Modiwl DXC-3600:
Daearyddiaeth Bwyd
Daearyddiaeth Bwyd a Diod 2024-25
DXC-3600
2024-25
School of Environmental & Natural Sciences
Module - Semester 1
10 credits
Module Organiser:
Eifiona Thomas Lane
Overview
Bydd y modwl yn cyfuno dysgu trwy ddarlithoedd, seminarau a gwaith maes a fydd yn ymdrin â'r themâu canlynol:
Corfforaethau traws gwladol, diogelwch bwyd, priddoedd a thir. Effeithiau amgylcheddol a chymunedol bwyd byd-eang (De Byd-eang) e.e. Cliriadau a Phlanhigfeydd. Systemau bwyd traddodiadol ac amgen. Cyfundrefnau Bwyd, pecynnu a gwastraff. Ffermio, yr amgylchedd a chynhyrchu bwyd. Economïau bwyd wedi'u hail-leoli (Gogledd Byd-eang) a bwydydd sy'n seiliedig ar leoedd. Herion a gorwelion newydd mewn bwyd byd-eang cynaliadwy.

Assessment Strategy
Trothwy -Graddau D- i C+: Dim bylchau neu wallau mawr wrth ddefnyddio gwybodaeth / sgiliau. Rhywfaint o afael ar elfennau ymarferol cysyniadol damcaniaethol. Integreiddio theori/ymarfer/gwybodaeth yn bresennol yn ysbeidiol er mwyn cyflawni amcanion y gwaith a aseswyd.
Da-Graddau B- i B+: Llawer neu'r rhan fwyaf o'r wybodaeth a'r sgiliau perthnasol wedi'u defnyddio'n gywir. Gafael da/digonol ar elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarferol. Integreiddio theori/ymarfer/gwybodaeth da/teg wrth fynd ar drywydd amcanion y gwaith a aseswyd. Tystiolaeth o ddefnyddio sgiliau creadigol a myfyriol.
Gwych- Graddau A- ac uwch: Perfformiad rhagorol, eithriadol o alluog. Defnyddio'r wybodaeth berthnasol yn gywir. Gafael ardderchog ar elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarfer. Integreiddiad da iawn o theori/ymarfer/gwybodaeth wrth fynd ar drywydd amcanion y gwaith a aseswyd. Tystiolaeth gref o'r defnydd o sgiliau creadigol a dewisol
Learning Outcomes
- Arddangos sgiliau rhagorol wrth gyfathrebu datblygiadau newydd o fewn ac ar draws ystod eang o ddaearyddiaethau bwyd a diod.
- Coladu a syntheseiddio gwybodaeth a dadleuon yn effeithiol o amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth ac o ddysgu yn y maes.
- Dangos dealltwriaeth feirniadol o faterion allweddol mewn Daearyddiaethau Bwyd o safbwynt academaidd ac ymarferwyr.
- Dangos dealltwriaeth gysyniadol ac ymarferol o ystod eang o arloesiadau bwyd a'r gallu i gymhwyso'r wybodaeth hon mewn lleoliad rheoli adnoddau ymarferol a chynaliadwy.
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Arholiad
Weighting
50%
Assessment method
Report
Assessment type
Crynodol
Description
Adroddiad gwaith maes
Weighting
50%
Due date
25/11/2024