvard, iaith ac arddull sy'n briodol ar gyfer ymdriniaeth wyddonol
- 2. Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno gwybodaeth ar ffurf lafar am un neu fwy o'r prif feysydd gwyddorau dynol mewn modd rhesymegol a llawn gwybodaeth trwy gyfrwng y Gymraeg
- 3. Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu trafod ac adolygu rhai o'r materion tyngedfennol a dadleuol sydd ar hyn o bryd yn cael eu trafod ym maes gwyddorau dynol
- 4. Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd trawsieithu o'r iaith gwreiddiol testun academaidd i'r iaith Gymraeg ac y gallu i wneud hyn
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Poster Ymchwil: Byddwch yn gwrando ar dri chyflwyniad ymchwil wedi eu cyflwyno gan ymchwilwyr o Brifysgol Bangor. Byddwch wedyn yn dewis un o'r cyflwyniadau yma ac yn creu poster ymchwil yn seiliedig ar yr ymchwil yma. Bydd yr aseiniad yn datblygu eich sgiliau crynhoi, ysgrifennu, a meddwl critigol.
Weighting
50%
Due date
06/03/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad ar lafar. Yn yr aseiniad yma, byddwch yn dewis papur ymchwil o gyfnodolyn academaidd, ac yn ysgrifennu a chyflwyno cyflwyniad ar Powerpoint yn seiliedig ar y papur yma. Bydd yr aseiniad yn datblygu eich sgiliau darllen critigol, ysgrifennu, a sgiliau cyflwyno ar lafar.
Weighting
30%
Due date
10/04/2025
Assessment type
Crynodol
Description
Participation Cymryd rhan yn POPPS
Weighting
2%
Assessment type
Crynodol
Description
Small Roles Cwblhau rôl fach yn POPPS
Weighting
4%
Assessment type
Crynodol
Description
Cwblhau cyflwyniad wedi ei baratoi
Weighting
5%
Assessment type
Crynodol
Description
Cwblhau cyflwyniad wedi ei baratoi
Weighting
5%
Assessment type
Crynodol
Description
Cwblhau cyflwyniad ar hap
Weighting
2%
Assessment type
Crynodol
Description
Cwblhau Cyflwyniad ar lafar
Weighting
2%