Astudiaeth newydd yn datgelu gwahaniaethau mawr yng nghyfraddau adfer coedwigoedd a chyfraddau datgoedwigo gwledydd yr Amason
Mae adfer coedwigoedd ar raddfa fawr yn yr Amason yn “ddatrysiad seiliedig ar natur” pwysig i newid yn yr hinsawdd, un o brif ganolbwyntiau Cynhadledd COP26 Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig a gynhelir yn y Deyrnas Unedig ym mis Tachwedd.
Gall adferiad coedwig, y broses o dyfu coedwigoedd newydd ar dir a oedd wedi ei datgoedwigo at ddiben amaethyddiaeth ond nad yw’n cael ei ffermio mwyach, ddal llawer iawn o'r nwy tŷ gwydr CO2 o'r awyrgylch yn gyflym.
Mae'n allweddol i lwyddiant polisïau newid hinsawdd byd-eang sy'n anelu at leihau crynodiadau nwyon tŷ gwydr yn yr awyrgylch, ac fel ffordd o gyflawni allyriadau “sero net”.
Ond mae astudiaeth newydd gan dîm rhyngwladol o ymchwilwyr o'r Deyrnas Unedig a Brasil wedi datgelu mai'r rhanbarthau sydd â'r potensial mwyaf i adfer coedwigoedd ar raddfa fawr - y rhai sydd wedi cael eu datgoedwigo yn fwyaf helaeth - sydd â'r lefelau adferiad isaf ar hyn o bryd.
Nid yw'r rhannau hyn o’r Amason yn dangos unrhyw arwydd o wella hyd yn oed 20 mlynedd ar ôl i'r goedwig gael ei chlirio.
Mae’r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Environmental Research Letters, yn dangos bod llai na 10% o allyriadau carbon o ddatgoedwigo yn yr Amason wedi ei wrthbwyso gan dwf coedwig newydd.
Mae gwahaniaeth mawr hefyd yn y gwrthbwyso carbon rhwng naw gwlad yr Amason. Brasil, sy'n cynnwys mwy na hanner coedwig yr Amason, sy'n gyfrifol am fwyafrif y datgoedwigo a'r allyriadau CO2 cysylltiedig. Bu mwy o ddatgoedwigo yn un o daleithiau Brasil (sef Pará) nag yn 8 gwlad arall yr Amason gyda'i gilydd.
Ac eto, mae Brasil hefyd ar ei hôl hi o ran adfer coedwigoedd, gyda dim ond 25% o dir a gafodd ei ddatgoedwigo yn flaenorol bellach yn cynnwys coedwig newydd a dim ond 9% o'r CO2 o ddatgoedwigo yn gwrthbwyso allyriadau.
Mae Ecuador, ar y llaw arall, yn arwain y ffordd gyda bron i 60% o'r tir sydd wedi ei ddatgoedwigo yn cael ei adfer. Yn Guyana, lle mae'r coedwigoedd newydd yn hŷn ac wedi cipio mwy o CO2, mae bron i chwarter yr allyriadau datgoedwigo wedi eu gwrthbwyso.
Meddai Charlotte Smith, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Caerhirfryn a phrif awdur yr astudiaeth: “Mae ymchwil yn yr Amason fel arfer yn canolbwyntio ar Frasil oherwydd ei fod yn cynnwys mwyafrif y goedwig. Ond mae wyth gwlad arall yn yr Amason. Gall deall y gwahaniaethau rhwng gwledydd o ran adferiad coedwigoedd ein cynorthwyo i ddeall pa bolisïau sy'n helpu i gynnal suddfan carbon y goedwig, a pha rai sydd ddim."
Ychwanegodd: “Mae data o loerennau yn hanfodol i fonitro datgoedwigo mewn ardaloedd mor fawr â’r Amason ac mae'n sail i fonitro llwyddiant gwledydd wrth gyflawni'r targedau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Yr astudiaeth newydd hon yw'r gymhariaeth gyntaf o golli ac adfer coedwigoedd rhwng gwledydd yn yr Amason. Gwnaethom ddefnyddio delweddau lloeren cydraniad uchel i fapio’r datgoedwigo, yr adferiad, a'r stociau carbon rhwng 1986 a 2017.”
Meddai John Healey, Athro Gwyddorau Coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor a chydawdur yr astudiaeth: “Mae canlyniadau’r astudiaeth yn tynnu sylw at dair her allweddol ar gyfer dyfodol coedwigoedd yr Amason, sef yr angen i (1) gymell adfer coedwigoedd ar raddfa fawr mewn rhanbarthau sydd wedi eu datgoedwigo’n helaeth, (2) diogelu coedwigoedd newydd heb anfantais i’r tirfeddianwyr bach sy’n dibynnu ar y tir i ffermio, ac (3) atal datgoedwigo pellach.”
Pwysleisiodd: “Mae cwrdd â’r holl heriau hyn yn llwyddiannus yn hanfodol er mwyn sicrhau bod yr Amason yn cyflawni ei botensial i liniaru newid yn yr hinsawdd.”
Wrth i ddata mwy cywir ddod ar gael, mae'r ymchwilwyr yn rhagweld y bydd hyn yn galluogi targedu ymyriadau yn well i ddiogelu ac adfer y coedwigoedd yr Amason sy'n weddill.
Awduron y papur yw Charlotte Smith (Prifysgol Lancaster, y Deyrnas Unedig), John Healey (Prifysgol Bangor, y Deyrnas Unedig), Erika Berenguer (Prifysgol Rhydychen, y Deyrnas Unedig), Paul Young (Prifysgol Lancaster, y Deyrnas Unedig), Ben Taylor (Prifysgol Lancaster, y Deyrnas Unedig), Fernando Elias (Embrapa Amazônia Oriental, Brasil), Fernando Del Bon Espírito-Santo (Prifysgol Caerlŷr, y Deyrnas Unedig), a Jos Barlow (Prifysgol Caerhirfryn, y Deyrnas Unedig).
Mae ymchwil Charlotte yn rhan o Envision Doctoral Training Partnership Cyngor Ymchwil i’r Amgylchedd Naturiol rhwng Prifysgol Caerhirfryn, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Nottingham a thri sefydliad ymchwil arall yn y Deyrnas Unedig.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Awst 2021