Modiwl QCB-1113:
Iaith a Chymdeithas
Iaith a Chymdeithas 2024-25
QCB-1113
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Meinir Williams
Overview
Yn y modiwl hwn cewch eich cyflwyno i faes sosioieithyddiaeth. Bwriad hyn yw astudio effaith gwahanol ffactorau cymdeithasol ar y ffordd mae pobl yn siarad, e.e. tafodiaith, ffurfioldeb neu wahanol fathau o iaradwyr. Byddwn hefyd yn ystyried amlieithrwydd o fewn cymdeithas, yn enwedig yn y cyd-destun Cymreig. Ceir ffocws ar yr iaith Saesneg yn y darlithoedd a'r iaith Gymraeg yn y seminarau. Yn ogystal â dysgu sylfeini astudiaeth gymdeithasol-ieithyddol, byddwch hefyd yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy fel gwaith tîm, disgrifio data iaith a gwerthfawrogi gwahanol ddiwylliannau ieithyddol.
(Nodyn: mae'r modiwl QXL-1113 Language and Society yn rhannu darlithoedd gyda'r modiwl hwn.)
Bydd myfyrwyr yn dysgu am bynciau fel: • Maes sosioieithyddiaeth a'i derminoleg berthnasol • Amrywioldeb cymdeithasol-ieithyddol - sut mae pobl yn defnyddio iaith mewn gwahanol ffyrdd • Newidynnau ieithyddol - pa nodweddion o ramadeg Saesneg sy’n arddangos amrywiaeth defnydd? • Amrywiad cymdeithasol - pa agweddau o gefndir cymdeithasol unigolyn (gan gynnwys oedran, rhyw) sy'n dylanwadu ar eu defnydd o iaith? • Amrywiaeth rhanbarthol - pa nodweddion tafodieithol sydd mewn Cymraeg (ac ieithoedd eraill) a pham? • Enghreifftiau o amrywiaeth cymdeithasol ieithyddol - bydd myfyrwyr yn dysgu am astudiaethau dylanwadol yn y maes a'r hyn y mae ymchwilwyr yn ei wybod am sut mae Cymraeg yn amrywio • Sosioieithyddiaeth y Gymraeg. Sut mae sefyllfa sosioieithyddol iaith leiafrifol Geltaidd fel Cymraeg yn wahanol i sefyllfa iaith fyd-eang a mwyafrif fel Saesneg?
Assessment Strategy
Pasio / D: Myfyriwr wedi cyrraedd y safon dderbyniol ofynnol o ddealltwriaeth a/neu wybodaeth yn yr holl ddeilliannau dysgu. Gall y myfyriwr ddangos lefel ofynnol o ddealltwriaeth o'r cysyniadau sylfaenol a gall eu cymhwyso i ddata gyda rhywfaint o gywirdeb.
Good / B: Myfyriwr wedi cyflawni safon well na'r cyffredin o ddealltwriaeth a/neu wybodaeth ym mhob canlyniad dysgu, ac mae ganddo ddealltwriaeth glir a chywir o gysyniadau; y gallu i gymhwyso cysyniadau i ddata yn feirniadol ac yn feddylgar; tystiolaeth o ddarllen eang a chyfeiriadau clir a chywir at ddeunyddiau ffynhonnell; yn rhydd rhag camddealltwriaeth a gwallau cynnwys; yn rhydd o ddeunydd amherthnasol.
Ardderchog / A: Myfyriwr wedi cyflawni safon drylwyr o ddealltwriaeth a/neu wybodaeth ym mhob canlyniad dysgu; neu’r myfyriwr wedi dangos lefel eithriadol o lwyddiant mewn un neu fwy o ddeilliannau dysgu ynghyd â safon gyffredinol dda: myfyriwr wedi ennill dealltwriaeth drylwyr o'r pwnc, o ran cynnwys a theori; myfyriwr yn gallu cymhwyso cysyniadau yn glir ac yn gywir; tystiolaeth sylweddol o feddwl a dadansoddi beirniadol a gwreiddiol; dadl glir, resymegol; lefel uchel o gymhwysedd cyfathrebol; yn rhydd o ddeunydd amherthnasol a gwallau sillafu ac atalnodi; tystiolaeth o ddarllen helaeth y tu hwnt i destunau sylfaenol a chyfeiriadau clir a chywir at ddeunydd ffynhonnell.
Learning Outcomes
- Adnabod pwyntiau allweddol mewn theori sosioieithyddol gan ddefnyddio terminoleg addas.
- Disgrifio a chymharu’r defnydd o’r iaith Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd.
- Gwneud sylwadau ar amrywioldeb gramadegol yn yr iaith Gymraeg ar lefel sylfaenol.
- Ysgrifennu esboniadau o ffenomenau sosioieithyddol yn seiliedig ar eu dealltwriaeth o amrywiaeth ieithyddol.
Assessment method
Report
Assessment type
Crynodol
Description
Adroddiad dadansoddi sy'n gofyn i chi ateb cwestiynau byr ar agweddau o sosioieithyddiaeth o hanner cyntaf y modiwl, gan gynnwys amrywiaeth tafodiaith ac arddull.
Weighting
40%
Due date
11/11/2024
Assessment method
Class Test
Assessment type
Crynodol
Description
Prawf ar-lein ar gynnwys y modiwl, gan gynnwys e.e. cwestiynau amlddewis, cwestiynau llenwi'r bwlch, a chwestiynau byr / traethodau byr.
Weighting
60%
Due date
10/01/2025