Modiwl CXC-3008:
Ymarfer Ysgrifennu
Ymarfer Ysgrifennu Pellach 2022-23
CXC-3008
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Elis Dafydd
Overview
Modiwl ar gyfer myfyrwyr ail iaith yn unig a bydd ar gael os bernir bod angen blwyddyn ychwanegol o sylw manwl i iaith a mynegiant ysgrifenedig.
Mae pwyslais cwbl ymarferol i'r modiwl hwn sef ymarfer Cymraeg ysgrifenedig ac addasu ei chyweiriau at wahanol gyd-destunau. Bob wythnos gosodir tasg fer (300 gair, ar gyfartaledd) o wahanol natur, e.e. blog, adolygiad, trafodaeth neu gyfieithiad, a chanolbwyntir yn y dosbarth ar y math o gamgymeriadau a gwendidau sy'n nodweddu'r gwaith a ddaw i law. Bydd hyn yn arwain at drafodaethau ymarferol ar sut i ddefnyddio'r Gymraeg. Y bwriad yw sicrhau hyfforddiant trwyadl mewn iaith a mynegiant.
Gellir cofrestru i ddilyn y modiwl hwn wyneb yn wyneb a/neu ar-lein, e.e. drwy Microsoft Teams neu Blackboard Collaborate.
Assessment Strategy
-threshold -D- i D+Dangos gallu i ysgrifennu Cymraeg gweddol glir a chywir.Dangos gallu i amrywio ar gywair ac arddull yn ôl gofynion y dasg.Dangos dealltwriaeth weddol o reolau a phrosesau gramadeg.
-good -B- i B+Dangos gallu i ysgrifennu Cymraeg clir a chywir iawn at ei gilydd.Dangos gallu da i amrywio cywair ac arddull yn ôl gofynion y dasg.Dangos dealltwriaeth dda o reolau a phrosesau gramadeg.
-excellent -A- i A*Dangos gallu o radd uchel i ysgrifennu Cymraeg clir a chywir.Dangos gallu o radd uchel i amrywio cywair ac arddull yn ôl gofynion y dasg.Dangos dealltwriaeth drwyadl o reolau a phrosesau gramadeg.
-another level-C- i C+Dangos gallu i ysgrifennu Cymraeg rhesymol glir a chywir.Dangos gallu i amrywio peth ar gywair ac arddull yn ôl gofynion y dasg.Dangos dealltwriaeth resymol o reolau a phrosesau gramadeg.
Learning Outcomes
- Cyfrannu at drafodaeth ieithyddol yn y dosbarth ac arwain trafodaeth pan fo angen.
- Deall y rhesymau gramadegol dros y cywiriadau a wneir a'u hesbonio.
- Drwy ymarfer ysgrifennu Cymraeg yn rheolaidd, dysgu sgiliau hunanfeirniadol, e.e. golygu a phrawfddarllen gwaith.
- Drwy ymarfer ysgrifennu Cymraeg yn rheolaidd, ennill hyder wrth ei defnyddio'n ymarferol.
- Ymarfer mewn gwahanol gyweiriau ieithyddol a chyd-destunau i safon uchel.
- Ymgynefino â chyflwyno tasgau cryno ac amrywiol a heriol yn rheolaidd.
- Ysgrifennu Cymraeg rhugl a graenus i safon uchel.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Tasgau wythnosol, 250 gair yr wythnos
Weighting
100%