Diddordeb yn y Pecyn Gwybodaeth Amaeth-ecolegol yn parhau i dyfu: Staff ADNODD yn cyflwyno mwy o hyfforddiant
Mae staff ADNODD newydd ddychwelyd o Ethiopia, lle bu iddynt, mewn partneriaeth gydag ICRAF, gyflwyno cwrs hyfforddiant yn llwyddiannus ar ddefnyddio'r AKT5 (Pecyn Gwybodaeth Amaeth-ecolegol) i amrywiaeth o fudd-ddeiliaid, gweithwyr proffesiynol a myfyrwyr.
Y cwrs diweddar yw'r digwyddiad diweddaraf a gyflwynwyd gan staff ADNODD fel y mae diddordeb yn y fethodoleg a'r meddalwedd AKT5 yn parhau i dyfu. Cynhaliwyd y cwrs pythefnos fis Chwefror 2013 yn Adama, tua 50km i'r de-orllewin o'r brifddinas Addis Ababa, a mynychodd nifer o fudd-ddeiliaid o'r wlad, myfyrwyr Coedamaeth MSc ADNODD, staff ICRAF o'u pencadlys yn Nairobi a sefydliadau partner yn Rwanda dan broject Trees for Food Security ACIAR.
Datblygwyd AKT (y Pecyn Gwybodaeth Amaeth-ecolegol) gan ymchwilwyr yn ADNODD, ac mae'n ymwneud yn bennaf â chasglu gwybodaeth ecolegol leol (http://akt.bangor.ac.uk). Mae gwybodaeth ecolegol leol yn cyfeirio at yr hyn mae pobl yn ei wybod am eu hamgylchedd naturiol, wedi'i seilio'n bennaf ar eu profiad eu hunain ac arsylwi.
Drwy ddarlithoedd ac ymarferion ymarferol, dysgodd y rhai a gymerodd ran sut i ddefnyddio'r meddalwedd AKT5 i greu sylfeini gwybodaeth unigol gan ddefnyddio'r cyfweliadau a wnaethant mewn grwpiau bychain o ddau neu dri yn y maes. Cyfunwyd ymarferiadau ymarferol gyda chyfweliadau lled-stwythuredig a thrafodaethau grwpiau ffocws, yn cynnwys mapio adnoddau, llinellau amser hanesyddol, a chalendrau tymhorol.
Roedd y pynciau o bryder amgylcheddol yr ymdriniwyd â nhw yn ystod cyfweliadau'n cynnwys y mathau o bridd yn yr ardal, trefniant gofodol coed yn y dirwedd ac ar ffermydd, elfennau tymhorol rheoli coed, y porthiant tymhorol sydd ar gael ac ymarferion cynaeafu.
Yn dilyn yr hyfforddiant, mae dau fyfyriwr o ADNODD (Matthias Schmidt a Martha Ataa-Asantewaa) yn awr yn dechrau ar eu gwaith maes MSc dros y tri mis nesaf yn ardal Oromiya yn Ethiopia dan broject Trees for Food Security ACIAR.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2013