Diwrnod Graddio Prifysgol Bangor 2017
**At sylw holl raddedigion Gorffennaf 2017 /**
Fel rydych yn gwybod eisoes mae’n debyg, cynhelir Seremoni Raddio Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2017 am 3 y prynhawn ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.
Hoffai’r Ysgol eich gwahodd chi a’ch teulu i gael lluniaeth ysgafn yn y babell y tu allan i'r Ganolfan Reolaeth rhwng 5pm a 6pm. Bydd hwn yn ddigwyddiad anffurfiol a fydd yn rhoi cyfle i chi ddathlu yng nghwmni eich cyd-fyfyrwyr a'ch teuluoedd a staff y Brifysgol. Rwy’n mawr obeithio y gellwch ddod.
Bydd llun grŵp yn cael ei dynnu yn y Cwad yn syth ar ôl y seremoni. Mae’r Ysgol yn dyfarnu nifer o wobrau i fyfyrwyr a bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi tua 5:15 o’r gloch yn y Ganolfan Rheolaeth.
Yn gywir
Yr Athro Morag McDonald
Pennaeth yr Ysgol
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2017