Doethuriaethau wedi'u hariannu'n llawn ar gael mewn Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Chyfrifiadura Uwch
Cyhoeddodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig bod ganddynt ddwy swydd PhD wedi'u hariannu'n llawn ar gael ym maes Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Chyfrifiadura Uwch (AIMLAC) i ddechrau Hydref 2022.
Bydd cyllid yn talu am gost lawn y ffioedd dysgu a thâl blynyddol o £15,921, ynghyd â chyllid ychwanegol ar gael ar gyfer costau ymchwil. Mae'r lleoedd ar gael i fyfyrwyr o'r Deyrnas Unedig a thramor.
Dywedodd yr Athro Jonathan Roberts (arweinydd Bangor ar broject AIMLAC) “Bydd y maes Deallusrwydd Artiffisial yn newid ein bywydau. Rydyn ni eisoes yn gweld systemau ffôn awtomataidd a byddwn yn gweld llawer mwy o systemau ‘clyfar’. Mae rhaglen hyfforddi PhD AIMLAC felly yn gyfle gwych i ddau unigolyn gael eu hyfforddi mewn Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Chyfrifiadura Uwch. Mae prinder enfawr o ymchwilwyr yn y maes hwn, ac rydym yn gyffrous i allu hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr cyfrifiadura. Yn y Brifysgol rydym yn ymchwilio i ystod eang o bynciau. Mae'r rhain yn cynnwys dadansoddi data, delweddu, rhithrealiti, dysgu dwys a phrosesu iaith naturiol. Rydym yn rhoi’r sgiliau hyn ar waith gydag ystod amrywiol o setiau data amgylcheddol, gwyddonol a chymdeithasol. Bydd myfyrwyr yn cael mynediad at uwchgyfrifiadura Cymru a dod yn rhan o dîm deinamig. Hoffech chi ddod yn arweinydd yn y dyfodol mewn Deallusrwydd Artiffisial, Data a Chyfrifiadura?”
Bydd yr ysgoloriaethau PhD 4 blynedd ar gael yn y Ganolfan UKRI ar gyfer Hyfforddiant Doethurol mewn Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Chyfrifiadura Uwch (CDT-AIMLAC, http://cdt-aimlac.org/) a bydd y ddau fyfyriwr wedi'u lleoli ym Mhrifysgol Bangor, yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig (CSEE).
Aeth yr Athro Roberts ymlaen i ddweud “Eleni rydym yn cynnig dau le wedi’u hariannu’n llawn. Mae gennym bedwar project, sy'n ymdrin ag ystod o heriau yn y maes hwn. O ddadansoddi delweddau clyfar, Deallusrwydd Artiffisial esboniadwy, realiti cymysg a rhithrealiti, i Brosesu Iaith Naturiol. Rhaid i ymgeiswyr nodi eu dewis o ddau broject o leiaf”. Am fanylion llawn y project a'r broses gwneud caisi, dilynwch y cyswllt i manylion y cwrs a gwnewch gais erbyn 12 Chwefror 2022.
Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus wneud elfen hyfforddedig ym mlwyddyn 1 (a rennir rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Bryste, Caerdydd ac Abertawe) a chymryd rhan mewn lleoliadau (tua chwe mis). Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cofrestru ym Mhrifysgol Bangor, dan ofal yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig trwy gydol eu cyfnod astudio. Dylai ymgeiswyr feddu ar o leiaf radd 2:1, dangos sgiliau rhaglennu rhagorol ac wedi dilyn rhaglen radd addas, e.e. mewn cyfrifiadureg, mathemateg neu beirianneg electronig (gyda rhaglennu sylweddol). Rhaid i ymgeiswyr fod â diddordeb mewn Deallusrwydd Artiffisial, dysgu peirianyddol a chyfrifiadura uwch a Saesneg ysgrifenedig a llafar rhagorol (IELTS 6.5).
Gwybodaeth bellach
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Athro Jonathan Roberts j.c.roberts@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2022