Cydweithio newydd mewn ymchwil i sicrhau defnydd cynaliadwy o'r moroedd o amgylch Cymru
Mae Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Bangor yn dod ynghyd i helpu i sicrhau bod y moroedd o amgylch Cymru yn lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn amrywiol yn fiolegol.
Defnyddir llong ymchwil Prifysgol Bangor, y Prince Madog, i gasglu data o'r moroedd o amgylch Cymru, a fydd yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni ei gofynion o ran sicrhau tystiolaeth yn ymwneud â'r môr a physgodfeydd.
Mae casglu tystiolaeth o'r moroedd o amgylch Cymru yn hanfodol er mwyn cynnal safonau da yn ein hamgylchedd môr. Mae hyn yn cynnwys datblygu targedau, dangosyddion, meini prawf asesu a rhaglenni monitro priodol i sicrhau data perthnasol.
Ar ôl Brexit, mae'n amlwg bod angen i Gymru gryfhau ei galluoedd ym maes gwyddor môr a chasglu data, ac mae sicrhau hynny wedi dod yn fater o frys bellach wrth i'r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd y cydweithio newydd hwn yn helpu i sicrhau dyfodol y llong ymchwil Prince Madog.
Meddai Lesley Griffiths, : “Rydym eisiau i foroedd Cymru fod yn lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn amrywiol yn fiolegol. Rwy'n falch ein bod wedi gallu cydweithio â Phrifysgol Bangor gan y bydd hyn yn ein helpu i gyflawni ein gofynion o ran sicrhau tystiolaeth yn ymwneud â'r môr a chasglu data.
“Mae’n arbennig o amserol wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd a dechrau cynllunio a gweithio ar asesiadau pysgodfeydd allweddol. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau dyfodol llong ymchwil y Prince Madog ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. ”
Dywedodd Yr Athro David Thomas, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor: “Nid oes amheuaeth bod deall ein hadnoddau môr, a’u rheolaeth gynaliadwy, yn her enfawr sy’n wynebu gwyddonwyr a llywodraethau fel ei gilydd.
“Mae’r Prince Madog yn gyfrwng gwych i gyflawni’r math o waith arolwg arloesol sydd ei angen ar dîm pysgodfeydd Llywodraeth Cymru ac rydym yn falch o fod yn gweithio gyda nhw dros y ddwy flynedd nesaf.”
“Bydd Prifysgol Bangor yn darparu'r arbenigedd technegol a'r offer ac, ynghyd â P&O Maritime sy’n gweithredu’r llong gyda ni, rydym yn hyderus y bydd hyn yn ddechrau cyfnod llawer hirach o gydweithio. Mae'r llong ymchwil yn adnodd gwerthfawr i Gymru, ac rwy'n mawr obeithio mai dyma ddechrau partneriaeth hir dymor i ddiogelu ein moroedd am genedlaethau i ddod, ac y bydd y Prince Madog yn rhan ganolog o hynny.”
Mae'r cydweithio hwn yn adeiladu ar ddegawdau o arbenigedd a ddatblygwyd yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, lle mae ymchwil i reoli pysgod a physgod cregyn ym Môr Iwerddon, ac ymhellach i ffwrdd, wedi bod wrth wraidd llawer o'r gwaith sy'n cael ei wneud.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2019