Modiwl XAC-2034:
Datblygu Ymarfer Effeithiol
Datblygu Ymarfer Effeithiol 2024-25
XAC-2034
2024-25
School Of Educational Sciences
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Rhian Tomos
Overview
Bydd y modiwl yn cynnwys: • Dadansoddiad o faterion yn ymwneud â datblygu partneriaethau proffesiynol, ar sail fframwaith gwaith cymdeithasol o ddadansoddi gwybodaeth, gwerthoedd a sgiliau, ac astudiaeth o swyddogaethau a chyfrifoldebau pobl allweddol sy’n darparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Yn ystod y semester cyntaf: • Bydd ystod o weithwyr proffesiynol o nifer o asiantaethau yn annerch y myfyrwyr ynglyn a datblygu partneriaethau llwyddiannus gyda phlant a phobl ifanc a’u teuluoedd. Yn ystod semester dau • Bydd myfyrwyr yn gwneud cyfnod o brofiad gwaith mewn lleoliad priodol. Gallai hyn fod ar ffurf diwrnod yr wythnos, hanner diwrnod yr wythnos neu gyfres o weithgareddau sy’n para am gyfnodau amrywiol. Bydd angen tystiolaeth o bresenoldeb.
Assessment Strategy
-threshold (D) -Gwybodaeth a dealltwriaeth boddhaol o bartneriaethau ac arferion gwaith effeithiol yng nghyd-destun sefydliadau sy’n darparu ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd, a’r gallu i adfyfyrio a gwerthuso eich cyfraniad yn ystod y lleoliad gwaith. -good -(B) Gwybodaeth a dealltwriaeth da o bartneriaethau ac arferion gwaith effeithiol yng nghyd-destun sefydliadau sy’n darparu ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd, a’r gallu i adfyfyrio’n feirniadol a gwerthuso eich cyfraniad yn ystod y lleoliad gwaith. -excellent -(A) Gwybodaeth cynhwysfawr a dealltwriaeth ardderchog o bartneriaethau ac arferion gwaith effeithiol yng nghyd-destun sefydliadau sy’n darparu ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd, a’r gallu i adfyfyrio’n feirniadol a gwerthuso mewn dyfnder eich cyfraniad yn ystod y lleoliad gwaith.
Learning Outcomes
- Adnabod, mewn dyfnder, swyddogaethau a chyfrifoldebau amrywiaeth o bobl allweddol, sy'n darparu gwasanaethau i blant, teuluoedd a systemau ar gyfer datblygu partneriaethau ag eraill;
- Dadansoddi’n feirniadol y wybodaeth, y gwerthoedd a’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu arferion gweithio a phartneriaethau gyda rhieni a gofalwyr, cydweithwyr a phlant a phobl ifanc;
- Dangos dealltwriaeth beirniadol o’u swyddogaeth o fewn y sefydliad a dealltwriaeth o berthnasedd y profiad o ran datblygu ffocws gyrfa.
- Dangos dealltwriaeth feirniadol ddyfnach o faterion yn ymwneud â darparu gwasanaethau o ansawdd i bobl ifanc trwy brofiad ar leoliad;
- Deall y cysyniad o gyflogadwyedd a sut mae modd gwella cyflogadwyedd unigolyn
Assessment type
Summative
Weighting
25%
Assessment type
Summative
Weighting
25%
Assessment type
Summative
Weighting
50%