Modiwl WXC-3001:
Ystafell Awduron (Sgriptio Tel
Ystafell Awduron (Sgriptio Teledu) 2024-25
WXC-3001
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Dafydd Palfrey
Overview
Modiwl sgriptio sgrin yw 'Ystafell yr Awdur' lle cewch gyfle i gydweithio dros gyfnod o amser, gan ddatblygu syniad ar gyfer cyfres deledu arfaethedig.
Yn y diwydiant teledu, gofod yw ‘ystafell awduron’ lle mae awduron yn ymgynnull yn rheolaidd i ysgrifennu a mireinio sgriptiau. Ar y modiwl hwn cewch gyfle i archwilio sut mae'r prosesau hyn yn gweithio'n ymarferol, beth mae'n ei olygu i weithio fel tîm o ran ysgrifennu ar gyfer y sgrin a sut mae'r diwydiant yn datblygu'r strwythurau hyn wrth baratoi ar gyfer cynhyrchu ffilm.
Archwilio dulliau o ysgrifennu ar gyfer y sgrin a'u cymhwyso’n ymarferol. Gwerthuso lluniadau naratif ar draws gwahanol genres ac archwilio egwyddorion a thechnegau sylfaenol ysgrifennu ar gyfer y sgrin.
Archwilio’r broses gydweithredol o ddatblygu 'beibl' ar gyfer cyfres deledu arfaethedig.
Cymryd rhan yn rheolaidd yn ystafell yr awduron yn y gwaith o roi a derbyn adborth adeiladol ar ailddrafftio sgriptiau i sicrhau ymarfer adfyfyriol trwy gydol y tymor.
Assessment Strategy
Trothwy (D-, D, D+): •Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion yn unig •Gwendidau yn y ddealltwriaeth o’r prif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Perfformiad neu ymateb ysgrifenedig yn canolbwyntio’n wael ar y cwestiwn a chyda pheth deunydd amherthnasol a strwythur gwael •Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi •Dim dehongli gwreiddiol •Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir •Sgiliau grŵp gwan •Llawer o wendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
Da / Boddhaol (C- i C +) •Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion •Yn deall y prif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Yr ymateb ysgrifenedig neu berfformiad yn canolbwyntio ar aseiniad ond hefyd gyda rhywfaint o ddeunydd amherthnasol a gwendidau yn y strwythur •Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi ar y cyfan •Dim dehongli gwreiddiol •Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir •Datrys problemau cyfyngedig/gwaith tîm boddhaol •Rhai gwendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
Da iawn B- i B+ •Gwybodaeth gynhwysfawr •Dealltwriaeth fanwl •Astudio cefndirol: •Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt ac wedi’i strwythuro’n dda •Rhan fwyaf o’r dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol •Ychydig neu ddim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi •Rhywfaint o ddehongliad gwreiddiol •Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau •Sgiliau grŵp cryf •Cyflwyniad da iawn gyda chyfathrebu cywir
Rhagorol (A- hyd A*): •Gwybodaeth gynhwysfawr •Dealltwriaeth fanwl •Astudio cefndirol helaeth •Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt clir ac wedi’i strwythuro’n dda •Dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol •Dim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi •Dehongliad gwreiddiol •Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau •Sgiliau grŵp cryf •Cyflwyniad ardderchog gyda chyfathrebu manwl gywir
Learning Outcomes
- Cymhwyso hunan-asesiad beirniadol a mireinio mewn sgiliau ysgrifennu sgrin i adolygu a gwella drafftiau sgript.
- Dehongli a chymhwyso dulliau a thechnegau ysgrifennu sgrin sy’n briodol i weithio o fewn ystafell awduron cyfres deledu.
- Dehongli safonau ac arferion diwydiant wrth strwythuro ac amlinellu naratifau teledu yn y broses gydweithredol o ddatblygu 'beibl' cynhwysfawr ar gyfer cyfres deledu arfaethedig.
- Gwerthuso llunio naratif ar draws genres amrywiol, gan ddefnyddio sgiliau dadansoddol i ddehongli'r egwyddorion a'r technegau sylfaenol sy'n hanfodol ar gyfer adrodd straeon yn effeithiol wrth ysgrifennu sgrin deledu.
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Wrth ddatblygu 'beibl' y gyfres deledu arfaethedig ar gyfer yr asesiad terfynol ar ddiwedd y tymor, bydd dilyniant o dasgau’n cael eu gosod trwy gydol hanner cyntaf y tymor i sicrhau bod technegau a phrosesau allweddol yn cael eu sefydlu. Bydd y portffolio’n cynnwys sawl darn gofynnol o gynnwys, er enghraifft 'amlinelliad', 'crynodeb', 'bywgraffiadau cymeriadau'.
Weighting
40%
Due date
21/03/2025
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Summative
Description
Ar ddiwedd y tymor, bydd 'Beibl' ar gyfer cyfres deledu arfaethedig yn cael ei gyflwyno fel dosbarth, lle bydd pawb wedi cyfrannu at y corff cyfan o waith. Bydd hwn yn cynnwys corff helaeth o ysgrifennu gyda phawb yn cyfrannu darn ar ei gyfer o ysgrifennu ar gyfer y sgrin.
Weighting
60%
Due date
12/05/2025