Modiwl XAC-3038:
Plant ag Anawsterau Cyfathrebu
Plant ag Anawsterau Cyfathrebu 2024-25
XAC-3038
2024-25
School of Education
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Rhian Tomos
Overview
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygiad dealltwriaeth beirniadol myfyrwyr o anawsterau cyfathrebu a chymdeithasu, a dadansoddi effaith y cyflyrau hyn ar sgiliau rhyngweithio cymdeithasol, a datblygiad emosiynol a chymdeithasol plant a phobl ifanc trwy roi sylw i’r canlynol:
- Beth yw cyfathrebu a datblygiad cymdeithasol a chyfathrebu arferol?
- Gwahanol fathau o anawsterau cyfathrebu a chymdeithasu.
- Diffygion sgiliau gan blant gydag anhwylderau cymdeithasu a chyfathrebu.
- Rhaglenni a strategaethau ymyrraeth i gefnogi plant a phobl ifanc gydag anhwylderau cymdeithasu a chyfathrebu.
- Effaith anhwylderau cymdeithasol a chyfathrebu ar deuluoedd.
Assessment Strategy
-trothwy -(D) Dylai bod myfyrwyr yn gallu cyflwyno trafodaeth boddhaol o anhwylder cyfathrebu cymdeithasol a dadansoddi’n gritigol yr ymchwil diweddaraf sy’n gysylltiedig ag ymyrraeth sy’n addas ar gyfer anhwylderau cyfathrebu cymdeithasol. Byddem yn gallu defnyddio eu dealltwriaeth sylfaenol i ddangos sut mae anhwylderau cyfathrebu cymdeithasol yn effeithio plant a theuluoedd a’r goblygiadau byr- a hir-dymor o’r anawsterau ar ddatblygiad plant a phobl ifanc.
-da -(B) Dylai bod myfyrwyr yn gallu cyflwyno trafodaeth dda iawn o anhwylder cyfathrebu cymdeithasol a dadansoddi’n gritigol yr ymchwil diweddaraf sy’n gysylltiedig ag ymyrraeth sy’n addas ar gyfer anhwylderau cyfathrebu cymdeithasol. Byddem yn gallu defnyddio eu dealltwriaeth i ddangos sut mae anhwylderau cyfathrebu cymdeithasol yn effeithio plant a theuluoedd a’r goblygiadau byr- a hir-dymor o’r anawsterau ar ddatblygiad plant a phobl ifanc.
-arbennig -(A) Dylai bod myfyrwyr yn gallu cyflwyno trafodaeth ardderchog o anhwylder cyfathrebu cymdeithasol a dadansoddi’n gritigol yr ymchwil diweddaraf sy’n gysylltiedig ag ymyrraeth sy’n addas ar gyfer anhwylderau cyfathrebu cymdeithasol. Byddem yn gallu defnyddio eu dealltwriaeth drylwyr i ddangos sut mae anhwylderau cyfathrebu cymdeithasol yn effeithio plant a theuluoedd a’r goblygiadau byr- a hir-dymor o’r anawsterau ar ddatblygiad plant a phobl ifanc.
Learning Outcomes
- Dadansoddi y dulliau o adnabod, ymateb a chefnogi anghenion plant a phobl ifanc gydag anawsterau cymdeithasol a chyfathrebu.
- Dangos dealltwriaeth feirniadol o effaith anawsterau cyfathrebu a chymdeithasu ar ymddygiad cymdeithasol ag emosiynol plant a phobl ifanc, a goblygiadau hyn ar eu datblygiad o fewn teulu a’r gymdeithas.
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o anawsterau cymdeithasol a chyfathrebu a’u goblygiadau ar blant a phobl ifanc a’u teuluoedd.
- Gwerthuso, trafod a adfyfyrio’n feirniadol ar eu profiadau dysgu bersonol a’u perthnasu i’w barn a’u syniadau am blant a phobl ifanc gydag anawsterau cyfathrebu a chymdeithasu a’u heffeithiau ar eu datblygiad emosiynol a chymdeithasol.
- Gwerthuso’n feirniadol yr ymchwil am ymyrraethau ar gyfer anawsterau cyfathrebu a chymdeithasu.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Dadansoddiad beirniadol o ymyrraeth sy'n addas i'r anhwylder cyfathrebu cymdeithasol a ddewiswyd i A1
Weighting
50%
Due date
15/05/2025
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd ar achoseg a diagnosis anhwylder cyfathrebu cymdeithasol dewisol
Weighting
50%
Due date
12/03/2025