Athro Prifysgol Bangor yn enill ‘Fedal Blatinwm’ Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio
Mae'r IOM3 yn sefydliad gwyddoniaeth a pheiriannau yn y DU sydd yn hyrwyddo ac yn datblygu Cylch Deunyddiau, o archwilio ac echdynnu i nodweddu, prosesu a chymhwyso, i ailgylchu, ailgyflenwi ac ailddefnyddio cynnyrch.
Mae enillydd y Fedal Blatinwm IMO3 yn cael ei dewis gan Bwyllgor IOM3 sydd yn cydnabod cyfraniadau rhagorol i wyddoniaeth deunyddiau, technoleg a diwydiant.
Dywedodd yr Athro Lee sy'n bennaeth Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor ac enillydd y Fedal Blatinwm.
"Mae o’n anrhydedd mawr derbyn y wobr hon ac yn braf cael cydnabyddiaeth gan eich cyfoedion yn enwedig yng nghanol pandemig! Er na fi sydd yn derbyn y Wobr Blatinwm, mae rhaid cydnabod gwaith caled, ymdrech a thalent yr ymchwilwyr yn fy nhimau, yn ogystal â chydweithwyr academaidd, diwydiant a'r llywodraeth."
Mae'r Athro Lee hefyd wedi ennill Gwobr Distinguished Life Member gan yr American Ceramic Society yn ddiweddar. Y wobr hon yw'r anrhydedd uchaf a roddir i aelodau'r sefydliad gwyddonol a thechnegol ac mae'n cydnabod cyfraniad amlwg i'r proffesiwn gwyddorau ceramig a gwydr.
Yr American Ceramic Society yw'r prif sefydliad aelodaeth broffesiynol ar gyfer gwyddonwyr ceramig a deunyddiau, peirianwyr, ymchwilwyr, gweithgynhyrchwyr, personél mewn gweithfeydd, addysgwyr a myfyrwyr. Mae'r Gymdeithas yn gwasanaethu mwy na 10,000 o aelodau mewn dros 70 o wledydd.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2021