Modiwl XCC-3060:
Cymraeg mewn Blwyddyn I
Cymraeg Mewn Blwyddyn: Cymraeg i Ymarferwyr Addysg yn y sector cynradd cyfrwng Saesneg (Rhan 1) 2024-25
XCC-3060
2024-25
School of Education
Module - Semester 1
40 credits
Module Organiser:
Llion Jones
Overview
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno’r Gymraeg o’r newydd gan ganolbwyntio ar gyflwyno patrymau, geirfa a thermau sylfaenol a fydd yn galluogi’r ymarferwyr i’w defnyddio wrth gynllunio a chyflwyno gwersi thematig a thrawsgwricwlaidd ac wrth baratoi adnoddau addysgu. Gwneir hyn drwy ddatblygu sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu’r ymarferwyr.
Bydd y modiwl yn rhoi cyfle i’r ymarferwyr gymhwyso’r wybodaeth er mwyn defnyddio’r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn fwy hyderus mewn amrywiaeth o gyd-destunau proffesiynol perthnasol.
Bydd y modiwl yn cyflwyno dulliau a methodolegau addysgu’r iaith Gymraeg ac yn rhoi cyfle i’r ymarferwyr roi’r dulliau hyn ar waith drwy gyflwyno'r gwersi micro.
Defnyddir amrywiaeth o ddysgu ffurfiol, gweithdai ymarferol, ymwelwyr â’r dosbarth, ymweliadau allanol ynghyd ag astudiaeth annibynnol dan arweiniad er mwyn cyflwyno gofynion addysgu’r iaith Gymraeg o’r newydd i ymarferwyr addysg.
Bydd ymarferwyr yn cael cyfleoedd i ymarfer eu sgiliau ysgrifennu, gwrando a chyflwyno ar lafar. Defnyddir ystod o adnoddau iaith ac addysgol i hybu dealltwriaeth a chymhwyso sgiliau yr ymarferwyr.
Yn ogystal defnyddir astudiaethau achos, cyflwyniadau ac ymweliadau er mwyn datblygu dealltwriaeth o’r technegau sy’n nodweddu arfer da a’u cymhwyso.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy (D- i D+ / 40 – 49%)Sesiwn Micro Ddysgu - Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb iaith ar lafar yn ogystal ag ynganu clir a Chymreig ar brydiau ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl. - Defnyddio iaith y dosbarth e.e. gorchmynion a chyfarwyddiadau ar lefel syml. - Cyflwyno’n weddol glir ac effeithiol a rhyngweithio gyda’r dysgwyr gan ofyn ac ateb cwestiynau elfennol a chynnig adborth syml. - Dangos ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol ar lafar ond heb eu defnyddio’n gywir yn gyson yn y gwaith. - Wedi paratoi’r adnoddau gyda llawer o gymorth ac arweiniad gan y tiwtor. - Hunanwerthuso llafar ar ffurf atebion elfennol i gwestiynau’r tiwtor. - Cyflwyno gwers sy’n dangos dealltwriaeth elfennol o fethodolegau dysgu iaith ac yn eu defnyddio ar adegau ond nid yn gyson.Portffolio - Adnoddau dysgu a hunanwerthuso’r sesiynau Micro Ddysgu - Adnoddau eithaf pwrpasol yn dangos gallu i atgynhyrchu patrymau cyfarwydd y cwrs ond gan or-ddibynnu arnynt fel arfer. - Gwaith yn dangos dealltwriaeth elfennol o fethodolegau dysgu iaith a’r gallu i’w defnyddio, eu haddasu a’u datblygu wrth baratoi adnoddau ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl. - Ymwybyddiaeth elfennol o bwysigrwydd cyfarwyddiadau cywir, clir a syml ar yr adnoddau ond heb wneud hynny’n gyson drwy’r gwaith. - Ymwybyddiaeth elfennol o dermau a geirfa bwrpasol ond heb eu defnyddio’n gywir yn gyson yn y gwaith. - Gwaith yn dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth elfennol o’r patrymau iaith sydd eu hagen ar y gynulleidfa darged ond heb eu defnyddio’n gywir yn gyson yn y gwaith. - Ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol. - Hunanwerthuso’r sesiynau Micro Ddysgu mewn ffordd sy’n dangos gafael sylfaenol ar batrymau a chywair addas ond heb fod yn ymestynnol mewn unrhyw ffordd.
-good -Da (B - i B+ / 60 – 69)3 Sesiwn Micro Ddysgu - Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth dda o gywirdeb iaith ar lafar yn ogystal ag ynganu clir a Chymreig gan fwyaf. - Defnyddio iaith y dosbarth e.e. gorchmynion a chyfarwyddiadau yn glir ac yn gywir yn y rhan fwyaf o achosion. - Cyflwyno’n glir ac effeithiol a rhyngweithio gyda’r dysgwyr yn eithaf rhugl gan ofyn ac ateb cwestiynau’n gywir a chynnig adborth ymestynnol gan amlaf. - Dangos ymwybyddiaeth dda o eirfa bwrpasol ar lafar ac yn ysgrifenedig a’i defnyddio’n gywir yn y rhan fwyaf o achosion. - Gwaith ysgrifennu wedi’i baratoi’n annibynnol heb lawer o gymorth nac arweiniad gan y tiwtor ac yn adlewyrchu ymwybyddiaeth dda o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol. - Hunanwerthuso llafar hyderus ac annibynnol gan ymateb yn ymestynnol i'r rhan fwyaf o sbardunau gan y tiwtor. - Cyflwyno gwers sy’n dangos dealltwriaeth dda o fethodolegau dysgu iaith a’r gallu i’w defnyddio’n llwyddiannus, ac yn eu haddasu a’u datblygu’n gyson ar y cyfan.Portffolio – Adnoddau dysgu a hunanwerthuso’r sesiynau Micro Ddysgu - Adnoddau pwrpasol yn dangos gwreiddioldeb yn gyffredinol gan gymhwyso, addasu ac ychwanegu at y patrymau iaith a gyflwynir ar y cwrs. - Gwaith yn dangos dealltwriaeth dda o fethodolegau dysgu iaith a’r gallu i’w defnyddio, eu haddasu a’u datblygu’n bur gyson a thrwyadl wrth baratoi adnoddau. - Ymwybyddiaeth dda o bwysigrwydd cyfarwyddiadau cywir, clir a syml ar yr adnoddau. - Ymwybyddiaeth dda o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir gan amlaf. - Gwaith yn dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gadarn o’r patrymau iaith sydd eu hangen ar y gynulleidfa darged gan eu defnyddio’n gywir ac yn gyson yn y rhan fwyaf o’r gwaith. - Ymwybyddiaeth dda o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol. - Hunanwerthuso’r sesiynau Micro Ddysgu mewn ffordd sy’n dangos gafael dda ar batrymau a chywair addas.
-excellent -Ardderchog (A- i A / 70% +) 1. 3 Sesiwn Micro Ddysgu - Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gadarn o gywirdeb iaith ar lafar yn ogystal ag ynganu clir a Chymreig yn gyson. - Defnyddio iaith y dosbarth e.e. gorchmynion a chyfarwyddiadau’n glir ac yn gywir. - Cyflwyno’n glir ac effeithiol a rhyngweithio gyda’r dysgwyr yn bur rhugl gan ofyn ac ateb cwestiynau’n gywir a chynnig adborth ymestynnol yn gyson. - Dangos ymwybyddiaeth gadarn o eirfa bwrpasol ar lafar ac yn ysgrifenedig a’i defnyddio’n gywir yn gyson. - Gwaith ysgrifennu wedi’i baratoi’n annibynnol heb fawr ddim cymorth nac arweiniad gan y tiwtor ac yn adlewyrchu ymwybyddiaeth gadarn o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol. - Hunanwerthuso llafar hyderus ac annibynnol gan ymateb i’r rhan fwyaf o’r sbardunau gan y tiwtor yn ymestynnol. - Cyflwyno gwers sy’n dangos dealltwriaeth gadarn ac effeithiol o fethodolegau dysgu iaith a’r gallu i’w defnyddio’n llwyddiannus, ac yn eu haddasu a’u datblygu’n gyson a thrwyadl.2. Portffolio – Adnoddau dysgu a hunanwerthuso’r sesiynau Micro Ddysgu* - Adnoddau pwrpasol yn dangos gwreiddioldeb cyson gan gymhwyso, addasu ac ychwanegu at y patrymau iaith a gyflwynir ar y cwrs. - Gwaith yn dangos dealltwriaeth gref o fethodolegau dysgu iaith a’r gallu i’w defnyddio, eu haddasu a’u datblygu’n gyson a thrwyadl wrth baratoi adnoddau. - Ymwybyddiaeth gadarn o bwysigrwydd cyfarwyddiadau cywir, clir a syml ar yr adnoddau. - Ymwybyddiaeth gref o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir yn gyson a thrwyadl. - Gwaith yn dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gref o’r patrymau iaith sydd eu hagen ar y gynulleidfa darged gan eu defnyddio’n gywir a chyson yn y gwaith. - Ymwybyddiaeth gadarn o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol. - Hunanwerthuso’r sesiynau Micro Ddysgu mewn ffordd sy’n dangos gafael gadarn ar batrymau a chywair addas.
-another level-(C - i C+ / 50 – 59%)3 Sesiwn Micro Ddysgu - Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o gywirdeb iaith ar lafar yn ogystal ag ynganu clir a Chymreig yn bur gyson. - Defnyddio iaith y dosbarth e.e. gorchmynion a chyfarwyddiadau yn bwrpasol ac ar lefel sylfaenol gywir. - Cyflwyno’n glir ac effeithiol ar y cyfan a rhyngweithio gyda’r dysgwyr gan ofyn ac ateb cwestiynau a chynnig adborth yn bwrpasol a chywir gan amlaf. - Dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o dermau a geirfa addas ar lafar ac yn ysgrifenedig a’u defnyddio’n gywir yn eithaf cyson. - Gwaith ysgrifennu wedi’i baratoi’n weddol annibynnol ond gydag ychydig o arweiniad gan y tiwtor ac yn adlewyrchu ymwybyddiaeth sylfaenol o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol. - Hunanwerthuso llafar ar ffurf atebion sylfaenol i gwestiynau’r tiwtor. - Cyflwyno gwers sy’n dangos dealltwriaeth sylfaenol o fethodolegau dysgu iaith ac yn eu defnyddio ar brydiau ond nid yn gyson a thrwyadl.Portffolio - Adnoddau dysgu a hunanwerthuso’r sesiynau Micro Ddysgu - Adnoddau pwrpasol yn dangos defnydd o batrymau cyfarwydd y cwrs â rhai patrymau gwreiddiol a’u cyfuno at ddibenion y dasg. - Gwaith yn dangos dealltwriaeth sylfaenol o fethodolegau dysgu iaith a’r gallu i’w defnyddio, eu haddasu a’u datblygu’n weddol gyson wrth baratoi adnoddau. - Ymwybyddiaeth sylfaenol o bwysigrwydd cyfarwyddiadau cywir, clir a syml ar yr adnoddau gan amlaf. - Ymwybyddiaeth sylfaenol o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir yn y rhan fwyaf o’r gwaith. - Gwaith yn dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth sylfaenol o’r patrymau iaith sydd eu hagen ar y gynulleidfa darged gan eu defnyddio’n gywir gan amlaf. - Ymwybyddiaeth sylfaenol o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol. - Hunanwerthuso’r sesiynau Micro Ddysgu mewn ffordd sy’n dangos gafael sylfaenol ar batrymau a chywair addas.
Learning Outcomes
- Datblygu deunyddiau ac adnoddau addysgu gwahaniaethol ar gyfer cyfnodau allweddol y sector cynradd gan ddefnyddio patrymau addas a geirfa berthnasol.
- Deall rhai o brif reolau a phatrymau gramadegol y Gymraeg a’u cymhwyso ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Defnyddio methodolegau addysgu’r iaith Gymraeg yn eu gwersi thematig a thrawsgwricwlaidd ac wrth baratoi adnoddau er mwyn datblygu iaith disgyblion.
- Gwerthuso eu sesiynau addysgu a’u hadnoddau addysgu.
- Mynegi eu hunain ar lafar yn hyderus gan ddefnyddio patrymau addas wrth gyflwyno gwersi trawsgwricwlaidd a thematig ar gyfer y sector cynradd cyfrwng Saesneg.
- Mynegi eu hunain yn ysgrifenedig gan ddefnyddio patrymau addas a geirfa sy’n berthnasol i’w cyd-destun a’u sefyllfaoedd proffesiynol.
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Cyfweliad Llafar Cyfweliad llafar gyda’r tiwtoriaid ar Teams
Weighting
10%
Due date
09/12/2024
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Gweithgaredd Llafar Creu gweithgaredd llafar a chyfarwyddiadau ar un o’r themâu canlynol: diddordebau; bwyd; pynciau yn yr ysgol
Weighting
5%
Due date
25/09/2024
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Hunanwerthusiad Adroddiad hunanwerthuso ysgrifenedig
Weighting
10%
Due date
13/12/2024
Assessment method
Blog/Journal/Review
Assessment type
Summative
Description
Adnoddau Dysgu Pecyn o adnoddau dysgu ar y thema teithio neu siopa
Weighting
15%
Due date
29/11/2024
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Micro Ddysgu 2 Gwers Mathemateg / Rhifedd i’w chyflwyno yn y dosbarth
Weighting
35%
Due date
15/11/2024
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Micro Ddysgu 1 Gwers iaith i’w chyflwyno yn y dosbarth ar un o’r themâu canlynol: diddordebau; bwyd; pynciau yn yr ysgol
Weighting
25%
Due date
04/10/2024