Modiwl VPC-3404:
Iddewiaeth yn y Byd Modern
Iddewiaeth yn y Byd Modern 2024-25
VPC-3404
2024-25
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Gareth Evans-Jones
Overview
Ymysg y pynciau a drafodr yn y modiwl, bydd: • Dechreuadau Iddewiaeth. • Trosolwg o’r Tanakh (Y Beibl Hebraeg) ac elfennau canolog y grefydd Iddewig, gan gynnwys y cyfamod a'r mitzvot. • Iddewiaeth fyd-eang. • Meddylwyr Iddewig dylanwadol: Moses Maimonides a Moses Mendelssohn. • Ymarfer Iddewiaeth gyfoes. • O Dra-Uniongred i Ryddfrydol: yr enwadau amrywiol o fewn Iddewiaeth fodern. • Materion cyfoes: gwrth-semitiaeth ac Israel-Palesteina.
Ymysg y pynciau a drafodr yn y modiwl, bydd: • Dechreuadau Iddewiaeth. • Trosolwg o’r Tanakh (Y Beibl Hebraeg) ac elfennau canolog y grefydd Iddewig, gan gynnwys y cyfamod a'r mitzvot. • Iddewiaeth fyd-eang. • Meddylwyr Iddewig dylanwadol: Moses Maimonides a Moses Mendelssohn. • Ymarfer Iddewiaeth gyfoes. • O Dra-Uniongred i Ryddfrydol: yr enwadau amrywiol o fewn Iddewiaeth fodern. • Materion cyfoes: gwrth-semitiaeth ac Israel-Palesteina.
Assessment Strategy
Trothwy D- i D+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn ddigonol ac sydd yn dangos lefel dderbyniol o allu yn y meysydd canlynol: •Yn gywir ar y cyfan ond yn cynnwys diffyg gwybodaeth neu gamgymeriadau. •Gwneir honiadau heb wybodaeth gefnogol neu resymeg eglur. •Yn cynnwys strwythur ond yn aneglur ac felly’n dibynnu ar i’r darllenydd ddwyn cysylltiadau a thybiaethau. •Yn dibynnu ar nifer gyfyngedig o ddeunydd.
Da C- i C+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys, ar brydiau, arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol yn ddeheuig. Mae’n dangos: •Strwythur dda a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. •Mewn mannau, defnydd beirniadol o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. •Gwneir honiadau sydd, ar y cyfan, wedi eu cefnogi gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. •Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
Da iawn B- i B+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol mewn modd deheuig. Mae’n dangos: •Strwythur dda iawn a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. •Defnydd o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. •Cefnogir honiadau gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. •Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
Ardderchog A- i A*
Cyflwynwyd gwaith sydd o ansawdd ragorol ac sy’n ardderchog mewn un neu fwy o’r canlynol: •Cynnwys dehongliad gwreiddiol lle mae myfyrdod annibynnol y myfyriwr yn amlwg. •Darparu tystiolaeth eglur o astudiaeth annibynnol eang a phriodol. •Cyflwyno dadleuon yn eglur ac yn darparu’r darllenydd gyda thrafodaethau sy’n dilyn ei gilydd yn rhesymegol hyd at y casgliadau.
Learning Outcomes
- Cyflwyno gwybodaeth am bwnc perthnasol i Iddewiaeth ar lafar mewn modd eglur, cydlynol a diddorol.
- • Cymhwyso syniadau a mewnwelediad athronyddol, themâu a dadleuon gan wahanol ysgolion Iddewig pan yn briodol i gyd-destunau cymdeithasol a disgyblaethol ehangach, gan gynnwys y gwyddorau meddygol a biolegol.
- • Dangos dealltwriaeth am draddodiadaul athronyddol ac ysbrydol Iddewig yn eu ffurfiau amrywiol a chanolog, a gallu i ymwneud yn ddeallusol â’r traddodiadau hynny.
- • Dangos dealltwriaeth gadarn a soffistigedig o gymhlethdod amlweddog Iddewiaeth, er enghraifft, ym mherthynas credoau crefyddol, testunau, arferion a sefydliadau, â normau, estheteg, a strwythurau cymdeithasol a diwylliannol ehangach.
- • Trafod a dangos dealltwriaeth o ffynonellau clasurol Iddewiaeth a’r modd y’u mynegwyd yn ddiweddarach gan ddehonglwyr y gwahanol draddodiadau.
Assessment type
Formative
Description
Bydd aseiniad geirfa termau allweddol yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr gynnig diffiniadau cynhwysfawr ar gyfer detholiad o dermau allweddol i Iddewiaeth.
Weighting
30%
Assessment type
Formative
Description
Bydd modd i fyfyrwyr baratoi a thraddodi cyflwyniad llafar 15 munud am bwnc yn ymwneud ag Iddewiaeth yn y byd modern. Rhoddir dewis o 5 testun / cwestiwn posibl.
Weighting
30%
Assessment method
Essay
Assessment type
Formative
Description
Bydd modd i fyfyrwyr lunio traethawd 2,500 o eiriau yn ymateb i un o blith 5 cwestiwn / testun a osodir.
Weighting
40%