Modiwl SCS-2007:
Theori Gymdeithasegol
Theori Gymdeithasegol 2024-25
SCS-2007
2024-25
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Cynog Prys
Overview
Bydd y modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o wreiddiau theori gymdeithasegol glasurol, gan gychwyn gydag ystyriaeth o syniadau meddylwyr yr Aroleuad a sut maent yn parhau'n ddylanwadol hyd heddiw. Ystyrir yn arbennig gyfraniad Emile Durkheim, Karl Marx a Max Weber at ddatblygiad theori gymdeithasegol. Ystyrir eu cyfraniad at ein dealltwriaeth o dwf cyfalafiaeth, theori gwrthdaro, biwrocratiaeth, ffwythiannaeth, a rheolaeth gymdeithasol. Yna edrychir ar gorff o waith sy'n feirniadol o theori glasurol, sef theori ffeministiaeth. Gwelir sut mae syniadaeth yn y maes hwn wedi datblygu'n hanesyddol hyd at y sefyllfa gyfoes. Mae theori ffeministiaeth yn cynnwys ystod eang o safbwyntiau gwleidyddol ac athronyddol, o ffeministiaeth ryddfrydol sy'n canolbwyntio ar greu newid yn amodau byw'r ferch unigol, hyd at y ffeminstiaid radical sydd am weld y sefyllfa gymdeithasol bresennol yn cael ei gwyrdroi'n llwyr. Maes astudiaeth ffeministiaid Marcsaidd-sosialaidd yw cyfalafiaeth a phatriarchaeth, ac ystyrir beirniadaeth y ffeministiaid hyn ar theori gymdeithasegol glasurol.
Assessment Strategy
D+ i D -Trothwy Er mwyn llwyddo yn y modiwl hwn, bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflawni'r deilliannau ar y lefel sylfaenol h.y. bydd gofyn iddynt ddangos ymwybyddiaeth o brif weithiau theori glasurol a ffeministiaeth a'r prif gysyniadau perthnasol, bod yn ymwybodol o'r dylanwadau a fu ar eu syniadau.
C - i B+ Da Bydd myfyrwyr da yn gallu dangos dealltwriaeth a barn aeddfed, yn gallu weld y cyswllt rhwng theoriau ac ymarfer cymdeithasol, ac yn gallu cyfeirio at weithiau ac enghreifftiau perthnasol.
A* - A - Rhagorol Bydd myfyrwyr rhagorol yn gallu defnyddio'r wybodaeth yn ddansoddol a beirniadol, ac yn gallu cymhwyso'r theoriau at sefyllfaeoedd cymdeithasol penodol.
Learning Outcomes
- Deall cryfderau a gwendidau gwahanol fodelau a theoriau.
- Defnyddio cysyniadau cymdeithasegol i ddadansoddi cymdeithas gyfoes
- Deall ac egluro gwreiddiau modelau a thraddodiadau cymdeithaseg.
- Gallu cymhwyso theoriau at wahanol sefyllfaeoedd cymdeithasol.
- angos cynnydd mewn dealltwriaeth o dystiolaeth gymdeithasegol.
Assessment type
Summative
Weighting
50%
Assessment type
Summative
Weighting
50%