Modiwl SCW-4002:
GC gydag Oedolion
Gwaith Cymdeithasol gydag Oedolion 2024-25
SCW-4002
2024-25
School of Health Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Rhian Lloyd
Overview
- Bydd y modiwl yn archwilio modelau o anabledd megis y model meddygol, model cymdeithasol a labelu trwy archwilio amrywiaeth o astudiaethau achos.
- Bydd ymyriadau ac asesiadau gwahanol o oedolion mewn perygl yn cael eu harchwilio.
- Bydd gweithdai a darlithoedd yn darparu gwybodaeth a dealltwriaeth o effaith dementia ar unigolion a'u gofalwyr.
- Bydd proses o weithio mewn partneriaeth ag unigolion, teuluoedd a gofalwyr yn cael ei hesbonio a'i gwerthuso mewn ymarfer gwaith cymdeithasol presennol.
- Mae gwybodaeth am waith cymdeithasol gyda throseddwyr yn cael ei thrafod a phwysigrwydd sgiliau trosglwyddadwy mewn ymarfer gwaith cymdeithasol e.e. gwaith ataliol.
- Mae modelau gwahanol o weithio gydag unigolion â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu harchwilio gan ganolbwyntio ar ddiogelu unigolion, gofalwyr, teuluoedd a'r gymuned.
- Mae ymarfer gwaith cymdeithasol gyda gwahanol gysyniadau o anabledd yn cael eu trafod e.e.anableddau corfforol ac anableddau dysgu yn cael eu harchwilio ac ymyriadau gwahanol yn cael eu dadansoddi e.e. prosiect ail-alluogi drwy asesu gwahanol astudiaethau achos / clipiau fideo.
- Trafodir gwahanol fodelau o alaru a cholled a sut mae'r rhain yn cael eu defnyddio gydag unigolion, gofalwyr a theuluoedd. Bydd gweithdy yn edrych ar y model presennol sef 'cefnogaeth weithredol' mewn ymarfer gwaith cymdeithasol.
- Darparu gwybodaeth a dealltwriaeth o oblygiadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a threfniadau diogelu rhag colli rhyddid (DoLS) yn cael eu harchwilio drwy asesu astudiaethau achos go iawn.
- Mae rolau gweithwyr cymdeithasol yn gofyn iddynt i ymgysylltu â chleientiaid a theuluoedd a allai fod yn 'gleientiaid amharod', amwys neu'n gwrthsefyll tuag at y rhai sy'n ceisio darparu cymorth a diogelu. Mae hyn yn cynnwys swyddogaethau diogelu mewn perthynas ag oedolion sy'n agored i risg/ niwed, ac yn gweithio i ymgysylltu â grwpiau ymylol, fel troseddwyr ifanc a'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Bydd y sesiwn yn archwilio materion megis deall a tawelu ymddygiad ymosodol a chadw'n ddiogel rhag ymosodiad.
- Trafodir cryfderau a gwendidau gwahanol fodelau o asesiadau gwaith cymdeithasol fel sgwrs "Beth sy'n bwysig?" er mwyn cyflawni llesiant.
- Archwilio pwysigrwydd gwytnwch mewn ymarfer gwaith cymdeithasol cyfredol. Trafod gwahanol strategaethau i ddatblygu a chryfhau gwytnwch.
Assessment Strategy
-threshold -(C)1. Yr ateb yn canolbwyntio i raddau helaeth ar y dasg / cwestiwn, ond hefyd yn cynnwys rhywfaint o ddeunydd amherthnasol2.Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o’r rhan fwyaf o’r maes / prif egwyddorion, ond rhai bylchau 3.Rhywfaint o annibyniaeth meddwl y myfyriwr ei hun i’w weld4.Disgrifiadol / cyfyng o ran gwreiddioldeb wrth ddehongli a dadansoddi, ac yn dangos gallu cyfyng i adnabod, datblygu a chyflwyno cysylltiadau newydd rhwng pynciau5. Yr ateb wedi’i seilio yn helaeth ar y deunydd a gafwyd o’r darlithoedd gyda thystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol 6.Tueddol o gyflwyno dadleuon / honiadau heb dystiolaeth gefnogol neu resymeg 7. Rhywfaint o dystiolaeth o’r gallu i adlewyrchu’n feirniadol8. Rhywfaint o wybodaeth a dealltwriaeth o brif ddadleuon a chysyniadau allweddol o fewn gwaith cymdeithasol, yn cynnwys y cyd-destun polisi, deddfwriaethol ac economaidd o weithio yng Nghymru9. Lefel dderbyniol / anghyson o integreiddiad o sylfaen werthoedd gwaith cymdeithasol, gwerthoedd gwrth-wahaniaethol a gwrth-ormesol sy'n treiddio drwy’r gwaith 10. Tueddiad i ddod at ymarfer mewn modd disgrifiadol yn hytrach na chymhwyso syniadau yn feirniadol (pan fo’r gofyn)11. Cysylltiad cyfyngedig gyda modiwlau eraill o fewn y rhaglen 12. Strwythur ymhlyg: yn aml yn dibynnu ar y darllenydd i ffurfio cysylltiadau rhwng gwahanol rannau13. Rhywfaint o wallau ffeithiol 14. Cyflwynwyd i safon broffesiynol dderbyniol ond yn cynnwys rhai camgymeriadau cyfathrebu15. Cefnogi syniadau drwy gyfiawnhad damcaniaethol, ymchwil a chyfeirnodi priodol i lefel dderbyniol -good -(B) 1. Yn ateb y mwyafrif o agweddau’r dasg / cwestiwn / aseiniad yn cael ei ateb, dim deunydd amherthnasol 2. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth gref o’r rhan fwyaf o’r maes gydag ond ychydig o fylchau 3. Annibyniaeth meddwl y myfyriwr ei hun i’w weld 4. Cynnwys elfennau o wreiddioldeb wrth ddehongli a dadansoddi, ac yn dangos gallu i adnabod, datblygu a chyflwyno cysylltiadau newydd rhwng pynciau 5. Integreiddiad o ddeunydd amrywiol a pherthnasol, gyda thystiolaeth o ddarllen ac astudio y tu hwnt i’r wybodaeth a gafwyd o’r darlithoedd 6. Yn cynnwys dadleuon / honiadau sydd wedi’u cynnal a’u cyflwyno yn rhesymegol gyda’r cysylltiad rhwng rhannau dilynol sy’n hawdd i’w dilyn 7. Gwerthusiad beirniadol a rhesymegol o’r deunydd 8. Gwybodaeth a dealltwriaeth o brif ddadleuon a chysyniadau allweddol o fewn gwaith cymdeithasol, yn cynnwys y cyd-destun polisi, deddfwriaethol ac economaidd o weithio yng Nghymru 9. Integreiddiad cymwys o sylfaen werthoedd gwaith cymdeithasol, gwerthoedd gwrth-wahaniaethol a gwrth-ormesol sy'n treiddio drwy’r gwaith 10. Lefel dda o gymhwyso syniadau i sefyllfaoedd ymarfer (pan fo’r gofyn) 11. Yn gwneud rhai cysylltiadau perthnasol â modiwlau eraill o fewn y rhaglen 12. Wedi ei gynllunio a’i strwythuro’n dda ac yn canolbwyntio ar y dasg 13. Dim llawer o wallau ffeithiol 14. Cyflwynwyd i safon broffesiynol dda gyda’r rhan fwyaf wedi’i gyfleu’n gywir 15. Cefnogi syniadau drwy gyfiawnhad damcaniaethol, ymchwil a chyfeirnodi sydd gan fwyaf yn gywir -excellent -(A) 1. Pob agwedd o’r dasg / cwestiwn yn cael ei ateb, heb ddeunydd amherthnasol 2. Tystiolaeth gref o wybodaeth fanwl a dealltwriaeth drwyadl o'r maes 3. Annibyniaeth meddwl y myfyriwr ei hun yn gwbl amlwg drwyddo draw 4. Cynnwys elfennau arwyddocaol o wreiddioldeb wrth ddehongli a dadansoddi, ac yn dangos gallu clir i adnabod, datblygu a chyflwyno cysylltiadau newydd rhwng pynciau 5. Integreiddiad trylwyr a mewnwelediad llawn deallusrwydd o ddeunydd sydd o amrywiaeth eang a pherthnasol, gan fynd y tu hwnt i’r wybodaeth a gafwyd o’r darlithoedd 6. Yn cynnwys dadleuon sydd wedi’u cynnal a’u cyflwyno yn rhesymegol gyda phob cam yn dilyn ac yn cael ei gysylltu ‘n glir i’r dasg / cwestiwn a osodwyd 7. Gwerthusiad beirniadol a rhesymegol o’r deunydd 8. Gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o brif ddadleuon a chysyniadau allweddol o fewn gwaith cymdeithasol, yn cynnwys y cyd-destun polisi, deddfwriaethol ac economaidd o weithio yng Nghymru 9. Integreiddiad clir a chyson o sylfaen werthoedd gwaith cymdeithasol, gwerthoedd gwrth-wahaniaethol a gwrth-ormesol sy'n treiddio drwy’r gwaith 10. Gallu cyson i gymhwyso syniadau i sefyllfaoedd ymarfer (pan fo’r gofyn) 11. Yn gwneud cysylltiadau perthnasol â modiwlau eraill o fewn y rhaglen 12. Wedi ei gynllunio a’i strwythuro’n effeithiol heb wyro oddiar y dasg 13. Dim gwallau ffeithiol 14. Cyflwynwyd i safon broffesiynol uchel iawn ac wedi’i gyfleu’n gywir iawn 15. Cefnogi syniadau drwy gyfiawnhad damcaniaethol, ymchwil a chyfeirnodi priodol
Learning Outcomes
- Dadansoddi'r materion moesegol a’r cyfyng gyngor sy’n codi wrth ymarfer gydag oedolion sy’n defnyddio gwasanaethau.
- Dangos dealltwriaeth feirniadol o Wasanaethau Gofal yn y Gymuned yng Nghymru, ynghyd â’r hyn sy’n gyffredin a’r hyn sy’n wahanol rhwng Cymru, gweddill y DU, ac yn rhyngwladol.
- Dangos dealltwriaeth feirniadol o ymarfer gwaith cymdeithasol gydag oedolion mewn risg a gofalwyr bregus.
- Defnyddio a chloriannu fframweithiau asesu cyfoes ar gyfer amrywiaeth o oedolion sy’n defnyddio gwasanaethau.
- Trafod yn feirniadol amcanion polisi cynhwysiad cymdeithasol ac integreiddio cymdeithasol sy’n cystadlu â’i gilydd.
- Y gallu i integreiddio'n fedrus ddeddfwriaeth (gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014), yr arfer gorau, damcaniaethau a thystiolaeth ar sail ymchwil sy’n gysylltiedig â gwaith cymdeithasol.
Assessment method
Group Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad Grwp
Weighting
50%
Due date
27/11/2024
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Aseiniad 3,000 o eiriau
Weighting
50%
Due date
15/11/2024