Ceisio datrys un o'r dirgelion mawr am y lleuad
Mae Dr Mattias Green o Brifysgol Bangor, ar y cyd ag ymchwilwyr o Royal Holloway, Prifysgol Llundain, wedi ennill grant ymchwil gwerth £520K gan yr UK Natural Environment Research Council (NERC) i fynd i'r afael â chwestiwn pwysig wrth ddeall hanes y lleuad.
50 mlynedd yn ôl, ar Orffennaf 20 1969, glaniodd cyrch gofod Apollo 11 ar wyneb y lleuad, gyda Neil Armstrong a Buzz Aldrin yn dod y bobl gyntaf i droedio'r lleuad.
Yn yr hyn a oedd yn un o lwyddiannau mwyaf gwareiddiad dynol, daethant â samplau o graig yn ôl a oedd yn dangos bod y lleuad yn 4.5 biliwn o flynyddoedd oed, ac felly mae'n rhaid iddi fod wedi ffurfio 200 miliwn o flynyddoedd yn unig ar ôl ffurfio'r Ddaear.
Hefyd, gadawodd y gofodwyr ddrychau ar wyneb y lleuad fel y gallai laserau fesur gwahaniad y Ddaear-lleuad yn fanwl gywir. Roedd y mesuriadau laser hyn yn amcangyfrif bod y lleuad yn symud i ffwrdd o'r Ddaear ar gyfradd o 3.8cm y flwyddyn. Fodd bynnag, ar y gyfradd hon dim ond 1.5 biliwn o flynyddoedd y gallai'r lleuad fod, fel arall, byddai wedi ei rwygo gan faes disgyrchiant y Ddaear.
Mae'r ddau arsylwad hyn yn arwain at baradocs amlwg: nid yw oed daearegol y lleuad a'r gyfradd y mae'r lleuad yn symud i ffwrdd o'r Ddaear yn gwneud synnwyr!
Mae Mattias Green o Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol yn credu bod ganddo'r ateb:
“Y rheswm pam mae'r lleuad yn symud i ffwrdd o'r Ddaear yw oherwydd y ffrithiant sy'n gysylltiedig â llif y llanw. Mewn gwirionedd mae'r llanwau yn gwasgaru egni, a'i effaith yw cynyddu hyd y dydd yn raddol (trwy arafu cyfradd gylchdroi'r Ddaear) a gwthio'r lleuad i ffwrdd o'r Ddaear.”
“Gan ddefnyddio efelychiadau ar uwch-gyfrifiaduron o'r radd flaenaf, rydym wedi dangos wrth i'r cyfandiroedd symud o gwmpas, mewn ymateb i ddrifft cyfandirol, bod y llanw byd-eang yn newid. O ganlyniad, rydym wedi gallu nodi “Uwch gylch llanw” 500 miliwn o flynyddoedd. Yn ogystal, dros y cylch hwn, mae lefel ffrithiant y llanw hefyd yn newid, gan awgrymu bod y gyfradd lle mae'r lleuad yn cael ei gwthio i ffwrdd o'r Ddaear wedi amrywio ac wedi bod yn llai am gyfnod hir o hanes y Ddaear.”
“Yn y project newydd byddwn yn cyfuno efelychiadau uwchgyfrifiadur newydd o lanw, dros y 600 miliwn o flynyddoedd diwethaf o hanes y Ddaear, gyda data o dyllau turio, a wnaed gan y diwydiant olew, i ddatblygu hanes newydd ar gyfer y gyfradd y mae'r lleuad yn symud i ffwrdd o'r Ddaear, ac felly'n datrys paradocs oed y lleuad a grëwyd 50 mlynedd yn ôl pan wnaethom lanio ar y lleuad gyntaf.”
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2019