Modiwl WMC-4045:
Cyfansoddi mewn Cyd-Destun
Cyfansoddi mewn Cyd-Destun 2024-25
WMC-4045
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Guto Puw
Overview
Mae'r modiwl hwn yn dangos i fyfyrwyr sut i leoli eu harfer creadigol eu hunain yng nghyd-destun cyfansoddi cyfoes.
Mae'r modiwl yn defnyddio astudiaethau achos o weithiau gan gyfansoddwyr sefydledig, gan edrych ar agweddau technegol, diwinyddol ac athronyddol, a fydd yn helpu yn eu tro i lywio ymarfer y myfyrwyr.
Mae'n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu gan gyfansoddwyr cyfoes sefydledig sydd â llawer iawn o brofiad yn y diwydiant ar draws ystod o genres ac arddulliau.
Byddwch yn dysgu sut i ymgysylltu'n feirniadol â chyfansoddwyr a'u gweithiau a sut i gymhwyso'r egwyddorion hynny i'ch gwaith eich hun. Byddwch hefyd yn cael mewnwelediad cyflogadwyedd gwerthfawr gan gyfansoddwyr proffesiynol profiadol.
Mae dau asesiad ar y modiwl. Yn gyntaf, byddwch yn ysgrifennu traethawd ar bwnc damcaniaethol, esthetig, athronyddol neu ddadansoddol sy'n berthnasol i'ch gwaith eich hun. Yn ail, byddwch yn creu astudiaeth gyfansoddiadol wedi'i hysbrydoli gan waith cyfansoddwr sefydledig ac yn dangos dealltwriaeth ymarferol o'i ymagwedd dechnegol, safbwynt damcaniaethol, pryderon esthetig a/neu iaith arddulliadol a gynhaliwyd trwy gydol y semester.
Bydd y seminarau yn canolbwyntio ar faes penodol o gyfansoddi (offerynnol a lleisiol; ffilm a gemau; electroacwstig a chelfyddyd sonig). Bydd y myfyrwyr yn ystyried ystyriaethau damcaniaethol a thechnegol sy'n codi mewn gweithiau penodol o gyfansoddi cyfoes, ac mewn astudiaethau beirniadol perthnasol ohonynt.
Bydd myfyrwyr a staff hefyd yn cyfarfod fel un grŵp mawr gan gyfuno pob maes cyfansoddi a chael clywed cyflwyniadau gan staff, myfyrwyr a darlithwyr gwadd mewn meysydd sy'n berthnasol i bob ffurf o gyfansoddi. Byddant yn ystyried ac yn trafod ym mha ffyrdd y gellir cymhwyso'r ddirnadaeth a gafwyd wrth ystyried un genre o gyfansoddi i genres eraill.
Gall pynciau, gweithiau a thestunau i'w hystyried gynnwys: Music from Experience Music from the Past Music from the Everyday Composing Opera Folk Music in Art Music One vs Many Anna Meredith’s Hands Free Lachenmann’s extended techniques Joanna Demers: ‘Site in Ambient, Soundscape and Field Recordings’ (Listening Through the Noise‘) Trevor Wishart: ‘Beyond the Pitch/Duration Paradigm’ (On Sonic Art) Denis Smalley: ‘Spectromophology: Explaining Sound Shapes’ (Organised Sound)
Assessment Strategy
50%-59% (Llwyddo) Y prif gryfder sy’n teilyngu marc yn y categori hwn yw creu syniadau cerddorol a’u cyflawni’n dechnegol er mwyn cael canlyniad effeithiol drwodd a thro. Mae ffactorau a all gyfyngu marc i’r lefel hon yn cynnwys un neu fwy o’r canlynol: adeiledd cyffredinol nad yw bob amser yn llwyr gynnal y deunydd y mae’n ei gynnwys nac wedi’i gynnal ganddo; llithriadau ysbeidiol o ran cydlyniad yr ymresymiad cerddorol, peidio ag archwilio rhai agweddau ar rai syniadau cerddorol neu eu tanddatblygu; bod dyfeisiad yn bresennol ond yn gyfyngedig; llwyddiant cymysg o ran cyfosodiad a pherthynas effeithiol rhwng syniadau a deunyddiau; peth anghydbwysedd o ran undod ac amrywiaeth (yn enwedig wrth orddefnyddio deunydd heb ei ddatblygu); defnydd amhriodol, yn achlysurol, ar adnoddau offerynnol, lleisiol, sonig a/neu dechnolegol; techneg gadarn, ond heb fod bob amser yn sicr nac yn huawdl; ffurfiant cerddorol a rheolaeth ysbeidiol a chyfyngedig ar frawddegau, arwyddion, cyflymder, tempo, deinameg, seinlawnder a gweadau; ychydig o lithriadau o ran cyflwyno, gyda rhai cyfyngiadau o ran ymarferoldeb deunyddiau yn y perfformiad.
60-69% (Teilyngdod) Y prif gryfder yw creu, cyflawni’n dechnegol a threfnu syniadau cerddorol dychmygus i greu canlyniad cyffredinol sy’n argyhoeddiadol yn esthetig. Mae’r cyfansoddiad yn dangos y rhan fwyaf o’r canlynol: adeiledd cyffredinol huawdl ac effeithiol; ymresymiad cerddorol argyhoeddiadol, a grëir wrth archwilio a datblygu syniadau a deunyddiau cerddorol; syniadau cerddorol dychmygus a huawdl; cydbwysedd manwl rhwng undod ac amrywiaeth, fel bod y cyfansoddiad yn ddiddorol ac yn gydlynol iawn; defnydd priodol ac effeithiol ar adnoddau offerynnol lleisiol, sonig a/neu dechnolegol, yn cyfrannu mewn modd arwyddocaol at y pwrpas creadigol; defnydd cadarn ar ddulliau technegol priodol; sensitifrwydd da iawn wrth bennu brawddegau, arwyddion, cyflymder, tempo, deinameg, seinlawnder a gweadau, gan ddangos dealltwriaeth o’r effaith gyffredinol a gânt ar y gwaith cerddorol gorffenedig; safon dda o gyflwyno, gan roi llawer o sylw i fanylion, ac ystyriaeth amlwg o ymarferoldeb y deunyddiau perfformio a/neu fanylion technegol gweithiau sy’n cynnwys technoleg.
70%-83% (Rhagoriaeth) Y prif gryfder yw creu canlyniad cyffredinol grymus, deniadol a boddhaus yn esthetig drwy ddychymyg cerddorol cyson a gafael dechnegol. Mae’r cyfansoddiad yn dangos y canlynol: adeiledd cydlynol wedi’i weu’n dynn; ymresymiad cerddorol cydlynol, argyhoeddiadol a pharhaus, wedi’i greu wrth archwilio a datblygu posibiliadau llawn y syniadau a’r deunyddiau cerddorol; syniadau cerddorol wedi’u creu a’u hynganu gyda dawn a dychymyg amlwg, a chyda rhywfaint o wreiddioldeb; cydbwysedd llwyr briodol (ond nid o anghenraid yn gyfartal) rhwng undod ac amrywiaeth, fel y cynhelir diddordeb a chydlyniad trwy gydol y darn, defnydd nodedig, creadigol ac idiomatig ar adnoddau offerynnol, lleisiol, sonig a/neu dechnolegol; defnydd hyderus, huawdl a doeth ar ddulliau technegol priodol; tystiolaeth o sensitifrwydd craff tuag at effeithiolrwydd brawddegau ac arwyddion, cyflymder, tempo, deinameg, seinlawnder a gweadau, a chyfuniad, cyfosodiad a chydgysylltiad syniadau, a rheolaeth sicr drostynt; cyflwyniad trawiadol, gan roi sylw ardderchog i fanylion ac ystyriaeth lawn i ymarferoldeb deunyddiau perfformio a/neu fanylion technegol gwaith sy’n cynnwys technoleg.
84%-100% (Rhagoriaeth Uchel) Byddai cyfansoddiadau yn y categori hwn yn argyhoeddiadol ac yn gredadwy o fewn rhaglen o weithiau a gyfansoddwyd yn broffesiynol. Dim ond mewn achosion eithriadol y rhoddir marciau yn y band hwn lle mae’r cyfansoddiad yn brofiad cerddorol llwyr wefreiddiol a gyflawnwyd trwy wreiddioldeb creadigol gwirioneddol ynghyd a meistrolaeth dechnegol hollol gadarn.
Learning Outcomes
- Cyd-destunoli gwaith creadigol gyda chyfansoddwyr eraill
- Cyfleu syniadau a mynegi barn yn effeithiol yn ysgrifenedig
- Meithrin hyfedredd mewn amryw o dechnegau cyfansoddi
- Mynegi, cyfosod a/neu gymhwyso amrywiaeth o ddamcaniaethau, cyd-destunau a chysyniadau sy'n ymwneud â chyfansoddiad cyfoes
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd neu gyflwyniad ysgrifenedig arall ar bwnc damcaniaethol, esthetig, athronyddol neu ddadansoddol sy'n berthnasol i arfer cyfansoddi'r myfyriwr/fyfyrwraig ei hun, fel y cytunwyd â thiwtor y modiwl. Gall y cyflwyniad fod yn draethawd confensiynol, neu sylwebaeth ddadansoddol gan gynnwys siartiau, diagramau a/neu nodiadau sgôr, gyda'r cyfanswm geiriau wedi'i addasu'n unol â hynny. Fel arfer fe’i cyflwynir yn yr wythnos cyn gwyliau'r Pasg.
Weighting
50%
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Cyfansoddiad (gyda sylwebaeth ysgrifenedig). Astudiaeth gyfansoddi Astudiaeth gyfansoddiadol a ysbrydolwyd gan waith cyfansoddwr sefydledig a dangos dealltwriaeth ymarferol o'i ddull/o’i dull technegol, safbwynt damcaniaethol, diddordebau esthetig a/neu iaith arddulliol a wneir trwy gydol y semester. Ni ddylai hyn fod yn pastiche na dynwarediad o'r cyfansoddwr a ddewiswyd, ond ymateb creadigol i waith y cyfansoddwr hwnnw/gyfansoddwraig honno neu ddarn penodol ganddynt. Dylech hefyd gyflwyno sylwebaeth gyd-destunol c. 500 o eiriau sy'n cyd-fynd â’r cyfansoddiad. I'w gyflwyno ar ddiwrnod cyntaf o'r cyfnod asesu Semester 2.
Weighting
50%