Modiwl ICC-1301:
Egwyddorion Trydan ac Electron
Egwyddorion Trydanol ac Electronig 2024-25
ICC-1301
2024-25
School Of Computer Science And Electronic Engineering
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Daniel Roberts
Overview
Crynodeb o'r cynnwys:
• Cyflwyniad i Gylchedau Goddefol ac Actif; Gwrthiant a Dargludiant; Deddf Ohm; Ffynonellau Foltedd a Cherrynt (Delfrydol ac Ymarferol); Ffynonellau Annibynnol a Dibynnol; Confensiwn arwydd goddefol; Deddfau Kirchhoff; Foltedd a Rhanwyr Cerrynt. Cyflwyniad i Gylchedau Cerrynt Eiledol (A.C.): Tonffurfiau Sinwsoidaidd; Cysyniad Ffasorau ac Ongl Wedd.
• Foltedd a Cherrynt mewn Cylchedau Gwrtheddol A.C., Tonffurf Pŵer, gwerthoedd RMS; Foltedd a Cherrynt mewn Cylchedau Anwythol, Adweithedd Anwythol; Cyflwyniad i j-Nodiant; Foltedd a Cherrynt mewn Cylchedau Cynhwysaidd, Adweithedd Cynhwysaidd; Cysyniadau Rhwystriant a Mynediant; Dadansoddiad o Gylchedau Gwrtheddol ac Adweithiol Cyfres a Pharalel. Pŵer mewn Cylchedau A.C.
• Amledd cyseiniant, Q-ffactor a lled band ar gyfer cylchedau cyseiniant cyfres a pharalel.
• Defnyddio Dull Cerrynt Dolen/Rhwyll, Dull Nod-Foltedd ac Arosodiad i ddadansoddi cylchedau trydan. Defnyddio Theoremau Thévenin a Norton i gael cylchedau cywerth.
• Egni electronau, lefelau egni a bandiau egni electronau.
• Cyflymder drifft, symudedd a dargludedd. Bandiau egni a dargludedd trydanol mewn metelau a silicon cynhenid. Lled-ddargludyddion amhuredd. Dibyniaeth dargludedd ar dymheredd.
Assessment Strategy
-threshold -Cyfateb i 40%. Defnyddio meysydd theori neu wybodaeth allweddol i fodloni deilliannau dysgu'r modiwl. Gallu llunio ateb priodol i ddatrys tasgau a chwestiynau'n gywir. Gallu nodi agweddau unigol, ond ddim yn ymwybodol o'r cysylltiadau rhyngddynt a'r cyd-destunau ehangach. Gallu deall canlyniadau, ond mae diffyg strwythur a/neu gydlyniant.
-good -Cyfateb i'r ystod 60% -69%. Gallu dadansoddi tasg neu broblem i benderfynu pa agweddau ar theori a gwybodaeth i'w defnyddio. Mae'r atebion o ansawdd ymarferol, yn dangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol. Gallu cysylltu prif themâu yn briodol ond efallai ddim yn gallu ymestyn hyn i agweddau unigol. Mae canlyniadau'n hawdd eu deall, gyda strwythur priodol ond efallai heb soffistigeiddrwydd.
-excellent -Cyfateb i'r ystod 70%+. Casglu ynghyd feysydd gwybodaeth a theori perthnasol a werthuswyd yn feirniadol i lunio atebion ar lefel broffesiynol i dasgau a chwestiynau a gyflwynir. Gallu croes-gysylltu themâu ac agweddau i ddod i gasgliadau ystyriol. Cyflwyno canlyniadau mewn modd cydlynol, cywir ac effeithlon.
Learning Outcomes
- Cymhwyso technegau dadansoddi ffurfiol i gylchedau trydan.
- Dadansoddi cylchedau AC syml sy'n cynnwys cynwysyddion, anwythyddion a gwrthyddion (C, L, R) a nodi cylchedau cyseiniol.
- Egluro'r ffiseg ddamcaniaethol sy'n sail i briodweddau electronig deunyddiau.
- Nodi a disgrifio cylchedau a theori DC syml.
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Arholiad dibaratoad diwedd semester
Weighting
40%
Due date
02/06/2023
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Prawf Dosbarth
Weighting
10%
Due date
20/01/2023
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Cyfres o ymarferion labordy. Mae'r asesiad labordy ar gyfer y modiwl hwn yn elfen greiddiol, a rhaid cael marc o 40% er mwyn pasio'r modiwl.
Weighting
50%
Due date
05/05/2023