A allai ynysoedd Orkney arwain y ffordd ar gynhyrchu trydan carbon isel?
Mae arbenigwyr ynni adnewyddadwy morol ym Mhrifysgol Bangor wedi cyhoeddi astudiaeth newydd sy'n edrych ar y posibilrwydd o gynhyrchu trydan carbon isel trwy dyrbinau llanw ar ynysoedd Orkney, yng ngogledd yr Alban.
Cynhaliwyd yr astudiaeth gan ymchwilwyr y grŵp ffiseg y môr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion, Prifysgol Bangor.
Meddai Dr Simon Neill, sy'n arwain yr astudiaeth:
"Oherwydd ein bod wedi gallu defnyddio adnoddau project Cyfrifiadura Perfformiad Uchel Cymru, rydym wedi gallu rhedeg modelau tri dimensiwn o'r môr yn y rhanbarthau o amgylch y byd ar gydraniad uchel iawn. Mae hyn yn ein galluogi i weld adnoddau ynni'r llanw yn llawer mwy manwl a dadansoddi'r modd y mae'n amrywio dros amser ac o le i le. Rydym hefyd yn gallu cynnwys hafaliaid mathemategol yn ein modelau sy'n efelychu'r broses o echdynnu ynni, ac unrhyw effeithiau y gallai echdynnu ynni ei gael ar yr amgylchedd".
Yr astudiaeth hon yw'r gyntaf o nifer o allbynnau sy'n gysylltiedig â phroject ynni adnewyddadwy SuperGen y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC). Yn y project hwn, mae consortiwm o ymchwilwyr ym mhrifysgolion Bangor, Caerdydd, Cranford, Lerpwl ac Abertawe yn astudio effaith amodau realistig yn y môr ar berfformiad tyrbinau ffrwd llanw.
Gallwch ddarllen yr erthygl lawn yn http://dx.doi.org/10.1016/j.renene.2014.01.052
Neill, S.P., Hashemi, M.R. and Lewis, M.J. (2014) The role of tidal asymmetry in characterizing the tidal energy resource of Orkney. Renewable Energy 68, 337-350.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2014