Modiwl SCY-2205:
Cymhwyso theori ag Ymarfer
Cymhwyso Theori ag Ymarfer: Astudiaeth o drosedd a dioddefwyr 2024-25
SCY-2205
2024-25
Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Gwenda Jones
Overview
Mae'r fodiwl yn gyflwyniad blaengar i faes troseddeg yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg i'r presennol. Ymdrinir a damcaniaethau cymdeithasegol o drosedd a dioddefaint yn enwedig: damcaniaethau diwylliannol a thechnegau niwtraleiddio; cyflwyniad i droseddeg feirniadol, cyflwyniad i ddioddefoleg; cymhwyso damcaniaethau i broblemau rheolaeth troseddu a phlismona o ddydd i ddydd.
Mae’r fodiwl yn cynnwys trafodaeth o safbwyntiau theoretaidd yn wythnosol drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminararu. Bydd hyn yn ein caniatau i ymdrin a theoretwyr allweddol a thrafod a chymhwyso syniadau i sefyllfaoedd yn y gymdeithas gyfoes. Cychwynnir gyda agweddau Positifiaeth yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheng hyd at datblygiadau yn yr Ugeinfed Ganrif ag adolygu syniadau yn yr Unfed Ganrif a’r Hugain o achosion trosedd a gwyrni cymdeithasol.
Assessment Strategy
-threshold -Boddhaol (Marciau D- hyd at D+) Ychydig o ddadansoddiad feirniadol a gyflwynir a cheir defnydd cyfyngiedig o ffynonellau academaidd (yn enwedig yr rhai ag argymhellir). Mae'r gwaith yn orddibynnol ar esiamplau o ddigwyddiadau cyfoes i ddangos theori mewn ymarfer. Bydd yr asesiad wedi sylfaenu ar ychydig o waith academaidd yn unig gan ddibynnu'n ar ffynonellau'r We a pheth cyfieiriadu a dyfyniadau sylfaenol.
-good -Da (Marciau C- hyd at B+) Bydd dadansoddiad da a soled o theoriau, defnydd o ffynonellau academaidd (ag argymhellir). Ceir defnydd o esiamplau i ddangos theori mewn ymarfer. Mae'r asesiad wedi ei sylfaenu ar ffynonellau academaidd a chyfeiriadu, a dyfynnu pwrpasol.
-excellent -Rhagorol (Marciau A- hyd at A+) Cyflwyniad a dadansoddiad beirniadol sylweddol a theoriau drafodwyd yn y fodiwl. Defnydd da ag effeithiol (ag argymhellir, ag eraill a ddarganfuwyd). Denfydd o ffynonellau megis cyfnodolion academaidd er mwyn a). dangos theori mewn ymarfer b). cyflwyno gwerthusiad o'r theori. Ceir defnydd o esiamplau cyfoes i ddangos theori mewn ymarfer. Mae'r asesiad wedi ei sylfaenu ar feirniadaeth o waith academaidd a defnydd da o gyfeirniadu a dyfyniadau priodol.
Learning Outcomes
- Cymhwyso syniadau troseddeg i faterion cyfredol neu feysydd consyrn plismona'n benodol.
- Dadansoddi ffyrdd y mae troseddeg a dioddefoleg 20fed Ganrif wedi esblygu a datblygu.
- Dehongli canobwynt damcaniaethau i ddeall y byd troseddol, rheolaeth troseddu a phlismona.
- Gwerthuso damcaniaethau troseddeg allweddol o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg i'r presennol.
- Trafod yn feirniadol bodolaeth dioddefoleg fel maes penodol mewn astudiaethau academaidd.
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Aseiniad yn adolygu/gwerthuso theori 2, 000 o eiriau Sylwer na chaniateir defnydd technoleg AL Chatbox efo'r asesiad hwn. Cyfeirir pob achos i'w archwilio gan Bwyllgor Unioneb Academaidd yr Ysgol.
Weighting
50%
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Arholiad Theori Cymhwyso Troseddeg ( 2 awr) Bydd angen ateb dau gwestiwn.
Weighting
50%