Modiwl PPT-4011:
Addysg Gwydd Dyn AU 2
Addysgu’r Gwyddorau Dynol mewn Addysg Uwch Rhan 2 2023-24
PPT-4011
2023-24
School Of Human And Behavioural Sciences
Module - Semester 1 & 2
10 credits
Module Organiser:
Caroline Bowman
Overview
Mae'r cwrs hwn yn rhan o gyfres o fodiwlau (PPT4010 a PPT4012) ac iddynt y nod yn y pen draw o ddatblygu a gwella sgiliau addysgu, dealltwriaeth o faterion yn ymwneud ag addysgu mewn Addysg Uwch, a'r mecanweithiau sy'n gysylltiedig â rhedeg a datblygu cyrsiau Gwyddorau Dynol mewn Addysg Uwch. Bydd disgwyl i fyfyrwyr weithio fel aelod o dîm addysgu i gwblhau eu Hymarfer Addysgu.
Mae'r cyrsiau hyn yn canolbwyntio'n bennaf ar yr elfen ymarferol o addysgu, yn hytrach na theori bedagogaidd. Nod y cwrs yw helpu myfyrwyr i fod yn addysgwyr cymwys a hyblyg, sy'n gallu hwyluso a chefnogi dysgu myfyrwyr. Yn ogystal, cânt brofiad o’r mecanweithiau 'cudd' sy’n hwyluso addysgu mewn Addysg Uwch (e.e., sicrhau ansawdd, cymedroli ac ati). Bydd y sgiliau hyn yn amhrisiadwy ar gyfer eu datblygiad academaidd a’u cyflogadwyedd yn y dyfodol.
Assessment Strategy
-threshold -Pass/Fail criteriaDyfernir gradd llwyddo ar ôl cwblhau lleoliad addysgu 90 awr yn llwyddiannus a phan fo tystiolaeth ar ffurf cofnod o oriau wedi'i lofnodi gan drefnydd y modiwl, arsylwadau addysgu, a thraethawd adfyfyriol.
-good -Pass/Fail criteriaDyfernir gradd llwyddo ar ôl cwblhau lleoliad addysgu 90 awr yn llwyddiannus a phan fo tystiolaeth ar ffurf cofnod o oriau wedi'i lofnodi gan drefnydd y modiwl, arsylwadau addysgu, a thraethawd adfyfyriol.
-excellent -Pass/Fail criteriaDyfernir gradd llwyddo ar ôl cwblhau lleoliad addysgu 90 awr yn llwyddiannus a phan fo tystiolaeth ar ffurf cofnod o oriau wedi'i lofnodi gan drefnydd y modiwl, arsylwadau addysgu, a thraethawd adfyfyriol.
Learning Outcomes
- Dangos dealltwriaeth o’r ystyriaethau sydd ynghlwm â pharatoi asesiadau ym maes Gwyddorau Dynol, marcio gwaith ar lefel israddedig yn briodol, a rhoi adborth effeithiol i fyfyrwyr
- Dylunio a datblygu deunyddiau dosbarth ar gyfer cyrsiau Gwyddorau Dynol ar lefel israddedig
- Gwerthuso arferion addysgu pobl eraill ac ymateb yn adeiladol i werthusiadau o'ch addysgu eich hun
- Rhyngweithio'n briodol gyda myfyrwyr ar lefel israddedig er mwyn cynnig profiad cadarnhaol ac addysgiadol i’r myfyrwyr
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Lleoliad
Weighting
0%
Due date
15/05/2023