Cynllun Datblygiad Personol i Ymchwilwyr Ôl radd
Mae Cynllunio Datblygiad Personol yn broses strwythuredig y mae unigolion yn ei chyflawni gyda chefnogaeth eraill i ystyried y ffordd maent yn dysgu, eu perfformiad a'u cyflawniadau ac i gynllunio ar gyfer eu datblygiad personol, addysgol neu yrfa.
Prif bwrpas Cynllun Datblygiad Personol (CDP) yw eich helpu i wneud y canlynol:
-
Datblygu mewn amrywiaeth ehangach o ffyrdd ac ystod ehangach o gyd-destunau.
-
Gallu rhestru tystiolaeth yn ymwneud â'r hyn rydych yn ei ddysgu ac felly weld y cynnydd rydych yn ei wneud.
-
Defnyddio eich gwybodaeth bersonol helaethach i gyflawni amcanion neilltuol.
- Adolygu, cynllunio a chymryd cyfrifoldeb dros eich datblygiad eich hun.
Drwy weithio drwy'r CDP hwn, dylech fedru:
-
Gweld beth yw eich anghenion hyfforddi/dysgu
-
Gweithio allan sut i roi sylw i'r anghenion hynny
- lunio cofnod wedi'i seilio ar dystiolaeth i ddangos y sgiliau a'r cymwyseddau sydd gennych i ddarpar gyflogwyr.
Dogfennau i'w llwytho i lawr