Clefydau coed mewn coedwigoedd: mae atal yn well na gwella
Mae afiechydon newydd ar goed yn ymledu i goetiroedd ym Mhrydain ar raddfa gynyddol gan achosi mwy o ddifrod i gynhyrchu coed yn gynaliadwy a'r manteision niferus eraill a gawn o'n coedwigoedd. Mae hyn yn destun pryder arbennig o ystyried ymrwymiad y Llywodraeth i gynnydd'n gyflym faint y coetiroedd a geir ym Mhrydain. Nid ydym eisiau plannu miliynau o goed ac yna'u gweld yn cael eu difodi gan afiechydon.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Bangor, Strathclyde, Caergrawnt, Glasgow a Warwick, yn ogystal â Sefydliad James Hutton, newydd gyhoeddi adolygiad ffurfiol llawn o'r holl dystiolaeth gyhoeddedig o bob cwr o'r byd tymherus ynghylch pa opsiynau ar gyfer rheoli coedwigoedd sydd fwyaf effeithiol yn erbyn afiechydon coed (Frontiers of Forestry & Global Change 3: 7. doi: 10.3389 / ffgc.2020.00007). Mae hyn wedi dangos y gall mesurau a gymerir ar ôl i bathogen oresgyn coedwig (megis torri coed a heintiwyd neu rai sy'n debygol o gael eu heintio) wneud dim ond arafu lledaeniad yr afiechyd yn y goedwig. Anaml y maent yn ei atal. Felly, y dull gweithredu gorau o lawer fyddai cynyddu cwarantîn effeithiol i leihau ac arafu ymlediad pathogenau newydd i wlad neu ranbarth, ond anaml y mae hyn i'w weld yn gweithio. Gall sborau llawer o bathogenau, megis y rhai sy'n achosi i goed ynn wywo ar hyn o bryd, gael eu chwythu ymhell gan y gwynt.
Felly canolbwyntiodd yr ymchwilwyr ar y dystiolaeth ar sut y dylid rheoli coedwigoedd i'w gwneud yn fwy gwydn i wrthsefyll unrhyw afiechydon yn y dyfodol nad ydynt wedi cyrraedd eto. Gwelsant fod cefnogaeth gref i gadw coetiroedd unigol ar wahân i eraill er mwyn lleihau lledaeniad pathogenau rhyngddynt. Mae'n fuddiol hefyd i godi boncyffion coed a dorrwyd oherwydd gallant weithredu fel ffynhonnell nerthol o bathogenau i heintio'r coed sy'n weddill mewn coedwig. Fodd bynnag, daw dilema i ganlyn y mesurau hyn, oherwydd ystyrir bod cael gwell cyswllt rhwng coetiroedd a chadw “cynefin coed marw” yn fuddiol ar gyfer bioamrywiaeth.
Ond mewn cyferbyniad, yn ôl y dystiolaeth, dylai cyfuno amrywiaeth o rywogaethau coed mewn coedwig, yn hytrach na chael un math yn unig, a chael mwy o le rhwng y coed, gynyddu gwytnwch yn erbyn pathogenau coed a gwarchod bioamrywiaeth.
Fodd bynnag, nododd awdur cyntaf yr astudiaeth, Dr Michaela Roberts:
“Yr hyn nad ydym yn ei wybod yw ar ba raddfa y mae angen cymysgu gwahanol rywogaethau coed i gael y manteision hyn. Ydi hi'n iawn cael blociau bach o wahanol rywogaethau gyda'i gilydd o fewn coedwig, neu a oes mantais fawr o gael coed o wahanol rywogaethau wedi'u cymysgu yn nes at ei gilydd, er gwaethaf y costau uwch y mae hyn yn eu creu i reoli'r goedwig ar gyfer cynhyrchu pren."
I gloi, dywedodd John Healey, Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol Bangor a phrif awdur yr astudiaeth:
“Mae bylchau enfawr yn y dystiolaeth bresennol ynghylch sut mae’r opsiynau rheoli hyn yn effeithio ar wytnwch gwahanol fathau o goedwig i wrthsefyll gwahanol bathogenau coed. Mae angen i ni sicrhau cydweithio newydd rhwng arbenigwyr mewn bioleg ac epidemioleg pathogenau, ecoleg coedwigoedd, rheolaeth ac economeg, a modelwyr sy'n gallu cyfuno'r holl elfennau hyn er mwyn gwella'r cyngor sydd ar gael i reolwyr coedwigoedd. Bydd hyn yn allweddol fel bod coedwigoedd hen a newydd yn cael eu rheoli i fod mor wydn â phosibl i wynebu holl heriau clefydau coed newydd yn y dyfodol, tra bod yr hinsawdd yn newid yn sylweddol o fewn cyfnod oes un goeden."
Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2020