Modiwl SCU-3010:
Traethawd Hir
Traethawd Hir 2024-25
SCU-3010
2024-25
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Gwenda Jones
Overview
Mae Traethawd Hir yn ddarn sylweddol o waith, yn cael ei gwblhau yn ystod y 3 flwyddyn. Mae'r traethawd terfynol tua 6,000 o eiriau.
Bydd gofyn i fyfyrwyr datblygu'r adolygiad llenyddiaeth trylwyr ym maes eich astudiaeth, sy'n trafod prif themâu eich testun. Mae'n bosib y byddwch wedi cwblhau rhywfaint o ymchwil gwreiddiol (ond mae hyn yn opsiynol) - er enghraifft, peth gwaith ymchwil meintiol neu ansoddol gwreiddiol y byddwch wedi ei gynnal gyda chymorth a chyfarwyddyd eich goruchwyliwr/aig. Drwy gydol y modiwl, byddwch yn datblygu eich dadansoddiad o'r llenyddiaeth, eich methodoleg ac unrhyw ddata a gasglwyd, ac yn ysgrifennu eich traethawd.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy (D- hyd at D+)Cyflwyno traethawd hir sy’n rhoi sylw i un neu fwy o bynciau sylweddol; disgrifio rhai o’r prif ystyriaethau empirig ac/neu fethodolegol sy’n codi o’r llenyddiaeth ac unrhyw ddata eraill a gasglwyd yn ystod yr ymchwil; cyflwyno darn estynedig digonol o waith ysgrifenedig ynghyd â ffynonellau llyfryddol a chyfeiriadau sylfaenol.
-good -Da (B- hyd at B+)Er mwyn llwyddo ar y lefel hon, bydd y myfyriwr/aig wedi cyflwyno Traethawd Hir deallus a medrus; dadansoddi cyfres o faterion empeiraidd, theoretaidd, a methodolegol sy'n berthnasol i'r ymchwil; dangos ymwybyddiaeth gadarn o safle'r testun dan sylw oddi mewn i'r ddisgyblaeth; cyflwyno cyfeiriadaeth a llyfryddiaeth briodol a chywir.
-excellent -Rhagorol (A- hyd at A*)Cyflwyno traethawd hir medrus iawn; dangos ymwybyddiaeth feirniadol o faterion empirig, theoretig a methodolegol fel y bo'n briodol i’r pwnc dan sylw; cyflwyno dadleuon/argymhellion cadarn i ategu themâu craidd y project; dangos ymwybyddiaeth dda o safle’r pwnc dan sylw yng nghyd-destun y maes gwyddorau cymdeithas perthnasol a’r gallu i gymryd rhan yn feirniadol mewn dadleuon cyfoes o fewn y llenyddiaeth berthnasol; rhoi gwybodaeth lyfryddol drefnus a thrylwyr, a chyflwyno gwaith cywir a thrwyadl iawn.
-another level-Da (C- hyd at C+)Er mwyn llwyddo ar y lefel hon, bydd y myfyriwr/aig wedi cyflwyno Traethawd Hir disgrifiadol; dadansoddi rhai o faterion empeiraidd, theoretaidd, a methodolegol sy'n berthnasol i'r ymchwil; dangos ymwybyddiaeth dda a boddhaol o safle'r testun dan sylw oddi mewn i'r ddisgyblaeth; cyflwyno cyfeiriadaeth a llyfryddiaeth weddol gyflawn a chywir.
Learning Outcomes
- Cyflwyno darn sylweddol o waith ysgrifenedig (6,000 o eiriau) sy'n seiliedig ar eich ymchwil eich hun yn y modiwl hwn.
Assessment method
Dissertation
Assessment type
Summative
Description
Traethawd Hir 6,000 (Sem2)
Weighting
100%
Assessment type
Summative
Description
Pennod ddrafft (ni cheir marc, ond adborth ar gael)
Weighting
0%