Modiwl WXC-1301:
Cerddoriaeth fel Hanes Diwylli
Cerddoriaeth Ewropeaidd 1550 -1850 2023-24
WXC-1301
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Stephen Rees
Overview
Mae'r modiwl hwn yn datblygu sgiliau cerddolegol myfyrwyr drwy astudio cerddoriaeth Ewropeaidd a gyfansoddwyd rhwng 1550 a 1850, ynghyd â chyfres o weithdai ar sgiliau astudio uwch.
Mae'r modiwl yn archwilio gweithiau dethol mewn amrywiaeth o genres o ddiwedd y Dadeni hyd at ddiwedd ymerodrau Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bydd newidiadau a datblygiadau mewn arddulliau cerddorol yn cael eu gosod yn eu cyd-destunau hanesyddol, diwylliannol, cymdeithasol, daearyddol ac esthetig. Yn ogystal, mae'r myfyrwyr yn ymgymryd ag astudiaeth ddyfnach o weithiau’r cyfnod, gan eu dadansoddi fel testunau cerddorol. Byddant hefyd yn archwilio amgylchiadau cyfansoddi’r gweithiau, a'r goblygiadau a'r cyd-destunau diwylliannol ehangach ar gyfer y gweithiau, eu crewyr a'u cynulleidfaoedd.
Pynciau tebygol:
- Palestrina ac oes aur polyffoni
- Y madrigal
- Dyfeisio opera
- Y concerto
- Merched, Cerddoriaeth a'r Baróc
- Bach
- Opera fel hanes diwylliannol
- Oratorio
- Y pedwarawd llinynnol a’r symffoni
- Schubert a'r Lied
- Fanny a Felix Mendelssohn
- Rhagoriaeth: Paganini, Liszt and Chopin
- Verdi
Assessment Strategy
Trydydd dosbarth: D- i D+ (40%-49%) Y cyflawniad hollbwysig yw arddangos gafael sylfaenol ar hanfod y pwnc, a'r math o ddeunydd dan sylw. Fodd bynnag, bydd y marc yn cael ei gyfyngu i'r lefel hon gan bethau fel: ailadrodd gwybodaeth heb ddangos dealltwriaeth go iawn; dryswch dadl sy'n dangos methiant i ddeall y deunydd yn iawn; methu gwahaniaethu'r perthnasol oddi wrth yr amherthnasol; methu gafael mewn syniadau; cynnwys gwallau ffeithiol; sgiliau llyfryddiaethol neu droednodi difrifol ddiffygiol; mynegiant gwael; tawedogrwydd llafar; cyflwyniad bratiog.
Ail Ddosbarth Is: C- i C+ (50%-59%) Y briodwedd sy'n cyfiawnhau marciau yn y categori hwn yw’r gallu i gywain corff cymedrol o ddeunydd perthnasol a gasglwyd o ystod tra eang o destunau neu ffynonellau gwybodaeth eraill, wedi'i ddidoli mewn trefn resymegol a'i fynegi'n ddeallus. Elfennau sy'n cyfyngu'r marc i'r lefel hon yw: dadleuon afresymegol, neu ddadl sy'n ddiffygiol mewn rhyw ffordd; llyfryddiaeth neu droednodiadau cyfyngedig neu ddiffygiol; dealltwriaeth gyfyngedig o syniadau neu ddadlau; tystiolaeth gyfyngedig o wybodaeth a dealltwriaeth eang o'r pwnc; ymwneud cyfyngedig â thrafod ac ail-negodi syniadau ar lafar; tystiolaeth gyfyngedig o feddwl o ddifrif, yn hytrach na dyfalbarhad syml.
Ail Ddosbarth Uwch: B- i B+ (60%-69%) Y briodwedd nodedig yw'r gallu i lunio dadl â ffocws sydd â thystiolaeth briodol. Mae'n debyg y bydd y gwaith felly'n dangos y gallu i ddeall trafod gwaith celf ac i gymhwyso'r wybodaeth honno i wahanol weithiau; cyfleu gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol o'r pwnc yn ei gyfanrwydd, ac o wybodaeth a dealltwriaeth fanylach o feysydd penodol; sgiliau llyfryddiaethol a throednodi cymwys; cyfathrebu effeithiol o syniadau a dadlau; cyfraniad meddylgar at drafodaeth lafar; y gallu i weld problemau a gwrthddywediadau wrth ddarllen ffynhonnell; sgiliau wrth arsylwi a dadansoddi. Gall gwaith Ail Ddosbarth Uwch gynnwys llawer o'r un rhinweddau a’r rhai mewn gwaith Dosbarth Cyntaf, ond byddant yn cael eu dangos ar lefel llai annibynnol, neu gall y gwaith fod yn rhagorol mewn un nodwedd Dosbarth Cyntaf ond yn sylweddol ddiffygiol mewn un arall.
Dosbarth Cyntaf: A- ac A (70%-83%) Y briodwedd wahaniaethol yw’r gallu i arddangos tystiolaeth o feddwl deallusol ac annibynnol go iawn mewn trafodaeth barhaus. Mae'n debyg y bydd gwaith ar y lefel hon yn dangos menter wrth ymchwilio y tu hwnt i'r ffynonellau amlwg; y gallu i werthuso ffynonellau’n feirniadol; trafodaeth barhaus a rhesymegol; mynegiant rhugl wrth siarad ac ysgrifennu; y gallu i ddod â deunydd o ffynonellau anghydweddol at ei gilydd; sgiliau o radd uchel wrth arsylwi a dadansoddi; y gallu i ddefnyddio gwybodaeth i oleuo testunau cerddorol; arwyddion o wybodaeth eang y tu hwnt i gyfyngiadau cul y pwnc dan sylw; y gallu i arwain trafodaeth lafar; y gallu i adnabod ac wynebu problemau yn y pwnc, gwrthddywediadau mewn testunau, neu lacunae yn y dystiolaeth sydd ar gael.
Dosbarth Cyntaf: A+ i A** (84%-100%) Mae'r gwaith ar y lefel hon yn hynod wreiddiol ac o safon sy'n cyrraedd neu'n agosáu at safonau proffesiynol. Bydd y gwaith yn arddangos holl nodweddion categori A-/A (70%-83%) mewn modd cyson, a bydd o'r fath ansawdd fel ei fod yn fwy neu lai’n barod i’w gyhoeddi neu’i ddarlledu fel ag y mae, neu fel ei fod â'r potensial i'w gyhoeddi neu ei ddarlledu gyda diwygiadau yn y cyflwyniad.
Learning Outcomes
- Adnabod a gwerthuso agweddau ar repertoire penodol.
- Arddangos gwybodaeth o weithiau penodol, arddulliau, genres, a nodweddion cerddorol mewn repertoire a gyfansoddwyd rhwng 1550 a 1850.
- Arddangos gwybodaeth o'r amgylchiadau hanesyddol a diwylliannol sy'n berthnasol i gyfansoddi a pherfformio cerddoriaeth rhwng 1550 a 1850.
- Arddangos y gallu i ymchwilio i bynciau hanes cerddoriaeth yn annibynnol.
- Cyfathrebu syniadau yn effeithiol.
- Dadansoddi cerddoriaeth o sgorau a / neu berfformiadau, fel sy'n briodol.
Assessment method
Group Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Dadl 1. Rhaid i fyfyrwyr gymryd rhan mewn dadl ar bwnc penodol. Cyflwynir hyn yn ystod un o'r dosbarthiadau seminar (wythnos 7 fel arfer).
Weighting
10%
Due date
07/03/2024
Assessment method
Group Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Dadl 2. Disgwylir i fyfyrwyr gymryd rhan mewn dadl ar destun penodol. Cynhelir y ddadl mewn un o'r dosbarthiadau seminar.
Weighting
10%
Due date
09/05/2024
Assessment method
Class Test
Assessment type
Crynodol
Description
Byddwch yn cael cyfres o gwestiynau (10 amlddewis fel arfer, o werth cyfartal) yn ymwneud â gwahanol agweddau ar y pynciau a drafodir yn ystod wythnosau 1–5 y modiwl. Maent wedi'u cynllunio i brofi eich dealltwriaeth o'r cysyniadau allweddol a addysgir i'r pwynt hwnnw yn y modiwl. Bydd y prawf yn cael ei gwblhau ar-lein, ar Blackboard. Nid oes terfyn amser, ond ni ddylai cymryd mwy na 30 munud. Dyddiad cyflwyno: erbyn 4pm ddydd Iau wythnos 6.
Weighting
10%
Due date
29/02/2024
Assessment method
Class Test
Assessment type
Crynodol
Description
Byddwch yn derbyn cyfres o gwestiynau (10 amlddewis fel arfer, o werth cyfartal) yn ymwneud â gwahanol agweddau ar y pynciau a drafodir yn ystod wythnosau 7-12 y modiwl. Maent wedi'u cynllunio i brofi eich dealltwriaeth o'r cysyniadau allweddol a addysgir hgyd at y pwynt hwnnw yn y modiwl. Bydd y prawf yn cael ei gwblhau ar-lein, ar Blackboard. Nid oes terfyn amser, ond ni ddylid cymryd mwy na 30 munud. Dyddiad cyflwyno: yn ystod cyfnod asesu semester 2.
Weighting
10%
Due date
09/05/2024
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Prif aseiniad Traethawd o 2300 o eiriau ar bwnc yn ymwneud â'r gerddoriaeth a astudiwyd. Darperir pynciau ar ddechrau'r semester. Mae disgwyl i'r traethawd gael ei gyflwyno ddydd Llun Wythnos 13, ddechrau cyfnod asesu semester 2.
Weighting
60%
Due date
06/05/2024