Cofio’r Athro Mathemateg Er Anrhydedd, Mike Yates
Rydym ni ym Mhrifysgol Bangor yn drist o glywed am farwolaeth ddiweddar yr Athro Mathemateg Er Anrhydedd, Mike Yates.
Wedi’i fagu ym Mhenmaenmawr, tad Mike oedd y Parch John Yates yn ddarlithydd mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1948-1951. Enillodd Mike radd anrhydedd dosbarth cyntaf a PhD ym Mhrifysgol Manceinion ar raddfeydd annatrusiadwyedd Turing. Gan symud i UDA fel Ysgolor Fulbright ym 1963, treuliodd flwyddyn yr un ym Mhrifysgol Cornell, Ithaca, Efrog Newydd a’r Sefydliad Uwch Astudiaethau yn Princeton. Dychwelodd i Brifysgol Manceinion fel Darlithydd a phenodwyd ef yn Athro Rhesymeg Mathemategol ym 1978 cyn gadael ym 1989.
Yn gweld gagendor enfawr rhwng ymchwil uwch a’r ddealltwriaeth boblogaidd o fathemateg, ymunodd â’r mudiad tuag at ddysgu gyda chymorth cyfrifiadur gan arwain at ei gyflogaeth yn y cwmni amlgyfrwng Amaze Ltd yn Lerpwl tan 1999. Yn ystod y cyfnod hwn golygodd y bedwaredd gyfrol a’r olaf o gasgliad gweithiau Alan Turing a oedd yn canolbwyntio ar Rhesymeg Fathemategol, a gyhoeddwyd gan Elsevier yn 2001. Yn 2000 fe’i gwahoddwyd gan Athro Prifysgol Bangor, Ronald Brown, i helpu i gynhyrchu CD ROM ar gyfer Blwyddyn Mathemateg Ewrop 2000, ac yn 2003-4 i adolygu gwefan y Ganolfan Poblogeiddio Mathemateg www.popmath.org.uk.
Roedd Mike yn fynyddwr a dringwr creigiau profiadol; ym 1971 ysgrifennodd y Cwm Silyn a Cwellyn Climber’s Club Guide gyda Jim Perrin a chyflawnodd nifer o esgyniadau cyntaf gan gynnwys West Arete, Craig yr Ogof a Guardian Angel, Craig y Bera, yn ei annwyl Eryri lle bu’n byw gyda’i wraig Pat a’i deulu.
Bydd cydweithwyr Mike yn trefnu colocwiwm Mathemateg i ddathlu bywyd a chyflawniadau Mike yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2021