Modiwl XAC-1033:
Tyfu
Tyfu 2024-25
XAC-1033
2024-25
School Of Educational Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Clive Underwood
Overview
Mae'r modiwl hwn yn archwilio profiad plant o dyfu i fyny yn y byd cyfoes. Mae'n nodi'r cerrig milltir yn natblygiad cynnar plentyn ac yn amlygu effaith amgylchedd y plentyn. Mae materion allweddol fel y teulu, iechyd a chyfeillgarwch yn cael eu harchwilio yng nghyd-destun pryderon cyfoes am blentyndod. Mae'r modiwl hefyd yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr arsylwi datblygiad plant ifanc mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar priodol, gyda ffocws ar eu datblygiad gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol ac i drafod y rhyngweithio rhwng datblygiad a phrofiadau'r plentyn. Mae pwyslais ar: • pwysigrwydd yr amgylchedd dysgu i'w dealltwriaeth a'u datblygiad; • rôl perthnasoedd ym myd y plentyn; • y ffordd y mae plant yn dod i ddeall yr hyn sy'n iawn ac yn anghywir; • sut y caiff yr 'hunan' ei siapio a'i ddeall; • ystyried pwysigrwydd iechyd, lles a hapusrwydd; • rôl y teulu ym myd plant; • effaith materion fel tlodi, gordewdra a 'natur arallrwydd' • arsylwi ar ryngweithio plant ifanc ac ymchwilio i ddylanwad oedolion a chyfoedion ar ddatblygiad seico-gymdeithasol plant ifanc trwy astudiaethau achos a thrwy archwiliadau ymarferol ac arsylwadau mewn lleoliad perthnasol.
Mae'n orfodol i gael gwirio DBS er mwyn dilyn y modiwl hwn.
Assessment Strategy
-threshold -D-, D, D+: Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad boddhaol o’r prif camau datblygiad mewn bywyd cynnar unigolyn a’r rhyngweithio rhwng unigolyn a’i amgylchedd.
-good -C-, C, C+: Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad da o’r prif camau datblygiad mewn bywyd cynnar unigolyn a’r rhyngweithio rhwng unigolyn a’i amgylchedd.
-excellent -A-, A, A+, A, A*: Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad cynhwysfawr o’r prif camau datblygiad mewn bywyd cynnar unigolyn a’r rhyngweithio rhwng unigolyn a’i amgylchedd, a’r gallu i drafod y maes yn dreiddgar a dadansoddol.
Learning Outcomes
- Dangos dealltwriaeth o ddylanwad a phwysigrwydd yr amgylchedd a chymdeithas ar ddatblygiad personol, emosiynol, cymdeithasol a gwybyddol plentyn, ei les a'i hapusrwydd.
- Dangos dealltwriaeth o esboniadau theoretig ar ddatblygiad seicolegol cynnar plentyn;
- Nodi a dehongli tystiolaeth o brofiad a dealltwriaeth plant ifanc mewn lleoliad gofal plant.
- Nodi ffyrdd y mae plant yn rhyngweithio â'r byd o'u cwmpas i greu plentyndod cyfoes.
- Nodi'r prif faterion a all effeithio ar ddatblygiad a phrofiadau plentyn.
Assessment type
Summative
Weighting
25%
Assessment type
Summative
Weighting
75%