Cydnabyddiaeth I Amaeth A Choedwigaeth Ym Mhrifysgol Bangor Yng Nghynghriar Ddiweddaraf Prifysgolion Y Byd
Yn safleoedd uchaf Sicrhau Ansawdd ar gyfer Prifysgolion, mae Prifysgol Bangor ymysg y 200 Prifysgol Uchaf yn y Byd am Amaeth a Choedwigaeth. Mae’r safleoedd yn rhoi ystyriaeth i amrywiaeth o ffactorau, yn cynnwys ymchwil, addysgu ac enw da ymysg cyflogwyr ac academyddion.
Ers mwy na chanrif, mae Amaethyddiaeth a Choedwigaeth yn ganolbwynt ar gyfer addysgu ac ymchwil ym Mangor, ac maent bellach yn gydrannau academaidd allweddol o fewn yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (ADNODD) yn y Coleg Gwyddorau Naturiol yn y Brifysgol.
Meddai John Healey, Athro Gwyddorau Coedwigaeth, “mae croeso mawr i’r gydnabyddiaeth hon o statws rhyngwladol uchel a ddyfarnwyd i’n gwaith hymchwil ac haddysgu mewn amaeth a choedwigaeth. Mae’n adlewyrchu hanes hir a llwyddiannus gwaith Bangor yn y pynciau hyn a hefyd proffil uchel ein gweithgaredd presennol. Trwy ein rhaglen bwysig o ymchwil ac addysg ryngwladol, gallwn ymgorffori’r wybodaeth a’r gwaith arloesol diweddaraf i’n cyrsiau gradd, i’n projectau ymchwil ac i’r cyngor a roddwn i lunwyr polisïau. Mae Bangor yn flaengar mewn gwaith ar sialensiau rhyngwladol allweddol ym maes coedwigaeth, yn cynnwys rheolaeth gynaliadwy ar goedwigoedd, cadwraeth ar stociau carbon coedwigoedd, a bioamrywiaeth, adferiad coedwigoedd sydd wedi diraddio, a chydrannau economaidd-gymdeithasol rheolaeth ar adnoddau coedwigol fel eu bod yn dwyn buddion teg i bobl leol.”
Mae’r ffaith fod Bangor wedi’i chynnwys yn safleoedd Prifysgolion Uchaf y byd yn adlewyrchu’r enw da sydd gan y sefydliad, ar raddfa fyd-eang, ym meysydd Amaeth a Choedwigaeth. Er enghraifft, mae myfyrwyr o fwy na 105 o wledydd wedi graddio o Brifysgol Bangor mewn coedwigaeth a phynciau cysylltiedig, tra bo ymchwil amaethyddol y Brifysgol wedi datblygu mathau newydd o gnydau sydd bellach yn bwydo miliynau o bobl yn ne Asia. Gan adlewyrchu pwysigrwydd ehangu cyfranogiad, mae Bangor hefyd wedi chwarae rhan flaengar yn y gwaith o ddatblygu’r ddarpariaeth o gyrsiau ôl-radd yn y pynciau hyn trwy ddysgu o bell. Erbyn hyn, gall myfyrwyr astudio ar gyfer MSc mewn Coedwigaeth neu Goedwigaeth Drofannol trwy raglen ddysgu o bell. Er 2011, mae Comisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad wedi dewis y cyrsiau hyn i dderbyn cyllid, fel y gellir cynnig ysgoloriaethau gwerth mwy na £12,000 i fyfyrwyr o wledydd y Gymanwlad. Ar hyn o bryd, mae cwrs MSC newydd trwy ddysgu o bell, mewn Diogelwch Bwyd yn yr Amgylchedd Newidiol, wrthi’n cael ei ddilysu.
Mae Canolfan Ymchwil Henfaes, sawl milltir o Fangor, yn chwarae rhan bwysig yn ei hymchwil amaethyddol a choedwigol, ac mewn gwaith project gyda myfyrwyr. Mae’r safle 252 erw yn Henfaes yn cyfuno fferm ddefaid weithiol, a reolir ar hyn o bryd gan Gynllun Amaethu Amgylcheddol Tir Gofal, gwarchodfa natur a choedwigol genedlaethol o bwys rhyngwladol, a chyfleusterau ar gyfer ymchwil ac addysgu mewn amrywiaeth o feysydd, yn cynnwys amaethyddiaeth iseldir, coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth.
Bu Dave Chadwick, a benodwyd yn ddiweddar yn Athro Systemau Defnydd Tir Cynaliadwy, hefyd yn croesawu’r gydnabyddiaeth. Ychwanegodd, “bydd yr her o fwydo poblogaeth gynyddol o fodau dynol mewn hinsawdd sy’n newid yn gofyn am ddiwygio systemau cynhyrchu presennol a datblygu rhai newydd, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnolegau arloesol a chost-effeithiol. Ein nod ni ym Mangor yw addysgu a hyfforddi darpar-berchnogion tir, rheoleiddwyr, llunwyr polisïau ac ymchwilwyr, a hynny trwy barhau i gynnwys, o fewn rhaglenni gradd y Brifysgol mewn amaeth, cadwraeth a choedwigaeth, ymchwil a chynlluniau a gydnabyddir yn rhyngwladol”.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2013