Modiwl PCC-3000:
Prosiect (w CLH)
Prosiect (Clinigol a Iechyd) 2024-25
PCC-3000
2024-25
School of Psychology & Sport Science
Module - Semester 1 & 2
40 credits
Module Organiser:
Awel Vaughan-Evans
Overview
Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle gwych i fyfyrwyr weithio ar brosiect ymchwil o dan oruchwyliaeth staff academaidd o fewn yn Ysgol. Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â phob agwedd o'r broses ymchwil, gan gynnwys dylunio arbrofion, ystyried materion moesegol, profi cyfranogwyr, dadansoddi data, ac ysgrifennu adroddiadau ymchwil.
Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â phob agwedd o'r broses ymchwil, gan gynnwys dylunio arbrofion, ystyried materion moesegol, profi cyfranogwyr, dadansoddi data, ac ysgrifennu adroddiadau ymchwil.
Assessment Strategy
Gwych (A- i A**) Dealltwriaeth wych o faterion moesegol y dylid eu hystyried wrth gynnal ymchwil ym y maes seicoleg iechyd a chlinigol, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir. Cyflwyniad gwych o wybodaeth gynhwysfawr am fethodoleg a dadansoddiadau data. Disgrifiad a chymhwysiad gwych o fethodoleg ymchwil perthnasol. Dadansoddiadau perthnasol wedi eu dewis a’u cynnal, ac wedi eu cyflwyno’n gywir. Datblygiad gwych a rhesymegol o ddadleuon critigol wrth ysgrifennu, gan ddangos darllen cefndirol a dehongliad gwreiddiol. Trafodaeth a gwerthusiad gwych o ymchwil perthnasol, gan ddangos dealltwriaeth o gymhwysiad theoretig ac ymarferol y maes. Cyfathrebiad gwych o wybodaeth ar lafar, gan ddangos dealltwriaeth gadarn, gwaith annibynnol, a meddwl critigol. Amlygwyd prif bwyntiau’r papur yn glir a chryno, a dengys y gallu i ateb cwestiynau yn hyderus.
Da (B- i B+) Dealltwriaeth dda o faterion moesegol y dylid eu hystyried wrth gynnal ymchwil yn y maes seicoleg iechyd a chlinigol, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir. Cyflwyniad da o wybodaeth gref am fethodoleg a dadansoddiadau data. Disgrifiad a chymhwysiad da o fethodoleg ymchwil perthnasol. Dadansoddiadau perthnasol wedi eu dewis a’u cynnal, gydag ychydig iawn o gamgymeriadau. Datblygiad da a rhesymegol o ddadleuon critigol wrth ysgrifennu, gan ddangos darllen cefndirol a dehongliad gwreiddiol. Trafodaeth a gwerthusiad da o ymchwil perthnasol, gan ddangos dealltwriaeth o gymhwysiad theoretig ac ymarferol y maes. Cyfathrebiad da o wybodaeth ar lafar, gan ddangos dealltwriaeth weddol gadarn, gwaith annibynnol, a meddwl critigol. Amlygwyd prif bwyntiau’r papur yn glir a chryno, a dengys y gallu i ateb cwestiynau yn hyderus.
Boddhaol (C- i C+) Dealltwriaeth foddhaol o faterion moesegol y dylid eu hystyried wrth gynnal ymchwil yn y maes seicoleg iechyd a chlinigol, gyda chyfathrebu weddol glir, ond gydag ambell i wall ffeithiol. Cyflwyniad boddhaol o wybodaeth am fethodoleg a dadansoddiadau data. Disgrifiad a chymhwysiad da o fethodoleg ymchwil perthnasol. Dadansoddiadau perthnasol wedi eu dewis a’u cynnal, gydag ambell i gamgymeriad. Cyflwyniad boddhaol o ddadleuon critigol, ond ni chafwyd cydlyniad rhesymegol. Trafodaeth a gwerthusiad boddhaol o ymchwil perthnasol, gan ddangos peth ddealltwriaeth o gymhwysiad theoretig ac ymarferol y maes. Cyfathrebiad boddhaol o wybodaeth ar lafar, gan ddangos dealltwriaeth o brif elfennau’r pwnc, ond gydag ychydig iawn o feddwl critigol. Amlygwyd rhai o brif bwyntiau’r ymchwil, a dengys y gallu i ateb rhai cwestiynau yn hyderus.
Gwael (D- i D+) Dealltwriaeth wael o faterion moesegol y dylid eu hystyried wrth gynnal ymchwil yn y maes seicoleg iechyd a chlinigol. Llawer o wallau a gwendidau o ran cyflwyniad a chywirdeb. Ychydig o ddealltwriaeth am fethodoleg a dadansoddiadau data. Disgrifiad a chymhwysiad gwael o fethodoleg ymchwil perthnasol. Dadansoddiadau amherthnasol wedi eu dewis a’u cynnal, a/neu llawer o wallau a gwendidau o ran cyflwyniad a chywirdeb. Cyflwynwyd dadleuon wrth ysgrifennu, ond nid oeddent yn llifo, a ni ddengys ddehongliad gwreiddiol na meddwl critigol. Trafodaeth wael o ganfyddiadau ymchwil, gan ddangos dealltwriaeth o’r prif egwyddorion yn unig. Dim gwerthusiad o gymhwysiad theoretig nac ymarferol y maes.Cyfathrebiad gwan o wybodaeth ar lafar, gan ddangos ychydig o ddealltwriaeth am brif egwyddorion y pwnc. Amlygwyd rhai o bwyntiau’r ymchwil yn glir, ond gyda llawer o wendidau o ran cywirdeb. Dengys y gallu i ateb ychydig o gwestiynau.
Learning Outcomes
- Adnabod a chwblhau dadansoddiadau data addas.
- Dadansoddi dadleuon yn gritigol a chyfosod ymchwil mewn maes penodol.
- Dangos dealltwriaeth o faterion moesegol y dylid eu hystyried wrth gynnal ymchwil seicolegol ac wrth ysgrifennu am yr ymchwil, a sicrhau fod yr ymchwil yn cyd-fynd â chanllawiau moesegol y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig.
- Dangos y gallu i grynhoi, a chyflwyno gwybodaeth am eich ymchwil gwyddonol ar ffurf lafar.
- Dangos y gallu i gyfathrebu ymchwil gwyddonol ar ffurf ysgrifenedig ac ar ffurf lafar (POPPS).
- Datblygu hyder wrth gyflwyno deunydd seicolegol ar ffurf lafar (POPPS).
- Disgrifio a chymhwyso dulliau ymchwil sy'n berthnasol i faes penodol.
- Trafod a gwerthuso canlyniadau astudiaethau o fewn cyd-destun y llenyddiaeth berthnasol.
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Formative
Description
Cwblhau POPPS. Amgylchedd dan arweiniad myfyrwyr yw POPPS, lle mae myfyrwyr yn dysgu a datblygu sgiliau cyflwyno trwy ymarfer ac adborth. Nid sefyll a rhoi cyflwyniad yn unig yw POPPS – mae’n ymwneud hefyd â datblygu sgiliau cyflwyno a dod yn gyfarwydd â’r protocol a ddefnyddir mewn cyflwyniadau a chynadleddau proffesiynol ym maes seicoleg a thu hwnt i’r maes. Asesir myfyrwyr trwy gyfuniad o gyflwyniadau, chwarae rôl, a chyfranogiad gan y gynulleidfa.
Weighting
0%
Due date
20/12/2024
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Pwrpas cyflwyniad llafar y prosiect yw rhoi cyfle i chi gyflwyno eich gwaith fel petaech yn cyflwyno mewn cynhadledd ymchwil. Drwy gwblhau’r aseiniad, byddwch yn dangos eich dealltwriaeth o’ch prosiect yn ogystal â’r sgiliau rydych wedi eu datblygu drwy fynychu sesiynau POPPS yn ystod eich amser yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol. Mae’r gallu i gyflwyno gwybodaeth gymhleth i gynulleidfa mewn ffordd ddealladwy yn sgil gwerthfawr iawn o fewn a thu hwnt i’r Brifysgol. Eich tasg yw paratoi cyflwyniad llafar sy’n cyfleu prif bwyntiau eich prosiect mewn ffordd glir ac effeithiol. Dylech baratoi cyflwyniad fydd yn para am 10 munud, a dylech ddefnyddio sleidiau i gefnogi eich cyflwyniad. Ar ôl eich cyflwyniad, dylech fod yn barod i ateb cwestiynau gan eich cyd-fyfyrwyr a marciwr y cyflwyniad am 3 munud. Mae 10% o radd derfynol eich prosiect yn dod o elfen lafar y prosiect. Mae POPPS yn cael ei farcio ar sail eithriad, ac yn cyfrannu at hanner yr elfen. Mae’r cyflwyniad llafar yn cyfrannu at weddill yr elfen lafar, a chaiff ei raddio yn ôl cynllun graddio categorïaidd y Brifysgol (e.e., A; B; C). Rhaid i chi gwblhau’r ddwy ran er mwyn derbyn gradd. Os ydych yn cwblhau POPPS, ond nid y cyflwyniad llafar, cewch radd o 0.
Weighting
10%
Due date
28/05/2025
Assessment method
Dissertation
Assessment type
Summative
Description
Disgwylir i fyfyrwyr ysgrifennu adroddiad ymchwil sy’n esbonio’r ymchwil a wnaethpwyd fel rhan o’r modiwl. Mi fydd y traethawd hir yn cynnwys elfennau arferol adroddiad ymchwil (crynodeb, rhagarweiniad, dull, canlyniadau, trafodaeth, cyfeirnodau, atodiadau), a dylid ei fformatio’n ôl canllawiau’r APA. Cyn cyflwyno’r traethawd terfynol, caiff fyfyrwyr adborth ysgrifenedig ar ddrafft o’r rhagarweiniad, y dull, a’r canlyniadau.
Weighting
90%
Due date
11/04/2025