Modiwl WXC-2177:
Ast. Ensemble II
Astudiaeth Ensemble II 2024-25
WXC-2177
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Iwan Llewelyn Jones
Overview
Yn Astudiaethau Ensemble II, bydd y myfyrwyr yn ehangu ar y sgiliau perfformio y buont yn eu dysgu yn Astudiaethau Ensemble I. Bydd y myfyrwyr yn ystyried cwestiynau ehangach sy’n ymwneud â pherfformio ensemble gan gynnwys dewis repertoire, strategaethau ymarfer effeithiol, ac arferion perfformio hanesyddol sy'n berthnasol i'r repertoire o’u dewis. Mae’r asesu’n ystyried cyfraniad unigol pob perfformiwr yn y grŵp, yn ogystal â pherfformiad yr ensemble ar y cyd, gan gynnwys sut mae pob aelod o’r grŵp yn mynd i’r afael â heriau cydweithio a chyfathrebu trwy astudio adfyfyriol.
Trwy gyfrwng gweithdai perfformio strwythuredig a thywysedig, mae’r myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau bach ac yn cael awgrymiadau ar gyfer perfformio darn neu fyrfyfyrio. Caiff y gerddoriaeth a greir ei pherfformio o flaen y dosbarth cyfan, a rhoddir adborth ar lafar. Mae’r gweithdai’n cynnwys trafodaethau ynglŷn â chysyniadau perfformio ensemble, a fydd yn arwain at brofiad ymarferol ac arbrofi: caiff dulliau amrywiol o berfformio grŵp a byrfyfyrio eu hesbonio a’u dangos. Darperir ymarferion ychwanegol o dan oruchwyliaeth gyda thiwtor dynodedig. Mae'r tiwtor yn monitro’r cynnydd ac yn helpu gydag adborth, awgrymiadau ac anogaeth. Gall y myfyrwyr gymhwyso'r adborth at eu hymarfer beunyddiol mewn ymarferion grŵp heb oruchwyliaeth ac astudio personol.
Assessment Strategy
Trothwy: D– i D+: Perfformiadau sy'n dangos cerddoriaeth a thechneg ddigonol, a chyfraniad digonol i aelodau eraill o'r ensemble a rhyngweithio â nhw. Da: C– i B+: Perfformiadau perswadiol, sy'n dangos lefelau da o allu mewn cerddoroldeb a thechneg, gyda chyfraniad effeithiol a rhyngweithio effeithiol ag aelodau eraill yr ensemble. Ardderchog: A- i A**: Perfformiadau sy'n gymhellol ac yn argyhoeddiadol, yn arddangos lefelau uchel o allu cerddorol a thechnegol, ac sy'n dangos cyfraniad cryf iawn (ond heb fod yn ormesol) i aelodau eraill o'r ensemble a rhyngweithio â nhw.
Learning Outcomes
- Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu:
Adfyfyrio ar eu profiadau hwythau o berfformio ensemble trwy sgiliau llafar ac ysgrifenedig effeithiol.
- Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu:
Arbrofi gyda gwahanol ddeunyddiau, arddulliau a genres cerddorol.
- Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu:
Dangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.
- Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu:
Datblygu gwybodaeth briodol o arferion gorau perfformiadau ensemble, addasu cydsymudiad, tempi, tonyddiaeth, ac yn y blaen, mewn synergedd ag aelodau eraill yr ensemble.
- Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu: Paratoi a pherfformio datganiad cymysg o repertoire ensemble i safon briodol.
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Summative
Description
Recordiad o sampl o ymarfer grŵp heb oruchwyliaeth tua 15 munud o hyd, yn ogystal a log adfyfyriol (40%). Profi Deilliannau Dysgu 1, 2, 4 a 5. Caiff y myfyrwyr eu hasesu’n unigol ar gyfer y ddwy elfen.
Weighting
40%
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Summative
Description
Datganiad terfynol (cyfanswm o 60%, a'i rannu fel a ganlyn: 30% perfformiad grŵp; 30% cyfraniad unigol) - perfformiad sy’n para 20 munud. Profi'r holl Ddeilliannau Dysgu.
Weighting
60%