Modiwl SCW-4012:
Lleoliad Ymarfer 2
Lleoliad Ymarfer Gwaith Cymdeithasol 2 2024-25
SCW-4012
2024-25
School of Health Sciences
Module - Semester 2
30 credits
Module Organiser:
Wendy Roberts
Overview
Mae Lleoliad Ymarfer Gwaith Cymdeithasol 2 yn 100 diwrnod, ac yn darparu cyfleoedd i gynyddu gwybodaeth am y ddeddfwriaeth, polisi a gweithdrefnau sy’n hysbysu ymarfer a chael profiad ychwanegol o ymarfer uniongyrchol mewn lleoliad ymarfer gwaith cymdeithasol sy'n dra gwahanol i Leoliad Ymarfer Gwaith Cymdeithasol 1, gan ddadansoddi'n feirniadol a myfyrio ar y profiad hwn.
Gan adeiladu ar y wybodaeth, sgiliau a'r gwerthoedd a gafwyd yn ystod Lleoliad Ymarfer Gwaith Cymdeithasol 1, mae Lleoliad Ymarfer Gwaith Cymdeithasol 2 yn canolbwyntio ar gyfnerthu ac ymestyn ymhellach yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth o rolau a thasgau gwaith cymdeithasol a datblygu sgiliau a chymhwysedd mewn ymarfer gwaith cymdeithasol proffesiynol.
Mae'r lleoliad yn cynnwys: - Sesiynau goruchwylio cyson i gefnogi a datblygu dysgu'r myfyriwr. - Cyfleoedd dysgu i ddatblygu sgiliau ymarfer gwaith cymdeithasol trwy weithio / cydweithio sy'n briodol i lefel datblygiad y myfyriwr. - Cyfle i gymryd rhan mewn gwaith uniongyrchol a fydd yn galluogi'r myfyriwr i ddangos tystiolaeth o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol (SW) a’r Cód Ymarfer Proffesiynol (CoPP) - Cyfleoedd ar gyfer gwaith rhyng-broffesiynol. - Integreiddio dulliau gwaith cymdeithasol, modelau a damcaniaethau i ymarfer a ddefnyddir yn ystod y lleoliad. - Cyfleoedd i fyfyrio a dadansoddi’n feirniadol yn llafar ac yn ysgrifenedig mewn ymarfer.
Bydd o leiaf bump arsylwad uniongyrchol o ymarfer myfyriwr gydag unigolion yn ystod y lleoliad hwn. Mae’n rhaid i o leiaf bedwar o'r arsylwadau gael eu cwblhau gan yr addysgwr ymarfer enwebedig, tra gall y llall gael ei wneud gan weithiwr cymdeithasol arall sydd yn gofrestredig ers o leiaf 3 blynedd. Gofynnir am adborth mewn perthynas ag ymarfer y myfyriwr gan yr unigolion y mae'r myfyriwr wedi bod yn gweithio gyda hwy.
Ystyrir fod gan fyfyrwyr hawl i oruchwyliaeth ffurfiol, rheolaidd a hyrwyddol i bwrpas myfyrio a datblygu drwy gydol y lleoliad. Bydd materion neu bryderon yn cael eu trafod mewn modd agored, a'u rheoli a'u datrys gyda chynlluniau cefnogi cytunedig os oes angen.
Bydd cynnwys y portffolio terfynol Lleoliad Ymarfer Gwaith Cymdeithasol 2 yn cynnwys y canlynol: • Cytundeb Dysgu Ymarfer yn cynnwys manylion yr holl bartïon sy'n ymwneud a'r lleoliad, oriau’r asiantaeth, gwahanol agweddau ar y trefniadau mewn perthynas â rheoli’r lleoliad deilliannau dysgu'r myfyriwr a'r disgwyliadau ohono/i, y cyfleodd dysgu sydd ar gael, ac ati • Dogfennau dadansoddi ac adlewyrchu ar ymarfer, gan gynnwys paratoadau, adlewyrchiadau’r myfyrwyr, asesydd ymarfer ac adborth unigolion a gofalwyr • Adroddiad o gynnydd mewn perthynas a gwahanol sgiliau proffesiynol • Adroddiad Canol Ffordd ar gynnydd myfyrwyr yn hanner cyntaf y lleoliad, a chynllun ar gyfer yr ail hanner • Adroddiad terfynol Addysgwr Ymarfer gydag argymhelliad pasio / methu • Grid mapio tystiolaeth SGC a’r Cód Ymarfer Proffesiynol o fewn y portffolio • Cofnodion o unrhyw gyfarfodydd ychwanegol gynhaliwyd yn ystod y lleoliad • Tystiolaeth ddogfennol arall fel y bo'n briodol.
Assessment Strategy
-threshold -Bydd y lleoliad yn cael ei ddyfarnu gan benderfyniad o basio neu fethu. Ni fydd marc canran yn cael ei roi ar gyfer y portffolio lleoliad. I lwyddo rhaid i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth yn erbyn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol a'r Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol. Mae'r gofynion hyn wedi'u nodi yn y Fframwaith ar gyfer y Radd mewn Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru (2018), gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Learning Outcomes
- Dangos eu bod wedi caffael dealltwriaeth, yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, o effaith ymarfer gwaith cymdeithasol arnynt;
- Dangos eu bod wedi gallu datblygu hunaniaeth broffesiynol fel gweithiwr cymdeithasol drwy brofiad dysgu cydlynol ac integredig;
- Dangos eu bod yn gallu defnyddio dulliau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) a thechnegau i gefnogi eu dysgu ac ymarfer.
- Dangos eu bod yn meddu ar y sgiliau rhyngbersonol a'r gwerthoedd gofynnol er mwyn iddo ef neu hi fod yn addas ac yn ddiogel i weithio gydag unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau a'r rhai sy'n gofalu amdanynt.
- Dangos eu gallu i integreiddio eu hymarfer, theori gwaith cymdeithasol perthnasol, deddfwriaeth ac ymchwil yn effeithiol;
- Dangos fod gennynt yr wybodaeth ddamcaniaethol a'r profiad ymarferol angenrheidiol i ddatblygu ymarfer gwaith cymdeithasol rhyngbroffesiynol a rhyngasiantaethol effeithiol;
- Dangos gallu i adnabod, deall ac ymateb i faterion sy'n benodol i neu sy'n nodweddiadol o anghenion Cymru, ei hieithoedd, deddfwriaeth, diwylliant, daearyddiaeth a sefydliadau a sefyllfa nodedig yr Iaith Gymraeg;
- Dangos gallu i adnabod, deall ac ymateb i faterion sy'n ymwneud â swyddogaethau statudol o ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl.
- Dangos gallu i ddisgrifio, egluro a chymhwyso'r Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol drwy eu hymarfer, ymddygiad a gwaith academaidd;
- Dangos tystiolaeth o gymhwysedd yn y 6 rôl allweddol gweithiwr cymdeithasol fel y diffinnir gan yr 20 o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol (2012). (Bydd asesiadau yn cael eu hysbysu gan Ddangosyddion Perfformiad briodolir ar gyfer y lefel hon);
- Dangos y gallant werthuso a dysgu o'u ymarfer gwaith cymdeithasol eu hunain a gwaith eraill;
Assessment type
Summative
Description
Lleoliad Ymarfer 2
Weighting
0%
Due date
14/07/2025