Datgelu'r hyn sydd o dan y dyfroedd
A ydych erioed wedi edrych allan tuag at y môr oddi ar arfordir Cymru a cheisio dychmygu’r olygfa tasai’r môr rhywsut yn cael ei dynnu o’r darlun?
Diolch i ganlyniadau project ymchwil SEACAMS diweddar gan Brifysgol Cymru, a gyllidwyd yn rhannol gan Swyddfa Cyllido Cymru Ewrop (WEFO), mae hyn wedi ei wireddu ar gyfer rhai lleoliadau eiconig o amgylch arfordir Cymru.
Mae gwyddonwyr yn Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol yn cynnal ystod o brojectau ymchwil sydd yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o’r amgylchedd forol ac arfordirol am sawl rheswm gwahanol, gan gynnwys effaith newid hinsawdd, datblygu pysgodfeydd cynaliadwy a rhoi cymorth i rai sydd yn datblygu projectau creu ynni adnewyddol. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, mae angen gwybodaeth elfennol ond sy’n manylu ar gyflwr gwely’r môr, sut mae’n edrych, o ba ddeunydd y’i gwnaed a sut y mae’n newid dros raddfeydd amser o ganlyniad i symudiad y dŵr uwchben.
Llwyddir i fapio gwely’r môr mewn manylder drwy ddefnyddio offer drud a soffistigedig o’r enw sonar aml-belydr, sydd yn gweithio yn yr un modd a seinblymiwr ac yn gweithio drwy yrru pwls sain sydd yn taro’r llawr ac yn sboncio’n ôl. Mae’r dyfnder yn cael ei fesur yn ôl yr amser a gymerir i’r pelydr ddychwelyd.
Mae tîm o wyddonwyr sydd ynghlwm wrth y Project SEACAMS wedi bod yn defnyddio’r dechnoleg i fapio ardaloedd eang o wely’r môr o amgylch Ynys Môn, penrhyn Llŷn ac ardaloedd oddi ar arfordir de Cymru gan ddefnyddio fflyd o longau gan gynnwys y Prince Madog, llong maint 35 medr sydd wedi ei leoli ym Mhorthaethwy. Am y tro cyntaf, mae’r canlyniadau wedi eu gosod ar ddelweddau Google Earth gan ddarparu cyd-destun i i’r nodweddion o ddiddordeb sy’n cynnwys banciau tywod symudol, creigiau, sgwriad gwely’r môr a llongddrylliadau.
Mae llong drylliadau o ddiddordeb neilltuol. Yn ogystal â bod o ddiddordeb hanesyddol amlwg, gall gwyddonwyr môr ddysgu llawer drwy astudio symudiad y dŵr a’r gwaddod o’u hamgylch, a’r rôl y maent yn ei chwarae wrth greu amgylcheddau newydd ar gyfer planhigion ac anifeiliaid. Gall y wybodaeth hon wedyn fod yn ddefnyddiol i ddatblygwyr projectau ynni morol a’u peirianwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ebrill 2016