Modiwl UXB-2123:
Ymarfer Proffesiynol
Ymarfer Proffesiynol 2024-25
UXB-2123
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Ffion Evans
Overview
Yn y modiwl hwn byddwch yn ymwneud ag arferion y diwydiant celfyddydol fel y mae'n gweithredu yn y Deyrnas Unedig. Byddwch yn cael y cyfle i wneud cyflwyniad proffesiynol yn edrych ar broject creadigol yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontio, ysgrifennu cais am gyllid celfyddydol, a chael profiad uniongyrchol trwy eich ymarfer o sut mae strwythurau sefydliadol yn gweithio ac o bolisïau celfyddydol, rheolaeth y maes celfyddydol, marchnata, ariannu, iechyd a lles ym maes y celfyddydau ac ymarfer cymunedol. Ar ôl cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd gennych ddealltwriaeth o’r ystod o wahanol opsiynau gyrfa sydd ar gael yn y celfyddydau, a byddwch yn barod i ymgysylltu â'r proffesiwn trwy arsylwi, ymchwil gymhwysol a dadansoddi beirniadol.
Mae’r modiwl yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y celfyddydau a/neu’r cyfryngau neu sy’n dod o feysydd addysg a seicoleg ac sydd eisiau archwilio llwybrau pellach sy’n croesi i feysydd pwnc eraill.
Bydd darlithwyr gwadd o'r diwydiant yn ychwanegiad integredig i'r modiwl hwn yn ogystal â'r opsiwn i ddilyn modiwl 'Lleoliad Celfyddydol Cymunedol' yn Semester 2 i gael profiad gwaith.
ADBORTH MYFYRWYR AM Y MODIWL: Y modiwl mwyaf diddorol yn fy marn i oedd ymarfer proffesiynol oherwydd iddo roi sylfaen i mi o ran sut i fynd ati i greu project artistig a’r holl agweddau o amgylch hynny megis cyllidebu a sut i wneud cais am y grantiau sydd ar gael. Fe wnaeth cael cyfarfod â gweithwyr proffesiynol lleol sy’n gweithio yn y diwydiant roi cipolwg gwirioneddol i fi o’r gwaith ac roedd llunio cais am grant ar gyfer yr asesiad yn brofiad gwych.
Ymarfer proffesiynol, Sefydliadau celfyddydol, Strwythur cyllido’r Celfyddydau, Polisi a strategaeth sefydliadau celfyddydol a chyrff cyllido, Prosesau ymgeisio am gyllid yn y celfyddydau, Rheolaeth yn y celfyddydau, Marchnata yn y celfyddydau, Cerddoriaeth Iechyd a Lles Datblygu projectau celfyddydol, Ymarfer cymunedol, Ysgrifennu adroddiadau.
Assessment Strategy
Trothwy (D-, D, D+): •Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion yn unig •Gwendidau yn y ddealltwriaeth o’r prif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Perfformiad neu ymateb ysgrifenedig yn canolbwyntio’n wael ar y cwestiwn a chyda pheth deunydd amherthnasol a strwythur gwael •Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi •Dim dehongli gwreiddiol •Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir •Sgiliau grŵp gwan •Llawer o wendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
Da / Boddhaol (C- i C +) •Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion •Yn deall y prif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Yr ymateb ysgrifenedig neu berfformiad yn canolbwyntio ar aseiniad ond hefyd gyda rhywfaint o ddeunydd amherthnasol a gwendidau yn y strwythur •Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi ar y cyfan •Dim dehongli gwreiddiol •Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir •Datrys problemau cyfyngedig/gwaith tîm boddhaol •Rhai gwendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
Da iawn/Da B- i B+ •Gwybodaeth gynhwysfawr •Dealltwriaeth fanwl •Astudio cefndirol: •Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt ac wedi’i strwythuro’n dda •Rhan fwyaf o’r dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol •Ychydig neu ddim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi •Rhywfaint o ddehongliad gwreiddiol •Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau •Sgiliau grŵp cryf •Cyflwyniad da iawn gyda chyfathrebu cywir
Rhagorol (A- hyd A*): •Gwybodaeth gynhwysfawr •Dealltwriaeth fanwl •Astudio cefndirol helaeth •Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt clir ac wedi’i strwythuro’n dda •Dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol •Dim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi •Dehongliad gwreiddiol •Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau •Sgiliau grŵp cryf •Cyflwyniad ardderchog gyda chyfathrebu manwl gywir
Learning Outcomes
- Arddangos sgiliau trefnu effeithiol with gynllunio, cyllidebu a farchnata
- Cydnabod a dethol arferion gweithredol sy'n briodol i'w defnyddio mewn sefydliadau celfyddydol
- Cydnabod strategaethau a polisiau sydd ar gael ar gyfer sefydliadau celfyddydol.
- Gweithredu ymchwil a phrofiadau personol ar gyfer datrys problemau cymhleth yn ymwneud yn y maes celfyddydol.
Assessment method
Group Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
As part of a creative team, you will present a presentation to professionals, exploring a creative project with in Pontio’s Arts and Innovation Centre. Ensuring evidence informed research to support. You will be assessed both individually and as part of your group.
Weighting
40%
Due date
21/11/2024
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Project funding application: Based on the Arts Council of Wales application form for small grants.
Weighting
60%
Due date
10/01/2025