Modiwl SCS-1004:
Cymdeithaseg a'r Byd Cyfoes
Cymdeithaseg a'r Byd Cyfoes 2024-25
SCS-1004
2024-25
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Rhian Hodges
Overview
Ceir cyflwyniad i'r prif theorïau cymdeithasegol, gan ganolbwyntio ar bersbectifau'r swyddogaethwyr a'r ddamcaniaeth gwrthdaro. Edrychir ar waith Emile Durkheim a Karl Marx a'u gwaith arloesol mewn ffurfio theorïau cymdeithasegol cynnar gan gynnig heriau a datrysiadau i'w theoriau gan ddamcaniaethwyr cyfoes a chyfredol. Yna edrychir ar sefydliadau cymdeithasol yn y gymdeithas gyfoes, gan gymhwyso'r theorïau a'r persbectifau at ddadansoddi sefydliadau fel y teulu, addysg, y farchnad lafur a dosbarth cymdeithasol.
Cyflwynir prif theorïau a phersbectifau cymdeithasegol o fewn y modiwl hwn, Cymdeithaseg a'r Byd Cyfoes. Trafodir y prif gysyniadau cymdeithasegol megis diffinio pwpas cymdeithaseg, hunaniaeth unigol a chasgliadol, cymdeithasoli, normau a gwerthoedd cymdeithasol a nifer o gysyniadau yn gysylltiedig â phynciau’r teulu, addysg, dosbarth cymdeithasol, y farchnad lafur ac anghydraddoldeb. Cyflwynir y prif ddamcaniaethwyr cynnar megis Durkheim, Weber a Marx ynghyd â damcaniaethwyr a meddylwyr mwy cyfoes sy’n herio safbwyntiau damcaniaethwyr cynnar y maes. Ceir astudiaeth o’r prif sefydliadau cymdeithasol, yn eu plith y teulu, addysg, dosbarth cymdeithasol a’r farchnad lafur, gan gynnwys archwilio’r ffactorau sy’n effeithio tlodi ,allgau cymdeithasol ac anghydraddoldebau cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt.
O fewn y modiwl hwn, byddwn yn ceisio ateb y cwestiynau canlynol sy’n amlygu rhai safleoedd o wrthdaro a thensiwn o fewn y gymdeithas ac sy’n ein helpu ni i ddeall pam nad oes gan bawb yn y gymdeithas gyfle cyfartal i lwyddo: Pa ffactorau sy’n effeithio llwyddiant unigolion o fewn y system addysg?
Sut mae’r Marcswyr yn ymdrin â dosbarth cymdeithasol?
Beth yw safbwyntiau’r Ffeministiaid ar anghyfartaledd rhywedd yn ygweithle?
Pa unigolion neu grwpiau yn y gymdeithas sydd fwy tebygol o ddioddef tlodi ac allgau cymdeithasol?
Yn ôl y Swyddogaethwyr, beth yw rôl y teulu yn y gymdeithas?
Assessment Strategy
Meini Prawf Asesu
Trothwy: D- i D+ Arddangos ymwybyddiaeth sylfaenol a chyffredinol o theorïau aphersbectifau cymdeithasegol megis Marcsiaeth, Ffwythiannaeth aFfeministiaeth. Arddangos ymwybyddiaeth sylfaenol o rôl sefydliadaucymdeithasol megis y teulu, dosbarth ac addysg yn y gymdeithas gyfoes gangyfeirio’n achlysurol at yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru. Bydd y myfyriwr ynamlinellu dealltwriaeth sylfaenol o’r persbectifau a’r sefydliadau ond ni fyddai’n manylu nac yn ehangu ar y drafodaeth mewn manylder. Bydd ymyfyrwyr yn cyflwyno gwaith ysgrifenedig gyda chyfeiriadaeth a llyfryddiaethsylfaenol yn unig.
Da: C- i B+ Arddangos dealltwriaeth dda a lled fanwl o theorïau a phersbectifaucymdeithasegol megis Marcsiaeth, Ffwythiannaeth a Ffeministiaeth. Dangosdealltwriaeth dda a lled fanwl o rôl sefydliadau cymdeithasol yn y gymdeithasgyfoes yng Nghymru gan dynnu ar enghreifftiau addas, a beirniadol mewnmannau i gefnogi atebion. Bydd yn cyfeirio’n gywir at gysyniadau megismeritocratiaeth, ymwybyddiaeth ddosbarth, cymdeithasoli, normau agwerthoedd cymdeithasol a chysyniadau creiddiol eraill. Cyflwynir y gwaithysgrifenedig gyda chyfeiriadaeth a llyfryddiaeth briodol a chywir.
Rhagorol: A- i A+ Bydd y myfyriwr medru ymdrin yn feirniadol â theorïau a phersbectifaucymdeithasegol y maes hwn megis Marcsiaeth, Ffwythiannaeth aFfeministiaeth mewn modd soffistigedig ac academaidd aeddfed ei naws. Bydd y myfyriwr yn arddangos dealltwriaeth gwmpasog o ystod o brifddamcaniaethau’r maes gan arddangos ymchwil annibynnol a’r ymgais iehangu ac ymestyn y drafodaeth. Bydd y myfyriwr medru dadansoddi,dehongli, gwerthuso ac egluro yn feirniadol rôl sefydliadau cymdeithasol yn ygymdeithas gyfoes megis y teulu, addysg a dosbarth cymdeithasol. Bydd ymyfyriwr yn rhoi ar waith cysyniadau creiddiol i’r persbectifau allweddol megismeritocratiaeth, ymwybyddiaeth ddosbarth, cymdeithasoli, normau agwerthoedd cymdeithasol gan bwyso a mesur eu gwerth i’r gymdeithasgyfredol . Bydd y myfyriwr yn defnyddio gwybodaeth o ffynonellau amrywiolac yn cyrchu gwybodaeth newydd er mwyn trafod y meysydd mewn dyfnder.
Learning Outcomes
- Dangos dealltwriaeth o wreiddiau theori gymdeithasegol
- Dangos dealltwriaeth o'r prif gysyniadau cymdeithasegol
- Deall rolau'r prif sefydliadau cymdeithasol mewn modd beirniadol er mwyn dadansoddi newidiadau i'r gymdeithas gyfoes
- Gallu defnyddio cysyniadau priodol i ddadansoddi agweddau ar gymdeithas gyfoes
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Aseiniad 2,000 o eiriau
Weighting
50%
Due date
19/12/2024
Assessment method
Class Test
Assessment type
Summative
Description
Prawf Dosbarth 1
Weighting
25%
Due date
18/11/2022
Assessment method
Class Test
Assessment type
Summative
Description
Prawf Dosbarth 2
Weighting
25%
Due date
26/11/2024