Modiwl CXD-1016:
Sgriptio Teledu
Sgriptio Teledu 2024-25
CXD-1016
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Manon Williams
Overview
Yn y modiwl hwn dysgir myfyrwyr sut i lunio sgript tuag 24 munud o hyd ar gyfer pennod o gyfres deledu. Bydd chwe cam i’r gweithgaredd hwn. Yn gyntaf, trafodir gofynion cyfres deledu fel cyfrwng dramatig; yn ail, gofynnir i’r myfyrwyr gyflwyno dadansoddiad manwl o natur y cymeriadau, yn drydydd, gofynnir iddynt lunio cast ar gyfer eu cyfres; yn bedwerydd gofynnir iddynt lunio braslun o blotiau’r gyfres ac yna grynodeb o gynnwys y bennod a ddeialogir; yn bumed, eir ymlaen i rannu’r bennod yn olygfeydd trwy lunio bwrdd storïo. Y cam olaf yw llunio’r ddeialog a cheir cyfarwyddyd manwl ar sut i wneud hynny. Dysgir hefyd sut i gyflwyno sgript orffenedig sy’n dilyn y confensiynau arferedig.
Assessment Strategy
Trothwy: (D) Dylai'r sgript orffenedig ddangos gallu i ddewis thema sy'n gweddu i'r cyfrwng a ddewiswyd ynghyd â gallu i lunio plot. Dylai'r cymeriadau ddangos peth dyfnder seicolegol. Dylai'r ddeialog redeg yn llyfn a naturiol. Dylai diwyg y sgript ddilyn y confensiynau arferedig.
Da: (B) Dylai'r sgript orffenedig ddangos gallu i ddewis thema gyffrous sy'n gweddu i'r cyfrwng a ddewiswyd ynghyd â gallu i strwythuro plotiau cadarn. Dylai'r cymeriadau ddangos dyfnder seicolegol. Dylai'r ddeialog redeg yn llyfn a naturiol ond dylai hefyd ddangos peth ymwybyddiaeth o bwysigrwydd is-destun mewn rhai sefyllfaoedd dramatig. Dylai diwyg y sgript ddilyn y confensiynau arferedig.
Rhagorol: (A) Dylai'r sgript orffenedig ddangos gallu i ddewis thema wreiddiol a chyffrous a honno'n gweddu i'r cyfrwng a ddewiswyd ynghyd â gallu anghyffredin i lunio plot cadarn a gafaelgar. Dylai'r cymeriadau ddangos gwir ddyfnder a chymhlethdod seicolegol. Dylai'r ddeialog redeg yn llyfn a naturiol a hefyd ddangos ymwybyddiaeth o bwysigrwydd is- destun mewn sefyllfaoedd dramatig. Dylai'r gwaith yn ei gyfanrwydd ddangos elfen o arbrofi o safbwynt adeiladedd y plot a natur y ddeialog. Dylai diwyg y sgript ddilyn y confensiynau arferedig.
Learning Outcomes
- Cyfansoddi deialog addas ar gyfer teledu.
- Cyflwyno sgript orffenedig sy'n dilyn confensiynau arferedig cyfrwng dramatig arbennig.
- Dewis thema a fyddai'n addas ar gyfer drama deledu.
- Hunanwerthuso eu gwaith gan edrych yn feirniadol a gwrthrychol ar eu sgriptiau gorffenedig.
- Llunio plot cymen ei adeiladedd o safbwynt rhediad dramatig a chreu cymeriadau ac iddynt ddyfnder seicolegol.
- Trafod yn fanwl nodweddion y ddrama gyfres.
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd 2000 o eiriau yn trafod yr anawsterau a wynebwyd wrth lunio’r sgript a’r modd yr aethpwyd ati i’w goresgyn: 30%.
Weighting
30%
Due date
19/05/2025
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Sgript orffenedig tua 24 munud o hyd ar gyfer cyfres deledu. Dylid hefyd gyflwyno’r holl waith ysgrifenedig cefndirol (monolog cymeriad, disgrifiad o natur y cymeriadau; crynodeb o’r cast, amlinelliad o’r plotiau; crynodeb o’r bennod; bwrdd storïo) gyda’r sgript: 70%.
Weighting
70%
Due date
01/05/2025