Modiwl WMC-4124:
Project Cyfansoddi I
Project Cyfansoddi I 2024-25
WMC-4124
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Guto Puw
Overview
Bydd y modiwl hwn yn galluogi pob myfyriwr i ymchwilio i'r grefft o gyfansoddi ar lefel Meistr. Caiff cynnwys y modiwl ei ddiffinio gan ddiddordebau ac arddulliau pob myfyriwr unigol, dan arweiniad tiwtor y modiwl neu aelodau staff perthnasol eraill. Bydd materion amrywiol yn ymwneud â'r tueddiadau creadigol presennol yn cael eu trafod, a sut y gellid eu hymgorffori yn ymarfer creadigol pob myfyriwr. Bydd y modiwl yn cael ei asesu drwy gyfansoddiad sylweddol (neu bortffolio o gyfansoddiadau) a chyflwyniad unigol.
Caiff cynnwys y cwrs ei ddiffinio gan ddiddordebau pob myfyriwr unigol, a archwilir dan gyfarwyddyd tiwtor y modiwl neu aelodau staff perthnasol eraill.
Assessment Strategy
50%-59% (Llwyddo) Y prif gryfder sy’n teilyngu marc yn y categori hwn yw creu syniadau cerddorol a’u cyflawni’n dechnegol er mwyn cael canlyniad effeithiol drwodd a thro. Mae ffactorau a all gyfyngu marc i’r lefel hon yn cynnwys un neu fwy o’r canlynol: adeiledd cyffredinol nad yw bob amser yn llwyr gynnal y deunydd y mae’n ei gynnwys nac wedi’i gynnal ganddo; llithriadau ysbeidiol o ran cydlyniad yr ymresymiad cerddorol, peidio ag archwilio rhai agweddau ar rai syniadau cerddorol neu eu tanddatblygu; bod dyfeisiad yn bresennol ond yn gyfyngedig; llwyddiant cymysg o ran cyfosodiad a pherthynas effeithiol rhwng syniadau a deunyddiau; peth anghydbwysedd o ran undod ac amrywiaeth (yn enwedig wrth orddefnyddio deunydd heb ei ddatblygu); defnydd amhriodol, yn achlysurol, ar adnoddau offerynnol, lleisiol, sonig a/neu dechnolegol; techneg gadarn, ond heb fod bob amser yn sicr nac yn huawdl; ffurfiant cerddorol a rheolaeth ysbeidiol a chyfyngedig ar frawddegau, arwyddion, cyflymder, tempo, deinameg, seinlawnder a gweadau; ychydig o lithriadau o ran cyflwyno, gyda rhai cyfyngiadau o ran ymarferoldeb deunyddiau yn y perfformiad.
60-69% (Teilyngdod) Y prif gryfder yw creu, cyflawni’n dechnegol a threfnu syniadau cerddorol dychmygus i greu canlyniad cyffredinol sy’n argyhoeddiadol yn esthetig. Mae’r cyfansoddiad yn dangos y rhan fwyaf o’r canlynol: adeiledd cyffredinol huawdl ac effeithiol; ymresymiad cerddorol argyhoeddiadol, a grëir wrth archwilio a datblygu syniadau a deunyddiau cerddorol; syniadau cerddorol dychmygus a huawdl; cydbwysedd manwl rhwng undod ac amrywiaeth, fel bod y cyfansoddiad yn ddiddorol ac yn gydlynol iawn; defnydd priodol ac effeithiol ar adnoddau offerynnol lleisiol, sonig a/neu dechnolegol, yn cyfrannu mewn modd arwyddocaol at y pwrpas creadigol; defnydd cadarn ar ddulliau technegol priodol; sensitifrwydd da iawn wrth bennu brawddegau, arwyddion, cyflymder, tempo, deinameg, seinlawnder a gweadau, gan ddangos dealltwriaeth o’r effaith gyffredinol a gânt ar y gwaith cerddorol gorffenedig; safon dda o gyflwyno, gan roi llawer o sylw i fanylion, ac ystyriaeth amlwg o ymarferoldeb y deunyddiau perfformio a/neu fanylion technegol gweithiau sy’n cynnwys technoleg.
70%-83% (Rhagoriaeth) Y prif gryfder yw creu canlyniad cyffredinol grymus, deniadol a boddhaus yn esthetig drwy ddychymyg cerddorol cyson a gafael dechnegol. Mae’r cyfansoddiad yn dangos y canlynol: adeiledd cydlynol wedi’i weu’n dynn; ymresymiad cerddorol cydlynol, argyhoeddiadol a pharhaus, wedi’i greu wrth archwilio a datblygu posibiliadau llawn y syniadau a’r deunyddiau cerddorol; syniadau cerddorol wedi’u creu a’u hynganu gyda dawn a dychymyg amlwg, a chyda rhywfaint o wreiddioldeb; cydbwysedd llwyr briodol (ond nid o anghenraid yn gyfartal) rhwng undod ac amrywiaeth, fel y cynhelir diddordeb a chydlyniad trwy gydol y darn, defnydd nodedig, creadigol ac idiomatig ar adnoddau offerynnol, lleisiol, sonig a/neu dechnolegol; defnydd hyderus, huawdl a doeth ar ddulliau technegol priodol; tystiolaeth o sensitifrwydd craff tuag at effeithiolrwydd brawddegau ac arwyddion, cyflymder, tempo, deinameg, seinlawnder a gweadau, a chyfuniad, cyfosodiad a chydgysylltiad syniadau, a rheolaeth sicr drostynt; cyflwyniad trawiadol, gan roi sylw ardderchog i fanylion ac ystyriaeth lawn i ymarferoldeb deunyddiau perfformio a/neu fanylion technegol gwaith sy’n cynnwys technoleg.
84%-100% (Rhagoriaeth Uchel) Byddai cyfansoddiadau yn y categori hwn yn argyhoeddiadol ac yn gredadwy o fewn rhaglen o weithiau a gyfansoddwyd yn broffesiynol. Dim ond mewn achosion eithriadol y rhoddir marciau yn y band hwn lle mae’r cyfansoddiad yn brofiad cerddorol llwyr wefreiddiol a gyflawnwyd trwy wreiddioldeb creadigol gwirioneddol ynghyd a meistrolaeth dechnegol hollol gadarn.
Learning Outcomes
- Cyfansoddi'n fedrus mewn arddull gyfoes gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau priodol, gan ddangos ymwybyddiaeth o iaith ac idiomau diwylliant celf cyfoes.
- Dangos gwreiddioldeb meddwl ac annibyniaeth greadigol.
- Dangos hyder wrth ddefnyddio offer a deunyddiau cyfansoddi, mewn perthynas â gwaith stiwdio a/neu gyfansoddiadau offerynnol a lleisiol.
- Gwerthuso'n feirniadol werthuso y rhinweddau cyfansoddi a'u gallu i'w cymhwyso i'w gwaith eu hunain.
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Portffolio o gyfansoddiadau (10 munud). Dylai un o'r darnau fel arfer fod o leiaf 6 munud o hyd, oni bai fod y portffolio ar gyfer ffilm neu'r cyfryngau lle gellir cyflwyno darnau byrrach fel bo'n addas.
Weighting
70%
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad o hyd at 15 munud o hyd ar agwedd o'ch prosiect neu gyfansoddiad. Caiff pwnc y cyflwyniad ei drafod a'i gytuno gan diwtor y modiwl o flaen llaw. Bydd y cyflwyniad yn cael ei ddarparu'n bersonol yn ystod sesiwn amserlen yn ystod Semester 1 (union ddyddiadau i'w gadarnhau) a'r deunydd perthnasol a gyflwynir ar Blackboard o fewn 24 awr i'r cyflwyniad. Asesiad llwydo/methu
Weighting
30%